Gwarchodfa Natur Morfa Bychan

Morfa Bychan Nature Reserve

Morfa Bychan Nature Reserve © Damian Hughes

Sea holly

Sea holly © Derek Moore

Greenacres Nature Reserve

Greenacres Nature Reserve_Lin Cummins

Skylark

Skylark © Amy Lewis

Morfa Bychan Nature Reserve

Morfa Bychan Nature Reserve

Gwarchodfa Natur Morfa Bychan

Gwarchodfa forol sy’n rhoi cyfle prin i chi brofi’r amrywiaeth lawn o gynefinoedd yn y system ddeinamig o dwyni.

Location

Porthmadog
Gwynedd
LL49 9YA

OS Map Reference

SH548368
OS Explorer Map OL18
A static map of Gwarchodfa Natur Morfa Bychan

Know before you go

Maint
12 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Parciwch yn y pentref a cherdded ar draws y cwrs golff, neu parcio yn y maes parcio ym mhen draw’r ffordd ag arwyddion am y traeth arni (SH 543 365).

Anifeiliaid pori

Merlod, haf. Gwartheg, hydref a gaeaf.

Llwybrau cerdded

Mae’r llwybrau ar y safle’n gul, anwastad, dros twyni tywod ac ar dir garw.

Mynediad

Os ydych chi’n dod i’r safle o’r traeth, edrychwch ar amseroedd y llanw ymlaen llaw. Os ydych chi’n dod o’r ymyl ogledd ddwyreiniol, byddwch yn ofalus wrth groesi’r cwrs golff a chadwch at y llwybr troed cyhoeddus.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn / yr haf

Am dan y warchodfa

Arfordir sy’n newid yn gyson  

Gwarchodfa fechan yw hon ond mae’n llawn amrywiaeth. Wrth i chi gerdded am y tir o’r lan, fe welwch chi gynefinoedd newydd yn cael eu creu gyda phob cam. Gyda threigl amser, mae tywod sydd wedi cael ei chwythu i mewn am y tir wedi cael ei sefydlogi gan lystyfiant ac, yn y diwedd, mae wedi sefydlogi ddigon i goed dyfu. Yn yr un modd, wrth i’r tir ddod yn fwy sefydlog ac wrth i ddylanwad yr halen leihau, mae’r cymunedau o blanhigion yn newid, gan greu chwech neu saith o wahanol gynefinoedd cydnabyddedig mewn un gwarchodfa. Mae’r clytwaith yma’n cynnig amrywiaeth lawer ehangach o rywogaethau nag y byddech yn ei gweld yn amgylchedd garw’r cyndwyni yn unig.  

Mae datblygiadau arfordirol yr oes sydd ohoni’n golygu bod systemau llawn o dwyni’n olygfa lai cyfarwydd, ac felly mae Morfa Bychan yn fwy arbennig fyth. Wrth ddod am dro yma yn ystod yr haf, bydd sŵn y tonnau’n torri a phlant yn chwarae’n gyfeiliant i’ch ymweliad, a chewch fwynhau arddangosfeydd medrus yr ehedydd a chorhedydd y waun,  a chlywed eu cri sy’n siŵr o hoelio’ch sylw. Mae’r ddau aderyn yma’n nythu yn y twyni.

Gwartheg duon Cymreig

Mae’r gwaith yma’n canolbwyntio ar gadw cymysgedd o gynefinoedd yn iach a gadael i’r blaen-dwyni barhau’n ddeinamig; yn gallu symud a newid yn naturiol. Mae gwartheg duon Cymreig yn pori’r safle yn ystod y gaeaf er mwyn cadw ardaloedd yn rhydd o lwyni, ac mae’r coetir helyg yn cael ei dorri gyda llaw er mwyn ei gynnal fel y mae ac atal ei ledaeniad. Ym mhob achos, nod yr Ymddiriedolaeth Natur yw atal y planhigion cadarn hyn rhag ymledu i ardaloedd mwy newydd o dwyni, gan sicrhau nad ydym yn colli casgliad prin y safle o amgylcheddau twyni.

Cyfarwyddiadau

O ganol tref Porthmadog, ewch i gyfeiriad y de orllewin ar hyd y ffordd ag arwyddion am gwrs golff Porthmadog a Morfa Bychan. Parciwch yn y pentref a cherdded ar draws y cwrs golff, heibio i sied ceidwad y lawnt at y gamfa yng nghornel ogledd ddwyreiniol y warchodfa (SH 548 369). Hefyd gallwch fynd i’r warchodfa o’r lan ar ôl parcio yn y maes parcio ym mhen draw’r ffordd ag arwyddion am y traeth arni (SH 543 365).

Contact us

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)