Gallwch chi helpu i ddod â'n chwilod yn ôl

Gallwch chi helpu i ddod â'n chwilod yn ôl

Common Dumble Dor © Vaughn Mattews

Lawrlwythwch eich canllaw AM DDIM i Dod â Chwilod yn Ôl i’ch gardd eich hun, gyda chyfarwyddiadau ar gyfer adeiladu eich bwced chwilod eich hun, neu fanc chwilod neu wrych marw.

Yn syml, mae chwilod yn byw ym mhob man ac yn gwneud pob peth.

Green Tiger Beetle

© Chris Lawrence

Mae cymaint o wahanol fathau o chwilod yn y DU (4000+ o rywogaethau) fel eich bod yn siŵr o ddod o hyd iddyn nhw ym mhob twll a chornel o'ch gardd. Gan eu bod wedi bod o gwmpas am fwy o amser na'r rhan fwyaf ohonom ni (tua 230 miliwn o flynyddoedd) maen nhw wedi esblygu dros amser i fod yr organeb fwyaf amrywiol ar y blaned yma. A dweud y gwir, mae un o bob pedwar anifail ar y Ddaear yn chwilen ...ac mae gwyddonwyr yn dal i ddarganfod mwy!

Nid yn unig mae chwilod yn dod mewn amrywiaeth anhygoel o liwiau, meintiau a siapiau – maen nhw hefyd yn ysglyfaethwyr pwysig, maen nhw’n gweithredu fel bwyd ar gyfer anifeiliaid mwy (fel draenogod ac adar), ac yn peillio ein blodau a'n cnydau. Maen nhw hyd yn oed yn helpu i ailgylchu maethynnau, drwy fwyta a threulio planhigion a dychwelyd eu daioni yn ôl i'r pridd.

Efallai bod buchod coch cota, chwilod y dail, chwilod y gerddi, chwilod daear, chwilod crwydr a chwilod hirgorn ymhlith y chwilod mwy adnabyddus yn ein gerddi ni, ond mae cymaint mwy i'w darganfod. Maen nhw’n byw mewn dŵr, yn y pridd, i fyny coed, mewn tyllau gwenyn a nythod morgrug, ac yn ein cartrefi ni; maen nhw'n ymweld â blodau, yn goruchwylio dail, ac maen nhw'n hedfan ac yn rhoi braw i ni pan fyddan nhw'n taro i mewn i'n ffenestri yn y nos. Maen nhw'n anhygoel, ond mae arnyn nhw angen eich help chi. 

Lawrlwythwch eich canllaw AM DDIM i Dod â Chwilod yn Ôl i’ch gardd eich hun, gyda chyfarwyddiadau ar gyfer adeiladu eich bwced chwilod eich hun, neu fanc chwilod neu wrych marw. Gwnewch adduned i greu cartref i chwilod a'i weld yn ymddangos ar ein map o'r DU!

Lawrlwytho Canllaw AM DDIM yma

Stag Beetle

Stag Beetle ©Terry Whittaker