Gwarchodfa Natur Gogarth

Gogarth

Copyright Wales Coast Path

Gogarth Nature Reserve panel

Gogarth Nature Reserve © Rob Booth

Pyramidal orchid

Pyramidal orchid - Paul Lane

A close up of a bright blue butterfly, with thick black outline to the back wings, and thin black lines radiating out from it's body on each wing. It's antennae are black with small pale blue bands nearer the head. The background is a bright green mottled colour, of out of focus vegetation.

Silver studded blue © Guy Edwardes2020VISION

Kestrel

Kestrel © Steve Waterhouse

A close up of a single chough, a black bird with bright red beak and feet. Walking up a rocky cliff face. The rock is tinted red, and covered in bright yellow and pale green white lichens.

Chough © Mike Snelle

Darn o laswelltir calchfaen a rhos morol ar lethrau gorllewinol y Gogarth Fawr enwog, yn gyforiog o löynnod byw a blodau gwyllt.

Location

Llandudno
Sir Conwy
LL30 2XA

OS Map Reference

SH761830
OS Explorer Map OL17
A static map of Gwarchodfa Natur Gogarth

Know before you go

Maint
3 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Parciwch yn yr ardal lle mae’r ffordd yma’n uno â Ffordd Abbey a cherdded i fyny ar Marine Drive. Ar ôl ryw 15 munud, ewch i mewn i gysgodfan bychan ar y chwith (SH 759 831)

Anifeiliaid pori

Defaid a geifr, drwy gydol y flwyddyn.

Llwybrau cerdded

Nid yw’r warchodfa natur yn cynnwys unrhyw lwybrau, felly y lle gorau i’w gweld yw o Marine Drive ei hun.

Mynediad

Rhwng Llys Helig a Rhodfa’r Môr ar ochr orllewinol y Gogarth. Mae’r safle yma ar lethr serth o laswellt sy’n gwneud cerdded yn anodd iawn yma. Mae’r olygfa orau o Rodfa’r Môr uwch ben.     

 

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ac yr haf

Am dan y warchodfa

Glaswelltir y glöyn byw glas

Mae’n bur debyg bod ongl serth y safle yma wedi bod yn help i’w warchod - yn enwedig pan mae clytiau o lwyni eithin pigog a drain duon i’w gweld am yn ail â’r glaswellt! Diolch byth bod edrych ar y safle o Marine Drive yn ffordd wych o weld dwy rywogaeth fwyaf arbennig y warchodfa: y brain coesgoch chwareus, sgwrslyd a glöyn byw hardd y glesyn serennog (is-rywogaeth sydd ond i’w ganfod ar y Gogarth ac yn y cyffiniau a dweud y gwir). Mae’r glaswelltir yn llawn blodau hoff o galchfaen - rhosyn y graig a’r cor-rosyn lledlwyd, teim gwyllt, tegeirian pigfain, effros, ysgall dreinwyn a thresgl - ac, yn ystod y nos, golau gwyrdd egwan y pryfed tân yn symud yng nghanol y glaswellt. 

Pori gan eifr

Mae rheolaeth yr Ymddiriedolaeth Natur yma’n ceisio cadw cydbwysedd gofalus rhwng y glaswelltir sydd â chyfoeth o rywogaethau a’r llwyni mae’r adar eu hangen ar gyfer nythu. I helpu i gyflawni hyn, mae’r safle’n cael ei bori gan ddefaid a geifr, ac mae’r eithin a’r drain duon yn cael eu rheoli gyda llaw i’w hatal rhag lledaenu.

Oeddech chi’n gwybod?

Credir fod yr enw Saesneg ‘Orme’ yn dod o’r hen air Llychlynaidd ‘urm’ neu ‘orm’, sy’n golygu sarff fôr. Mae hyn yn cyfeirio at ymddangosiad y pentir, yn codi o’r môr fel pen neidr.                    

Cyfarwyddiadau

Mae’r Gogarth ar ochr orllewinol y Gogarth Fawr. Dilynwch yr A546 i Draeth Gorllewinol Llandudno, gan adael y ffordd hon am Barêd y Gorllewin a chadw’r môr mor agos â phosib ar y chwith. Parciwch yn yr ardal lle mae’r ffordd yma’n uno â Ffordd Abbey a cherdded i fyny ar Marine Drive. Ar ôl ryw 15 munud, ewch i mewn i gysgodfan bychan ar y chwith (SH 759 831) – rydych chi’n edrych dros y warchodfa o’r fan honno.

Contact us

North Wales Wildlife Trust
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

SAC SSSI
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)