Gwarchodfa Natur Chwarel Pisgah

Cowslip

Cowslip © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Harts Tongue Fern

Harts Tongue Fern_Paul Lane

Pontcysyllte Aqueduct near Pisgah Quarry

Pontcysyllte Aqueduct near Pisgah Quarry © Adrian Pingstone

Goldcrest

Goldcrest © Andy Morffew

Gwarchodfa Natur Chwarel Pisgah

Poced hyfryd o goetir a glaswelltir calchfaen gyda golygfeydd trawiadol draw dros Ddyffryn Llangollen.

Location

Pleasant View
Froncysyllte
Wrecsam
LL20 7SH

OS Map Reference

SJ 268 411
OS Explorer Map 256
A static map of Gwarchodfa Natur Chwarel Pisgah

Know before you go

Maint
1 hectare
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Ym mhen draw Pleasant View, mae maes parcio bychan gyda lle i 3 neu 4 o geir.

Anifeiliaid pori

Na

Llwybrau cerdded

Er ei bod yn hawdd cerdded ar hyd y darn cyntaf o’r maes parcio, mae’r llethrau wedyn yn serthach. 

Mynediad

Cadw oddi wrth waelod wynebau’r clogwyni. 

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Yr haf

Am dan y warchodfa

Golygfeydd godidog, coed cysgodol  

Yn wynebu tua’r gogledd ac wedi’i lleoli ar ochr dyffryn serth, mae gan yr hen chwarel galchfaen yma awyrgylch cysgodol, oer. O dan y coed, mae’r safle’n llawn rhedyn gwyrdd, ir, sy’n creu awyrgylch hudolus yn y lleoliad – bron fel bod yn ddwfn yng nghanol coetir llawer mwy. Ynn, helyg y geifr a sycamorwydd yw’r prif goed yn y canopi, gyda llawer o amrywiaeth yn yr isdyfiant gan greu amodau gwych ar gyfer adar y coetir. Mae’r coed yn agor i ddatgelu llannerch heulog o laswelltir, yn frith o dwmpathau morgrug melyn y ddôl a bwrlwm o liwiau blodau gwyllt fel briallu Mair sawrus, ffacbys a’r bengaled. Mae’r golygfeydd i lawr dros y dyffryn yn drawiadol ac maent yn cynnwys Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Phont Ddŵr Pontcysyllte.

Teneuo a thorri;

Mae’r coetir yn cael ei adael i adfywio’n naturiol gan fwyaf, gyda rhywfaint o deneuo ar y coed i atal gorgysgodi’r llannerch. Mae’r glaswelltir yn cael ei dorri unwaith y flwyddyn ddiwedd yr haf pan mae’r holl flodau wedi bwrw had. Hefyd mae’r safle’n cael ei ddefnyddio gan blant ysgol lleol ar gyfer gweithgareddau ysgol y goedwig.

Cyfarwyddiadau

Mae’r safle oddeutu 5 milltir i’r dwyrain o Langollen. O’r A5 yng nghanol Froncysyllte, trowch i fyny’r allt ar Ffordd Alma. Ar ôl 300m, trowch i’r chwith ar fachdro sydyn i Lôn yr Ysgol, ac wedyn cymerwch yr ail ar y dde i Pleasant View.  

Contact us

Jordan Hurst
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)