
Walk © Sarah Callon
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Ymunwch â ni am daith gerdded hamddenol yng nghefn gwlad godidog Llyn Brenig. Cyfle i ddarganfod bywyd gwyllt lleol, mwynhau’r golygfeydd godidog, a mwynhau cwmni pobl eraill sy’n hoff o fyd natur ar y daith gerdded grŵp braf yma.
O dan arweiniad Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig, mae'r digwyddiad yma’n gyfle i chi ailgysylltu â byd natur a rhannu eich angerdd dros fywyd gwyllt. Os ydych chi'n wyliwr adar profiadol neu'n chwilio am ddihangfa heddychlon, mae hon yn ffordd ragorol o gefnogi achos gwych wrth fwynhau harddwch y dirwedd o'ch cwmpas chi.
Mae'r holl elw’n cefnogi gwaith Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig i warchod y gweilch sy'n magu ar y safle ac i helpu pobl i gysylltu â'r adar ysglyfaethus anhygoel yma.
Mae'r daith gerdded gylch yma, ar lefel ganolig, yn 7 milltir o hyd gan ddechrau ym maes parcio cronfa ddŵr Alwen.
Llwybr Cerdded Alwen: llynbrenig.com/alwen-walking-trail/
O dan arweiniad ein tîm anhygoel ni o staff a gwirfoddolwyr cyfeillgar ym Mhrosiect Gweilch y Pysgod y Brenig. Byddant yn arwain teithiau cerdded misol yng nghefn gwlad o amgylch Llyn Brenig, felly cadwch lygad am fwy o ddigwyddiadau i ddod yn fuan! Beth am ymuno â ni ar gyfer ein taith gerdded yn y coetir ar 28 Mehefin?
Bwcio
Pris / rhodd
£5Gwybodaeth archebu ychwanegol
Rhaid cofrestruYn addas ar gyfer
Oedolion, Arbenigwyr, DechreuwyrGwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn.