AC yn ymweld â Thirwedd Fyw Corsydd Môn

AC yn ymweld â Thirwedd Fyw Corsydd Môn

Frog orchid © Philip Precey

Croesawyd wleidydd lleol a dylanwadol, gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, i wylio’r gwaith sydd yn cymryd lle yn yr ardal a chryfhau cysylltiadau

Roedd yn bleser cael tywys Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, o amgylch Tirwedd Fyw Corsydd Môn ddydd Llun 17 Mehefin. Ar ôl ymweliad i ddechrau â Gwarchodfa Natur Cors Goch yr Ymddiriedolaeth Natur, lle defnyddiwyd y cyfle i drafod y problemau o bwys i’r corsydd (gan gynnwys llygredd a darnio), aethom ymlaen i ambell safle prosiect arall gerllaw. Cafwyd cyfle i weld pyllau, dôl o flodau gwyllt, glannau gwenyn, gwaith yn clirio rhywogaethau ymledol a gwrychoedd sydd wedi cael eu creu o dan y prosiect, gan ychwanegu cynefinoedd gwerthfawr at y dirwedd.

Rhun ap Iorwerth, Aelod y Cynulliad tros Ynys Môn gyda Henry Cook, Swyddog Tirwedd Fyw Corsydd Môn

Rhun ap Iorwerth, Aelod y Cynulliad tros Ynys Môn gyda Henry Cook, Swyddog Tirwedd Fyw Corsydd Môn

Dywedodd Henry Cook (Swyddog Tirwedd Fyw Corsydd Môn) ei fod “yn gyfle gwych i ddangos i wleidydd dylanwadol yn y rhanbarth y gwaith y mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ei wneud gyda chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r Dirwedd Fyw yn symud cadwraeth natur y tu hwnt i ffiniau ein gwarchodfeydd natur ni ac i’r dirwedd ehangach drwy weithio gyda chymunedau lleol er mwyn creu ecosystem fwy cysylltiedig ac, o’r herwydd, gadarnach.”

Roedd yr ymweliad yn amseru perffaith ar gyfer arddangosfa ragorol o degeirianau, a edmygwyd gan bawb, gan gynnwys y paladr blodeuwyrdd prin ar ochr ffordd. Tynnodd hyn sylw at bwysigrwydd yr ymylon i fywyd gwyllt ac fel ardaloedd i’r cyhoedd eu mwynhau wrth gerdded, beicio a gyrru. Rydym yn gobeithio gweithio gyda Rhun i sicrhau bod mwy o ymylon ffyrdd Ynys Môn yn cael eu rheoli’n well ar gyfer y dyfodol.

Mae Rhun i’w weld yn y llun gyda Henry yn dangos llyfr newydd yr Ymddiriedolaeth Natur, Llefydd Gwyllt i’w Darganfod. Mae’r canllaw yma i’n gwarchodfeydd natur ni a’n llecynnau pwysig i fywyd gwyllt ar hyd yr arfordir ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg o ganolfannau’r Ymddiriedolaeth ac o’n siop ni ar y we.

 

Ewch i dudalen y prosiect am fwy o wybodaeth ac i gael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan.