Gwarchodfa Natur Nantporth

Nantporth Nature Reserve

Nantporth Nature Reserve © NWWT Chris Wynne

A nuthatch, a small bird with yellow belly and grey wings, and a distinctive black eye stripe. Stood on a broken piece of wood that is dark from recent rain and growing vegetation. The nuthatch is facing left but with it's head turned slightly forward so it appears to be looking directly into the camera.

Nuthatch © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Nantporth Nature Reserve

Nantporth Nature Reserve_Chris Wynne

Jay

Jay - Mark Hamblin 2020Vision

Wood anemone

Wood anemone © Bruce Shortland

Bydd adar rhydio’r arfordir ac adar y coetir yn aros amdanoch chi yn y darn hyfryd yma o goetir sy’n edrych dros Afon fyd-enwog Menai.

Location

Bangor
Gwynedd
LL57 2BN (northern entrance)

OS Map Reference

SH573725 for northern entrance
SH566720 for southern entrance
OS Explorer Map OL17
A static map of Gwarchodfa Natur Nantporth

Know before you go

Maint
8 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

- Mae’r gofod parcio’n brin iawn ger pen gogleddol y warchodfa ar Ffordd Gorad neu Ffordd Hwfa (LL57 2BN); nid oes lle parcio yn y pen deheuol

Anifeiliaid pori

Na

Llwybrau cerdded

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy'r warchodfa a gellir ei gyrchu o bennau gogleddol a deheuol y warchodfa.

Mynediad

Gall y darn o Lwybr Arfordir Cymru sy’n mynd drwy’r warchodfa fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb ac mae’n cynnwys stepiau, camfeydd a darnau serth.  Nid yw’r traeth gerllaw yn rhan o’r warchodfa natur; plîs byddwch yn ymwybodol o’r amodau llanwol os ydych yn ymweld â’r ardal.            

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn / Yr Haf ar gyfer adar a blodau

Am dan y warchodfa

Coetir, cerdded ac adar rhydio

Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru o dan ganopi agored y coetir ynn arfordirol yma, sydd hefyd yn cynnwys cerddin gwyn prin a derw, bedw ac aethnenni. Yn y gwanwyn, mae golau brith yr haul yn goleuo gwyn a melyn blodau’r gwynt a’r briallu ar lawr y coetir, blodau sy’n brysio i flodeuo cyn i’r coed ddeffro’n llawn a’u taflu i’r cysgod. Mae canopi amrywiol y safle’n creu cynefin perffaith ar gyfer casgliad o adar y coetir; gwrandewch am alaw hyfryd y telor penddu a chri fain telor y cnau a’i blu llwyd ac oren hardd. Mae’r synau yma’n nodweddiadol o’r coetir ac, am yn ail, fe glywch chi gri ‘clip’ dreiddgar pïod y môr wrth iddynt fynd heibio, a chri ailadroddus y pibydd coesgoch, wrth iddo deithio ar hyd glannau Afon Menai. Adfywiad naturiol y coetir yw’r nod yma. Ychydig iawn o waith tocio mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn ei wneud i wneud y coetir mor amrywiol â phosib, gan adael pren marw i fod o fudd i infertebrata.

Oeddech chi’n gwybod?

Roedd Nantporth yn chwarel galchfaen ar un adeg. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn pantiau’r hen domenni gwastraff ac mae’r hen weithfeydd i’w gweld o hyd os edrychwch chi’n ofalus yng nghanol y rhedyn a’r mwsoglau.

Cyfarwyddiadau

Trowch oddi ar yr A5 ar gyrion Bangor Uchaf ar Ffordd Siliwen, cyn dilyn Lôn Efelyn neu Ffordd Gorad ar y chwith. Parciwch ar Ffordd Hwfa neu yn y cyffiniau (SH 575 724) a dilyn Ffordd Gorad ar droed i gyfeiriad Afon Menai. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n eich arwain chi i’r warchodfa ei hun (SH 573 725

Contact us

Chris Wynne
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Trees at Nantporth Nature Reserve

© NWWT

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho
A group of around 30 people dotted across a cliffside, some with chairs and picnic blankets, all facing out towards a calm deep blue sea to watch for porpoise. The sky is bright blue with a few wispy clouds and the sun is shining behind the camera.

Picnic with a porpoise events Bull Bay

Conservation volunteering

Gwirfoddoli

Mwy o wybodaeth