Gwarchodfa Natur Y Graig

Y Graig

© NWWT

Y Graig nature reserve

Y Graig nature reserve

Bluebells

Bluebells - Katrina Martin 2020Vision

Green hairstreak

Green hairstreak © Paul Thrush

Hebridean sheep

Hebridean sheep © Martin Baxter

Green woodpecker

Margaret Holland

Y Graig

© NWWT

Gwarchodfa Natur Y Graig

Hafan i flodau gwyllt a glöynnod byw gyda golygfeydd cyfareddol draw dros Ddyffryn Clwyd a thu hwnt!

Location

Tremeirchion
Sir Ddinbych
LL16 4EN

OS Map Reference

SJ 083 721
OS Explorer Map 264
A static map of Gwarchodfa Natur Y Graig

Know before you go

Maint
9 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae parcio ar gael mewn cilfan yn SJ 083 723, ger Bueno's Huts, 5 munud ar droed o'r brif fynedfa

Anifeiliaid pori

Defaid, diwedd yr haf neu’r gaeaf.

Llwybrau cerdded

Mae taith gerdded gylchol dros dir anwastad serth yn arwain at fyrddau picnic yn cynnig golygfeydd ysblennydd

Mynediad

Mae esgidiau addas yn hanfodol ar y safle hwn gan fod y llwybr sy’n arwain i’r copa’n serth. Cadwch draw o wyneb y chwarel a pheidiwch â chroesi’r ffensys.  

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Haf ar gyfer blodau gwyllt, yn enwedig rhosyn creigiau

Am dan y warchodfa

Hafan ar lethrau’r bryn

Wedi’i lleoli ar allgraig galchfaen, mae’r warchodfa hon yn cynnwys cynefinoedd amrywiol ac mae’n hafan i fywyd gwyllt yng nghanol ei hamgylchedd hynod amaethyddol. Coetir yw gogledd y safle; mae’r derw, y ffawydd a’r llwyfenni’n creu canopi trwchus, cysgodol ac oddi tano mae lliwiau clychau’r gog, clust yr arth a fioled y cŵn yn disgleirio yn y gwanwyn. Mae synau adar y coetir yn eich amgylchynu chi ac mae glöynnod byw brith y coed yn troelli yng nghanol y canopi. Wrth i’r llethrau droi’n serthach, mae’r coetir yn newid i fod yn laswelltir ac mae’r golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Clwyd i’w gweld o’ch blaen. Mae arddangosfeydd rhyfeddol o rosod y graig yn gorchuddio’r glaswelltir ac yn dynodi dyfodiad yr haf, gan lenwi’r dirwedd gyda melyn llachar. Wrth iddi nosi, mae’r glaswelltir yn datgelu cyfrinach yr haf: daw golau gwyrdd cynnil y pryfed tân i gymryd lle lliwiau llachar y blodau gwyllt yn ystod y dydd.

Defaid tymhorol

Mae’r glaswelltir yn cael ei bori’n ysgafn gan ddefaid Hebrideaidd o ddiwedd yr haf tan y gaeaf, ac mae hynny o fudd i lawer o’r planhigion brodorol drwy gynnal lefelau maethynnau isel yn y pridd. Mae pori, a chael gwirfoddolwyr i dorri’r mieri yn ôl, yn helpu i gadw’r prysgwydd a’r egin-goed sy’n ymledu draw. Nid oes llawer o ymyriadau’n digwydd yn y coetir: mae’n cael ei reoli fel fforest, gyda dim ond ambell goeden yn cael ei thorri i agor y canopi. Mae hyn yn sicrhau bod golau’r haul yn cyrraedd fflora’r ddaear ac yn annog coed newydd i ddatblygu ac adfywio’r coetir.

Cyfarwyddiadau

Mae gwarchodfa’r Graig i’w gweld ryw 0.5 milltir i’r de o Dremeirchion, ychydig oddi ar y B5429. O’r A55, ewch tua’r de yn Rhuallt, ar y B5429. Ewch drwy Dremeirchion a chadw llygad am dŷ carreg a chapel brics coch ar y dde. Yn union gyferbyn â’r adeiladau hyn, trowch ar y lôn lle gallwch barcio a chael mynediad i’r warchodfa drwy giât cae neu dros gamfa (SJ 083 721).

Contact us

Paul Furnborough
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)