Gwylio’n Fyw y Brenig

Three osprey, large bird of prey with mottled brown and white feathers, white heads with dark eye-stripe, and piercing yellow eyes, sat on a nest.

ospreys © David Wittrick

Gwylio’n Fyw y Brenig

Online
Mae Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig yn falch o gyflwyno Gwylio’n Fyw y Brenig, gan rannu byd cyfareddol y gweilch y pysgod a’r bywyd gwyllt anhygoel arall sydd i’w gael o amgylch ardal hardd Llyn Brenig.

Manylion y digwyddiad

Dyddiad

Time
6:30pm - 7:30pm

Ynglŷn â'r digwyddiad

Yn galw ar bawb sy’n hoff o fywyd gwyllt!

Mae Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig yn falch o gyflwyno Gwylio’n Fyw y Brenig - darllediad misol ar YouTube sy’n cael ei ffrydio’n fyw. Byddwn yn rhannu byd cyfareddol y gweilch y pysgod a’r bywyd gwyllt anhygoel arall sydd i’w gael o amgylch ardal hardd Llyn Brenig.

Yn cael ei gyflwyno gan y staff a'r gwirfoddolwyr ymroddedig y tu ôl i'r prosiect, bydd pob pennod yn mynd â chi’n nes at y gweilch y pysgod a’r bywyd gwyllt arall o gysur eich cartref!

Mae uchafbwyntiau'r bennod gyntaf yn cynnwys:

  • Y stori am sut dechreuodd Prosiect Gweilch y Pysgod y Brenig
  • Cwrdd â'n gwirfoddolwyr ni wrth iddyn nhw rannu eu hoff atgofion am y gweilch
  • Drama a hynt a helynt y gweilch
  • Llên gwerin cyfareddol am weilch y pysgod
  • Cipolwg ar yr hyn sydd i ddod nesaf
  • Cwestiynau ac Atebion gan y gwylwyr.

Os ydych chi'n wyliwr adar ers blynyddoedd lawer neu ddim ond yn chwilfrydig am ryfeddodau bywyd gwyllt Cymru, Gwylio’n Fyw y Brenig ydi eich sedd chi yn y rhes flaen i archwilio hud byd natur ar waith.

Mae ein sianel YouTube ni ar gael yma: www.youtube.com/@NorthWalesWildlifeTrust

Bydd y penodau yma’n cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf.

Bwcio

Pris / rhodd

Croesawn rhoddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Cysylltwch â ni