Gwarchodfa Natur Eithinog

A field of tall grass and purple thistles, with 2 very tall green trees on either side of a gap in the hedgerow at the back of the field, and a bright blue cloudless sky.

Eithinog Nature Reserve

Chiffchaff

Chiffchaff - Janet Packham Photography

Goldfinch

Goldfinch © Neil Aldridge

Common spotted orchid

Common spotted orchid © Paul Lane

Earth tongue

Earth tongue © Amy Lewis

Gwarchodfa Natur Eithinog

Yn edrych dros Afon Menai ar un ochr a gyda golygfeydd o Eryri ar yr ochr arall, mae’r warchodfa yma’n werddon wyllt boblogaidd yng nghalon dinas Bangor.

Location

Ffordd Eithinog
Bangor
Gwynedd
LL57 2GZ

OS Map Reference

SH 563713
OS Explorer Map OL17
A static map of Gwarchodfa Natur Eithinog

Know before you go

Maint
11 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Parciwch yn y gilfan ar draws y ffordd o fynedfa'r warchodfa

Anifeiliaid pori

Gwartheg, drwy gydol y flwyddyn.

Llwybrau cerdded

Mae'r warchodfa'n cynnwys caeau agored gydag ardaloedd gwlyb ac ymylon coediog gyda hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau eraill. Gall llwybrau fod yn fwdlyd neu'n wlyb mewn gwahanol leoliadau trwy gydol y flwyddyn gydag arwynebau garw serth ar brydiau, argymhellir esgidiau priodol.

Mynediad

Mae gatiau mochyn wrth fynedfa'r warchodfa a rhwng caeau a allai gyfyngu mynediad.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Haf ar gyfer blodau gwyllt; dechrau'r Hydref ar gyfer ffyngau glaswelltir

Am dan y warchodfa

Ffyngau gwych

Cafodd y warchodfa natur drefol yma ei hachub rhag datblygiad gan gymuned sy’n ei thrysori. Mae dan warchodaeth oherwydd ei hamrywiaeth enfawr o ffyngau’r glaswelltir. O ddiwedd yr haf ymlaen, mae oren, pinc, coch a melyn y capiau cwyr sy’n britho’r caeau’n cyfateb i liwiau dail yr hydref wrth iddynt newid. Chwiliwch yng nghanol y glaswellt am wyrdd annaturiol bron cap cwyr y parot a melyn llachar y ffyngau cwrel. Ewch ati i grwydro’r rhwydwaith o lwybrau igam-ogam yn y gwanwyn a’r haf, ond, y blodau gwyllt sy’n rhoi’r sioe orau i chi. I gyd-fynd â melyn cribell yr ŷd fe welwch chi borffor a gwyn y tegeirianau brych cyffredin. Mae’r gwrychoedd mawr a’r llwyni eithin yn llawn sŵn adar yn nythu, fel y ddryw felen a llwyd y berth.

Buchod trefol

Mae’r warchodfa’n cael ei rheoli’n bennaf i gadw’r glaswelltir yn y cyflwr gorau ar gyfer y ffyngau. Mae gwartheg yn pori’r safle, gan reoli’r prysgwydd a chynnal y glaswellt byrrach sy’n galluogi i ffyngau a blodau gwyllt ffynnu. Mae’r buchod – sydd ag enwau i gyd – yn cael eu monitro gan dîm rhagorol o wirfoddolwyr, sy’n gwneud yn siŵr eu bod yn hapus ac yn iach! Mae’r prysgwydd yn cael ei deneuo mewn mannau hefyd, i greu strwythur oedran a rhywogaethau amrywiol, sy’n creu mwy o gyfleoedd i fywyd gwyllt arall.

Oeddech chi’n gwybod?

Yr enw lleol ar gaeau gorllewinol Eithinog yw ‘Caeau Briwas’, ar ôl bragdy bach a gafodd ei sefydlu yno yn 1812. Mae’r simnai i’w gweld o hyd fymryn tu draw i ben de-orllewinol y safle. 

Cyfarwyddiadau

Mae Eithinog ym Mangor, yn agos at Ysgol Friars ac Ysgol Cae Top. Gadewch yr A55 yng Nghyffordd 9, gan ddilyn yr arwyddion am Ysbyty Gwynedd, a mynd heibio i’r ysbyty ar Ffordd Penrhos am ryw filltir nes cyrraedd cylchfan bychan. Trowch i’r chwith ar Ffordd Belmont (gan ddilyn yr arwydd am Ysgol Friars), ac wedyn cymerwch y trydydd ar y chwith ar Ffordd Eithinog. Mae prif fynedfa’r warchodfa ar y dde, ychydig cyn maes parcio’r ysgol (SH 563 713). Mae ychydig o le parcio ar gael ar ochr y ffordd.

Contact us

Chris Wynne
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Eithinog Nature Reserve

Health and wellbeing route

The 'Meadows Health and Wellbeing Route' is a walking route from Ysbyty Gwynedd Hospital to and around Eithinog Nature Reserve.

Download the leaflet to help you plan your visit - with wildlife highlights and our 'Six Ways to Wellbeing'.

Download map and guide