Gwarchodfa Natur Coed Crafnant

Rhedyn epiffytig yn tyfu ar gangen derw mwsoglyd

@Ben Porter

Pied flycatcher

Pied flycatcher (Ficedula hypoleuca) male perched, Wales, UK - Mark Hamblin/2020VISION

Coed Crafnant Nature Reserve

Coed Crafnant Nature Reserve

Lichen covered branches in canopy of oak woodland_Guy Edwardes 2020Vision

Lichen covered branches in canopy of oak woodland © Guy Edwardes 2020Vision

Wood warbler (c) Andy Rouse2020VISION

Wood warbler (c) Andy Rouse 2020VISION

Trysor cudd sy’n teimlo fel camu’n ôl mewn amser i goedydd gwyllt hynafol Cymru.

Location

Llanbedr
Gwynedd
LL45 2PF

OS Map Reference

SH619289
OS Explorer Map OL18
A static map of Gwarchodfa Natur Coed Crafnant

Know before you go

Maint
49 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mynedfa Coed Crafnant: parcio ar gyfer dau gar ar ochr y ffordd yn SH617290 (côd post agosaf LL45 2PF) a maes parcio bach yn pellach ar hyd yr heol yn SH619295.

Anifeiliaid pori

Geifr gwyllt, drwy gydol y flwyddyn.

Llwybrau cerdded

Coetir serth ar ochr bryn sy'n wynebu'r gogledd gyda llwybrau anwastad, serth a chreigiog.

Mynediad

Mae’r safle’n serth iawn mewn mannau a’r llwybr yn arw. Mae’r arwyneb creigiog wedi’i orchuddio gan fwsogl ac yn gallu bod yn wlyb a llithrig – rhaid cael esgidiau cerdded. Hefyd mae’r lleoliad anghysbell yn golygu nad oes signal ffôn symudol yma o gwbl bron.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Trwy gydol y flwyddyn

Am dan y warchodfa

Gwyllt a hynafol  

Yn llawn planhigion cyntefig a choed derw hynafol, mae Coed Crafnant yn eich cysylltu chi â orffennol goediog Prydain. Mae blynyddoedd y cysgod parhaus y coed hyn wedi creu amodau perffaith i fwsoglau, cennau a rhedyn ffynnu – yn wir, mae rhywogaethau wedi’u cofnodi yma oedd wedi cael eu hystyried fel rhai wedi diflannu’n genedlaethol. Mae’r coetir derw Atlantaidd gwyllt a hynafol hwn ar lethrau serth ac wedi’i rannu’n derasau yn fras, a phob un â’i ficro-hinsawdd a’i drigolion ei hun. Bydd ymweliad yn ystod y gwanwyn a’r haf yn eich gwobrwyo chi gyda chyfoeth o flodau gwyllt ac adar yn nythu, ond bydd llonyddwch gwyllt y cwm anghysbell yma’n hoelio eich sylw ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Adfywio naturiol

Prif ffocws y gwaith ar y safle hwn yw cynnal ffiniau’r warchodfa er mwyn cadw anifeiliaid pori fel defaid a geifr gwyllt allan. Mae eithrio’r anifeiliaid pori yma’n caniatáu i brosesau naturiol adfywiad y coetir ddigwydd. Mae clirio dethol yn helpu i greu patrwm o newid yn y llennyrch a choetir iach gyda strwythur oedran amrywiol, sy’n arwain at gynefin hynod fioamrywiol. I helpu i atal dirywiad poblogaethau’r DU o’r gwybedog brith, mae 95 o focsys nythu wedi cael eu gosod o amgylch y coetir.

Oeddech chi'n gwybod?

Esblygodd planhigion mewn dŵr gyntaf ac mae angen amgylchedd gwlyb iawn ar lawer o'n planhigion mwyaf cyntefig - fel mwsoglau a llysiau'r afu - er mwyn atgenhedlu. Mae eu strwythurau dail yn dal hylif, gan greu microhinsawdd dyfrllyd eu hunain.

Cyfarwyddiadau

Trowch oddi ar yr A496 wrth y dafarn yn Llanbedr. Ewch ymlaen am Gwm Bychan am 2.75km nes cyrraedd Pen-y-Bont (SH 607 280). Ar gyfer mynedfa ddeheuol y warchodfa (mynediad ar droed yn unig, dim ceir), trowch yn sydyn i’r dde dros bont a thrwy giât, gan ddilyn y trac garw. Trowch i’r dde am Y Fron. Ewch ymlaen i fyny’r allt drwy ail giât gan ddal i’r chwith, ac wedyn mynd ymlaen am 200m. Mynediad i'r warchodfa trwy giât drws nesaf i arwydd y warchodfa (SH 611 276). Ar gyfer y fynedfa ogleddol, ewch ymlaen heibio i Ben-y-Bont am 1.5km arall. Parciwch ar ochr y ffordd wrth giât yn SH 616 289. Ewch drwy’r giât ar droed, dilyn y trac dros y bont a mynd heibio i’r hen ysgubor ar y dde i chi, gan groesi camfa. Rhaid dal i’r dde ar y trac nes cyrraedd mynedfa ac arwydd y warchodfa

Contact us

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

National Park
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)