Chwilio am greaduriaid y nos ...

Chwilio am greaduriaid y nos ...

Nightjar adult male alighting on song perch - David Tipling 2020Vision

Yr amser gorau i weld bywyd gwyllt cyffrous fel y troellwr, gwyfynod a phryfed tân yw yn y gwyll ar nosweithiau cynnes o haf. Gallwch fentro allan ar eich pen eich hun – neu ymuno ag un o’n teithiau tywys ni!

 

Mae troellwyr yn ymwelwyr haf swil tua’r un maint â bronfraith fawr ac maen nhw’n cyrraedd o Affrica yng nghanol mis Mai ac yn gadael ddiwedd yr haf. Roedd yr aderyn yma’n arfer bod yn gyffredin yng Ngogledd Cymru, ar lethrau o brysgwydd a thwyni tywod, ond heddiw ar rostir arfordirol mae i’w weld yn bennaf ac mewn coedwigoedd sydd wedi’u torri’n ddiweddar. Mae’n nythu ar y ddaear ac yn guddliw er mwyn osgoi ysglyfaethwyr – felly’n anodd iawn i ni ei weld. Wrth lwc, mae’r aderyn yma’n dod yn fyw wrth iddi dywyllu, gyda’r gwrywod a’u cri rhincian nodedig yn clwydo ar gangen farw, a’r ddau ryw yn hedfan hyd y lle yn hela gwyfynod.

Mae YNGC yn falch o fod â sawl gwarchodfa natur sydd â throellwyr yn magu ac mae croeso i chi ymuno â ni ar daith dywys yn y gwyll. Rydych chi’n siŵr o glywed y sŵn rhincian ac yn debygol iawn o weld yr aderyn yma’n agos! Yr opsiynau yw Cors Bodgynydd yng Nghoedwig Gwydyr (Mehefin 8 ac 16) neu Waith Powdwr ger Penrhyndeudraeth (Mehefin 15 ac 20).

Mae pryfed tân yn rhywogaeth swil arall i’w gweld yn y gwyll, pryd bydd pen ôl y benywod sydd ddim yn gallu hedfan yn goleuo’n wyrdd. Mae’r gwrywod yn hedfan o gwmpas yn y gwyll yn chwilio am y golau gwyrdd a dyma sut maen nhw’n dod at ei gilydd! Maen nhw’n bwyta malwod sydd i’w gweld fel rheol ar galchfaen, felly mae’r Gogarth yn lle da i’w gweld nhw. Gallech chi ymuno â thaith gerdded YNGC yno ar Fehefin 22, a byddwch hefyd yn gallu astudio’r gwyfynod sy’n cael eu denu i drap gwyfynod. Bydd ein harweinwyr yn gallu eu hadnabod i chi, ac amlinellu hanes eu bywyd.

36 Gwarchodfa Natur anhygoel i ymweld â hwy!

Os nad oes modd i chi ddod i unrhyw rai o’r digwyddiadau sydd wedi’u nodi uchod, fe allwch chi ddod ar ymweliad â’r gwarchodfeydd natur sydd wedi’u crybwyll yr un fath - mae’r manylion llawn ar gael ar ein gwefan ni. Os byddwch yn mynd yn y gwyll, ewch gyda ffrind am resymau iechyd a diogelwch, a chofiwch fynd â fflachlamp gyda chi. Cofiwch hefyd ddweud wrthym ni beth rydych chi wedi’i weld!