Coed y Felin bluebells

Coed y Felin bluebells © NWWT Jonathan Hulson

Common blue butterfly

Common blue butterfly © Bob Coyle

Coed y Felin Nature Reserve

Coed y Felin Nature Reserve_Graham Berry

Tawny Owl (c) Margaret Holland

Tawny Owl (c) Margaret Holland

Pied flycatcher

Pied flycatcher (Ficedula hypoleuca) male perched, Wales, UK - Mark Hamblin/2020VISION

Deptford pink

Deptford pink © NWWT Mark Hughes

Mae Coed y Felin yn goetir derw/ynn hynafol sydd wedi’i blannu gyda choed sycamorwydd, ffawydd a chastanwydd per ac mae gan y safle dreftadaeth ôlddiwydiannol nodedig hefyd …

Lleoliad

Hendre
Sir Fflint
CH7 5QL

OS Map Reference

SJ195677
OS Explorer Map 265
A static map of Coed y Felin

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
10 hectares

Pris mynediad

Na

Manylion parcio

Maes parcio ar y warchodfa a pharcio ar gyfer y llwybr cerdded hygyrch ar gael

Anifeiliaid pori

Defaid, hydref a gaeaf.

Llwybrau cerdded

Nid yw rhannau uchaf y warchodfa’n heriol iawn i ymweld â nhw, ond maen nhw’n cynnwys llwybrau serth a chamau. 

Mynediad

Mae’r llwybr isaf yn dilyn hen lein reilffordd yr Wyddgrug-Dinbych - mae’n hwylus i gadeiriau olwyn ac yn eich arwain at ddau fwrdd picnic sy’n wych ar gyfer mwynhau’r sioe o glychau’r gog

Cŵn

Ar dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ar gyfer blodau coetir a gwybedog brith. Haf ar gyfer y ddôl llawn blodau ger y maes parcio dwyreiniol.

Am dan y warchodfa

Cymunedau lliwgar

Mae llwybrau hynafol yn igam-ogamu drwy’r coetir hwn, gan adael cliwiau am ei gysylltiadau ers amser maith â’r boblogaeth leol. Mae’r coed yma wedi cael eu defnyddio i gefnogi’r pentref mwyngloddio lleol ers canrifoedd. Ond heddiw, fodd bynnag, does dim diwydiant i’w weld yma: mae’r coetir heddychlon a’r glaswelltir heulog yn llawn lliw a bywyd, gan gynnwys y pinc Deptford cenedlaethol brin a dwsinau o flodau gwyllt gogoneddus eraill. Mae’r aer yn llawn cân yr adar a phersawrau cyfoethog, perlysieuol yn ystod y gwanwyn a’r haf. Yn yr hydref, y coed yw gogoniant y safle. Mae’r amrywiaeth o rywogaethau’n creu clytwaith hudolus o goch, brown a melyn – delfrydol i fynd am dro yn eu canol ...

Dôl wair wedi’i thorri â llaw

Er mwyn cynnal y poblogaethau o flodau gwyllt, gan gynnwys pinc Deptford, mae glaswelltir calchfaen y warchodfa’n cael ei reoli fel dôl wair ac yn cael ei dorri gan ddefnyddio peiriannau a phladuriau. Mae’r coetir hynafol, lled-naturiol sy’n gorchuddio mwyafrif y safle a’r ardaloedd is o goetir gwlyb yn cael eu rheoli heb fawr ddim ymyrraeth: mae’r coed yn cael eu teneuo yma ac acw er mwyn cynnal strwythur oedran amrywiol sy’n galluogi i’r coed eu hunain a’r planhigion islaw ffynnu.  

Oeddech chi’n gwybod?

Er ei fod wedi cael ei enwi ar ôl y dref yn nwyrain Llundain, nid yw’n debygol bod pinc Deptford wedi tyfu yno erioed. Cafodd ei enwi ar ôl y botanegydd o’r ail ganrif ar bymtheg, Thomas Johnson, a chredir ei fod wedi camenwi’r blodyn pinc newydd.             
Cyfarwyddiadau

Mae’r warchodfa 4 milltir i’r gogledd orllewin o’r Wyddgrug. Wrth ddilyn yr A541 o’r Wyddgrug i Ddinbych, dilynwch y ffordd i’r dde wrth ddod i mewn i Hendre (SJ 196 677). Wrth i chi ddod rownd tro i’r chwith, fe welwch chi faes parcio’r warchodfa ar y chwith (SJ 195 677). Am lwybr hygyrch ar hyd yr hen drac rheilffordd, ewch ymlaen ar hyd yr A541 nes cyrraedd Tafarn y Royal Oak, trowch i’r dde i fyny’r trac gyferbyn (tu ôl i Beech Cottage) ac mae maes parcio bychan lle mae’r llwybr yn dechrau. 

Cysylltwch â ni

Graham Berry
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Local Wildlife Site (LWS)

Location map