Ymateb Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i Goronafeirws

Ymateb Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i Goronafeirws

Mae iechyd a lles y cyhoedd, gwirfoddolwyr a staff yn hollbwysig i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Diweddariad: 20 Rhagfyr 2020

Yn unol ag argymhellion y DU rydyn ni wedi paratoi ymateb manwl i'r risgiau cysylltiedig â Covid-19 i'n staff, ein gwirfoddolwyr a’n hymwelwyr, gan gynnwys contractwyr a gweithwyr dros dro, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd sy’n cael eu heffeithio efallai gan weithrediadau’r Ymddiriedolaeth.

Darllen mwy

Digwyddiadau

Dim ond fel mae rheoliadau y clo yn caniatáu fydd digwyddiadau ymarferol yn cael eu rhedeg gan YNGC.  Fe fydd y rheini sydd yn cymryd lle yn cael eu rhedeg gyda amodau diogelwch priodasol mewn bodolaeth, yn cynnwys pellterau cymdeithasol a sicrhau fod cyfleusterau glanhau/glanweithiol yn cael eu darparu. 

Rydym hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau digidol rhagorol – gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar ein gwefan ni, yr e-newyddion a’r sianelau cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf!

Digwyddiadau

Gweithgareddau gwirfoddolwyr

Byddwn yn parhau i gynnal a hyrwyddo ein rhaglen wirfoddoli arferol, o ystyried bod teithio i ddarparu "gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol" yn cael ei ganiatáu gan Lywodraeth Cymru.  Fel gyda digwyddiadau, bydd yr holl wirfoddoli gydag YNGC yn digwydd gyda mesurau diogelwch priodol yn eu lle.

Gwarchodfeydd Natur

Mae ein 36 o warchodfeydd natur ar agor, yn eich helpu chi i gynnal cyswllt â byd natur. Plîs cofiwch y dylech gadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol bob amser wrth ymweld â’r safleoedd hyn, a chadw at y Cod Cefn Gwlad. Gallwch gysylltu â ni ymlaen llaw am fanylion os ydych chi’n dymuno.

Dod o hyd i’ch gwarchodfa natur leol

Swyddfeydd

Mae’r gwaith cefnogi craidd yn y swyddfeydd wedi cael ei leihau i ddau aelod o staff. Mae pob aelod arall o staff sy’n gallu gweithio o gartref yn gwneud hynny. Nid yw Llys Garth ar agor i’r cyhoedd.   

Aelodaeth

Mae ein haelodau’n bwysicach i ni nawr nag erioed. Mewn cyfnod mor gythryblus, mae cefnogaeth gyson y rhai sy’n caru bywyd gwyllt yn allweddol i helpu i’n cynnal ni drwy’r cyfnod anodd yma. Diolch yn fawr, pawb!

Dod yn aelod

Masnachu

NWWT Trading ym Mharciau Gwledig y Morglawdd a’r Gogarth. Mae ein siopau ni’n dibynnu ar ymdrech wirfoddol eithriadol yn llwyr. Maen nhw ar gau o hyd yn anffodus ac felly rydyn ni’n colli incwm o werthiant a chyfraniad unigryw ein gwirfoddolwyr ni. Mae gennym ni siop ar-lein o hyd, felly plîs edrychwch arni i’n cefnogi ni yn ein gwaith.

Siop