Gwarchodfa Natur Maes Hiraddug

Maes Hiraddug Nature Reserve

Maes Hiraddug Nature Reserve © NWWT

Greater butterfly orchid

Greater butterfly orchid_Philip Precey

Painted lady

Painted lady © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Goldfinch

Goldfinch © Neil Aldridge

Comma

Comma © Amy Lewis

Gwarchodfa Natur Maes Hiraddug

Hafan liwgar sy’n ein cysylltu ni â’n treftadaeth ffermio ac yn darparu gwledd hudolus dros yr haf – peidiwch â’i cholli!

Location

Dyserth
Sir Ddinbych
LL18 6AL

OS Map Reference

SJ061794
OS Explorer Map 265
A static map of Gwarchodfa Natur Maes Hiraddug

Know before you go

Maint
4 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae parcio cyhoeddus ar gael (yn pasio o dan rwystr uchder melyn) SJ062792, ychydig oddi ar yr A5151, ym mhen dwyreiniol y pentref

Anifeiliaid pori

Gwartheg neu ddefaid, diwedd yr haf i ddechrau’r gwanwyn.

Llwybrau cerdded

Mae dau lwybr trwy laswelltir, a llwybr coetir byr

Mynediad

Mae’r llwybr troed cyhoeddus sy’n croesi’r safle’n gallu bod yn llithrig pan mae’n wlyb. Er nad oes mynediad hwylus iawn i gadeiriau olwyn, gellir gwneud trefniant ymlaen llaw yn ystod misoedd yr haf, pan mae’r llwybrau’n fwy sefydlog.       

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Diwedd y Gwanwyn i'r mwyafrif o blanhigion yn blodeuo

Am dan y warchodfa

Lliwiau ac arlliwiau o bob math

Mae’r gwanwyn a’r haf yn cynnig ffrwydrad o liw, gan dynnu sylw at ba mor wahanol fyddai ein cefn gwlad ni wedi edrych rai cannoedd o flynyddoedd yn ôl pan fyddai dolydd gwair traddodiadol ledled y wlad wedi blodeuo mewn ffordd debyg. Mae gwirfoddolwyr lleol, gan barhau â chanrifoedd o arferion traddodiadol, wedi gweithio’n ddiflino i warchod y ddôl a nawr maent yn gweld ffrwyth eu llafur: mae mwy na 142 o wahanol blanhigion wedi’u cofnodi yn y glaswelltir a’r coetir gerllaw. Mae’r llu o blanhigion yn blodeuo’n golygu bod y safle’n bwysig ar gyfer llawer o bryfed peillio, gan gynnwys gwenyn mêl a chacwn. Mae ymweliad yn ystod y gwanwyn neu’r haf yn gyfle i weld glöynnod byw hardd yn ogystal â’r blodau gwyllt lliwgar: mae’r gwibiwr mawr, y glesyn cyffredin, yr adain garpiog, llwyd y ddôl, y porthor, yr iâr fach lygadog, y fantell goch, glöyn yr ysgall, y brithribin bach, boneddiges y wig a brych y coed i’w gweld yma i gyd!

Cynorthwywyr y ddôl wair  

Cafodd Maes Hiraddug ei achub rhag cael ei ddatblygu pan gafodd ei brynu gan yr Ymddiriedolaeth Natur yn 1996. Ers hynny mae wedi cael ei reoli fel dôl wair, gan barhau â chanrifoedd o arferion traddodiadol. Mae’r llystyfiant yn cael ei dorri ym mis Gorffennaf a’i adael i sychu a bwrw ei had, cyn ei felio a’i symud. Mae da byw yn pori’r cae o ddiwedd yr haf i gadw’r glaswelltir mewn cyflwr da.    

Cyfarwyddiadau

Mae’r warchodfa i’r gogledd ddwyrain o bentref Dyserth, rhwng Rhuddlan a Threlawnyd. Ewch tua’r dwyrain ar yr A5151 a pharcio yn y maes parcio ar y chwith (ar gyrion y pentref) ar gyfer Llwybr PrestatynDyserth. Cerddwch 150m ar hyd y Llwybr nes cyrraedd pont garreg gyda stepiau arni, gydag arwydd ‘Maes Hiraddug’. Ewch i fyny’r stepiau a throi i’r chwith dros y bont, i mewn i’r warchodfa (SJ 062 794). I osgoi’r stepiau, ewch yn eich blaen am 150m at y bont nesaf a gadael am Lôn y Pandy. Mae’r warchodfa ar y chwith i chi.  

Contact us

Paul Furnborough
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Maes Hiraddug nature reserve_Guide and Map