Gwarchodfa Natur Coed Trellyniau

A fresh green spring woodland, with lots of tall delicate bluebells carpeting the ground between the trees.

Coed Trellyniau Nature Reserve

Wood anemone

Wood anemone © Bruce Shortland

Great spotted woodpecker

Great spotted woodpecker © Gillian Day

Meadow saxifrage

Meadow saxifrage © Kieron Huston

Gwarchodfa Natur Coed Trellyniau

Mae blodau’r gwanwyn yn garped ar lawr y coetir hynafol yma ac mae ei ganopi cysgodol yn darparu lloches heddychlon i fywyd gwyllt a phobl.

Location

Rhydymywyn
Sir Fflint
CH7 5QR (Ger Fferm Fron)

OS Map Reference

SJ181691
OS Explorer Map 265
A static map of Gwarchodfa Natur Coed Trellyniau

Know before you go

Maint
4 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Maes parcio cyfyngedig yn cilfan SJ186689, ar ffordd ddienw ychydig i'r gogledd o Fferm Fron. Cymerwch ofal i beidio â rhwystro unrhyw fynedfa

Anifeiliaid pori

Gwartheg a defaid, ar y ffordd i’r safle.

Llwybrau cerdded

Mae’r daith gerdded gylch o amgylch perimedr Coed Trellyniau’n hawdd ei cherdded ond weithiau’n llithrig a mwdlyd ar ôl glaw.

Mynediad

Mae’r safle’n anaddas i gadeiriau olwyn ac mae camfeydd yn y mynedfeydd. Mae gwartheg a defaid yn y caeau’n aml ac mae’n rhaid croesi heibio iddyn nhw i gael mynediad i’r safle, felly rhaid i chi fod yn ofalus os ydych yn ymweld â chŵn.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ar gyfer arddangosfa syfrdanol o glychau'r gog

Am dan y warchodfa

Lloches yn y coetir

Mae Coed Trellyniau yn ddarn o goetir hynafol a arferai fod yn fwy ar un adeg ac a oedd yn cael ei adnabod yn y Canol Oesoedd fel Coed y Gelli. Mae mewn tirwedd amaethyddol ac yn cael ei gysylltu â choetiroedd gwasgarog eraill gan wrychoedd a thraciau hynafol sy’n lloches olaf i lawer o blanhigion ac anifeiliaid brodorol. Yn y gwanwyn, mae llawr y coetir yn garped o flodau, gydag olyniaeth o flodau’r gwynt, garlleg gwyllt a chlychau’r gog; planhigion sy’n dangos bod Coed Trellyniau wedi bod yn goediog am gannoedd o flynyddoedd. Heddiw, does dim llawer o werth masnachol i’r coed ffawydd sydd wedi’u plannu ond mae’r coetir a’r cefn gwlad o amgylch yn eithriadol bwysig i fywyd gwyllt. Mae’r adar a’r anifeiliaid sy’n byw yn y coed yn gallu chwilio am fwyd yn y caeau cyfagos tra mae’r gwrychoedd yn darparu coridorau diogel rhwng y coetiroedd cyfagos.

Adfer trwy adfywio

Roedd Coed Trellyniau yn arfer bod yn goetir hynafol a gafodd ei glirio a’i ailblannu gyda choed pîn a ffawydd fel cnwd masnachol yn y 1950au. Mae’r Ymddiriedolaeth Natur eisiau adfer y coetir i gynnwys rhywogaethau naturiol, drwy raddol deneuo’r coed ffawydd sydd ar ôl ac annog adfywiad naturiol y coed brodorol o’r gronfa o hadau.  Mae pren marw’n sefyll yn cael ei adael ar gyfer infertebrata ac adar yn nythu (fel y gnocell fraith fwyaf) ac mae rhywfaint o goed yn cael eu gadael ar y llawr i bydru, gan roi maethynnau yn ôl yn y pridd a darparu cartref ar gyfer ffyngau, pryfed a mamaliaid bychain.

Cyfarwyddiadau

Yng nghroesffordd Cilcain/Rhes y Cae ar yr A541, ewch tua’r gogledd (i gyfeiriad Rhes y Cae). Arhoswch ar y ffordd am 1 km a pharcio mewn cilfan fechan ar y chwith, yn eithaf buan ar ôl y fynedfa i barc carafanau Fferm Fron (SJ 186 689). Peidiwch â blocio giât y cae. Mae’r warchodfa daith fer ar droed i’r gorllewin ar hyd llwybr troed cyhoeddus, ar draws caeau a 3 camfa: fe ddewch chi ar draws gwartheg a defaid yn aml.

Contact us

Paul Furnborough
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Coed Trellyniau nature reserve_Guide and Map