Coed Cilygroeslwyd Nature Reserve

Coed Cilygroeslwyd Nature Reserve

Hawfinch

Hawfinch © Andy Morffew

Wood anemone

Wood anemone © Bruce Shortland

Bluebells

Bluebells - Katrina Martin 2020Vision

Coed Cilygroeslwyd

Dyma un o warchodfeydd natur cyntaf Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a brynwyd yn 1964. Mae’n gartref i rywogaethau prin iawn ac yn gyforiog o fywyd gwyllt.

Lleoliad

Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2PB (Siop Pwllglas with large car park)

OS Map Reference

SJ124553
OS Explorer Map 265
A static map of Coed Cilygroeslwyd

Gwybod cyn i chi fynd

Maint
4 hectares

Pris mynediad

Na

Manylion parcio

Mae maes parcio mawr yn Siop Pwllglas, tua 10 munud ar droed o'r warchodfa

Anifeiliaid pori

Na

Llwybrau cerdded

Er bod y safle’n gymharol hwylus ar gyfer cerdded, nid oes posib mynd â chadair olwyn yma oherwydd amodau’r ddaear. Dros gamfa garreg neu drwy giât fferm mae cael mynediad i’r warchodfa ac mae’r llwybrau ar y safle’n anwastad a llithrig pan mae’n wlyb.

Mynediad

Y lle fwya rhwydd i barcio yw yn y maes parcio ger Siop Pwllglas, mae'r warchodfa tua 10 munud ar droed i fyny lôn serth ond tawel, gan cario ymlaen heibio Capel y Rhiw. Fel arall, parciwch yn y gilfan ger yr Afon Clwyd (SJ127553 ), oddi ar y ffordd i Llanfair DC. Mae postyn bys yn nodi mynedfa'r warchodfa ond mae angen bod yn ofalus wrth groesi'r A494

Cŵn

Ar dennyn

Pryd i ymweld

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ar gyfer corws y wawr, gwybedog brith a chennin Pedr gwyllt

Am dan y warchodfa

Yr hen a’r newydd

Mae’r coetir yma o goed llydanddail cymysg a choed yw yn cynnwys sawl sypreis – ac un o’r rheiny yw nad yw mor hen ag y mae rhywun yn ei feddwl, er gwaetha’r blodau gwyllt sydd yma (blodau’r gwynt, llysiau’r eryr per, clust yr arth a chlychau’r gog) sy’n cael eu cysylltu gan amlaf â choetiroedd hynafol. Gall daeareg sylfaenol y safle esbonio hyn: mae’r coetir wedi’i leoli ar balmant calchfaen eang, gyda’r craciau’n creu micro-hinsawdd perffaith i alluogi’r planhigion hyn i oroesi hyd yn oed pan ddiflannodd y coetir hynafol gwreiddiol, ac er i’r tir gael ei bori. Er mai derw ac ynn yw’r canopi yn bennaf, mae’r ardaloedd o goed yw yn fwy anarferol, a’u hadau yw hoff fwyd y gylfinbraff dros y gaeaf. (Dyma’r unig goetir yw yng Nghlwyd.) Mae’r briwlys calchfaen yn rhywogaeth brin arall ar y safle. Dyma flodyn sirol Sir Ddinbych a dim ond ar ddau safle yng Nghymru mae i’w weld. 

Cyfarwyddiadau

Mae Coed Cilygroeslwyd 2 filltir i’r de o Ruthun ar yr A494. Ewch tua’r de ar hyd y ffordd hon a throi i’r chwith wrth weld arwydd am Lanfair DC. Parciwch yn y gilfan (SJ 127 553) ond peidiwch â blocio giât y cae. Cerddwch yn ôl dros y bont, croeswch yr A494 yn ofalus ac wedyn dilynwch y llwybr troed i fyny i’r warchodfa (SJ 124 552). Mae lle parcio arall, a lluniaeth, ar gael yn Siop Pwllglas: defnyddiwch fap i ddilyn yr hawliau tramwy cyhoeddus i fyny’r lôn (heibio Capel y Rhiw) ac ar draws y caeau i’r warchodfa. 

Cysylltwch â ni

Graham Berry
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)