Gwarchodfa Natur Ddôl Uchaf

Y Ddol Uchaf Nature Reserve

Y Ddol Uchaf Nature Reserve

A nuthatch, a small bird with yellow belly and grey wings, and a distinctive black eye stripe. Stood on a broken piece of wood that is dark from recent rain and growing vegetation. The nuthatch is facing left but with it's head turned slightly forward so it appears to be looking directly into the camera.

Nuthatch © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Lesser Celandine

Lesser Celandine_Ross Hoddinott2020Vision

Chiffchaff

Chiffchaff - Janet Packham Photography

Gwarchodfa Natur Ddôl Uchaf

Coetir, nentydd, blodau gwyllt a phyllau – mae’r warchodfa natur amrywiol yma’n fwrlwm o fywyd gyda chysylltiad dwfn â’r ddaeareg unigryw.

Location

Ysceifiog

Sir Fflint
CH7 5UW

OS Map Reference

SJ142713
OS Explorer Map 265
A static map of Gwarchodfa Natur Ddôl Uchaf

Know before you go

Maint
4 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Maes parcio bach ger y brif fynedfa, parcio ychwanegol 5 munud i ffwrdd ar droed mewn cilfan ar yr A541

Anifeiliaid pori

Na

Llwybrau cerdded

Llwybr o gwmpas y warchodfa 

Mynediad

Mae’r llwybr cylch o amgylch y warchodfa’n wastad yn bennaf, ac yn hawdd ei gerdded, ond mae’n anaddas ar hyn o bryd i gadeiriau olwyn oherwydd y stepiau mewn rhai llefydd. Gall fod yn wlyb a llithrig ar ôl glaw.   

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Haf ar gyfer blodau dôl a gweision y neidr sy'n dod i'r amlwg

Am dan y warchodfa

Daeareg ar waith

Mae’r hen chwarel yma’n ffynnu heddiw fel clytwaith o goetir, glaswelltir, pyllau ac afon sy’n llawn bywyd gwyllt. Mae’r priddoedd llawn calchfaen yn creu amodau perffaith i flodau gwyllt y glaswelltir fel plucan, briallu Mair sawrus, eurinllys a’r tegeirian brych cyffredin. Mae golau brith yr haul yn cyfateb i wyn a melyn blodau’r gwanwyn sy’n gorchuddio llawr y coetir, gyda ffrydio’r dŵr a chân yr adar yn drac sain hamddenol braf yn y cefndir. Mae canopi gwyrdd a ffrwythlon y coetir yn cynnwys sycamorwydd, ynn a helyg a’r haen isaf yn cynnwys drain gwynion, ysgaw a chyll. Mae nodweddion daearegol anarferol y safle (y clai marl gweddillol, a adawyd yma ar ôl y gwaith chwarelu twffa) yn helpu i ddal y dŵr glaw, gan ffurfio pyllau sy’n cael eu ffafrio gan dair rhywogaeth frodorol o fadfall y dŵr – llyfn, palfaidd a chribog mawr – yn ogystal â nadroedd y gwair a llawer o weision y neidr.

Teneuo, plannu a phyllau      

Yr allwedd gyda rheoli’r holl gynefinoedd yn Y Ddôl Uchaf yw cynnal yr amrywiaeth – gan sicrhau cydbwysedd rhwng popeth. Mae’r coetir yn cael ei deneuo’n ofalus er mwyn rheoli’r strwythur oedran ac i sicrhau bod ardaloedd o ganopi agored yma, fel bod modd i adfywio naturiol ddigwydd. Bob hydref, mae’r glaswelltir yn cael ei dorri gyda llaw gan ddefnyddio pladuriau er mwyn cynnal ei amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau. Mae rhannau o’r pyllau’n cael eu clirio a’r llifwaddod yn cael ei symud bob blwyddyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y dŵr yn parhau’n agored. Weithiau mae plannu llwyni, fel gwyddfid, yn darparu ffynhonnell fwyd amrywiol i bathewod, ac mae’r cyll yn cael eu tocio i greu’r amodau gorau ar gyfer nythu.  

Cyfarwyddiadau
Mae’r warchodfa oddeutu 1 km i’r dwyrain o Afonwen yn Sir y Fflint, ar yr A541 rhwng yr Wyddgrug a Dinbych. Ewch tua’r dwyrain a throi i’r chwith oddi ar yr A541 yng Nghapel y Ddôl ac wedyn dilyn y lôn am 400m. Trowch i’r chwith yn y gyffordd – mae’r fynedfa i’r maes parcio ar y chwith gyferbyn â’r Felin (SJ 142 713).

Contact us

Paul Furnborough
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Y Ddol Uchaf Nature Reserve

Y Ddol Uchaf Nature Reserve

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho
2 people in outdoor clothing, woolly hats and waterproofs, walking through an open field towards a hilly landscape with lots of tree cover.

People Walking 

Himalayan balsam bashing at Parish Field

© Jess Minett - WaREN 

Gwirfoddoli

Mwy o wybodaeth