Gwarchodfa Natur Caeau Pen-y-Clip

Caeau Pen y Clip Nature Reserve

Caeau Pen y Clip_Damien Hughes

Snipe

Snipe © Margaret Holland

Gatekeeper(c) Philip Precey

Gatekeeper(c) Philip Precey

Greenfinch

Greenfinch © Mark Ollett

Gwarchodfa Natur Caeau Pen-y-Clip

Wedi’u hamgylchynu gan amaethyddiaeth a thai trefol, mae’r caeau hyn sy’n llawn blodau gwyllt a’r gwrychoedd aeddfed yn creu hafan i fywyd gwyllt.

Location

Porthaethwy
Ynys Môn
LL59 5QL

OS Map Reference

SH555728
OS Explorer Map 263
A static map of Gwarchodfa Natur Caeau Pen-y-Clip

Know before you go

Maint
2 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae'na lefydd i barcio wrth ymyl y palmant

Anifeiliaid pori

Merlod, mis Medi i fis Mawrth.

Llwybrau cerdded

Nid oes unrhyw lwybrau - cerdded trwy laswelltir 

Mynediad

Rhaid mynd dros gamfa i mewn i’r safle yma. Er nad oes unrhyw lwybrau ffurfiol yma, mae’n eithaf hawdd ei archwilio fel arall. 

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Yr haf

Am dan y warchodfa

Gwrychoedd iach  

Wedi’i hamgylchynu gan lystyfiant tal a thrwchus, mae’n hawdd anghofio bod y warchodfa hon ar gyrion tref. Coed derw ac ynn yw asgwrn cefn y gwrychoedd trawiadol sy’n darparu bwyd a chysgod i lawer o adar, mamaliaid bychain ac infertebrata. Gellir clywed y fronfraith a’r aderyn du’n canu o’r clwydi uchel yn y coed; mae heidiau o’r llinos werdd a’r nico yn hedfan uwch ben, dan alw; ac mae llwyd y berth a choch y berllan i’w gweld yn bwydo yng nghanol y mieri a rhosod y cŵn. Mae’r glaswelltir yn frith o flodau yn ystod y gwanwyn a’r haf, gyda phys y ceirw melyn llachar yng nghanol porffor y tegeirianau brych cyffredin a’r bengaled. Mae’r ardaloedd gwlypach wedi’u gorchuddio gan bigau brwyn, sydd wedi’u hysgeintio â thuswau gwyn yr erwain.

Cyfarwyddiadau

Mae Caeau Pen y Clip gerllaw tref Porthaethwy. Gadewch yr A55 yng Nghyffordd 8A, gan ddilyn yr A5 i gyfeiriad Porthaethwy ac, yn y cylchfan, cymerwch yr allanfa gyntaf ar Ffordd Pentraeth. Ewch heibio i Ysgol David Hughes ar y chwith ac wedyn troi i’r dde nesaf ar ffordd Penlon. Dilynwch y ffordd i’r pen draw, gan barcio ar yr ochr a dringo dros y gamfa i mewn i’r warchodfa.
 

Contact us

Chris Wynne
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Local Wildlife Site (LWS)