Gwarchodfa Natur Bryn Pydew

Bryn Pydew

©NWWT

A close up of a bright blue butterfly, with thick black outline to the back wings, and thin black lines radiating out from it's body on each wing. It's antennae are black with small pale blue bands nearer the head. The background is a bright green mottled colour, of out of focus vegetation.

Silver studded blue © Guy Edwardes2020VISION

Brown argus

Brown argus © Amy Lewis

Snowdrops

Snowdrops © Bob Coyle

Mae’r cyfuniad o goetir, blodau gwyllt a glöynnod byw yn golygu bod y warchodfa yma â’i sylfaen o galchfaen yn fwrlwm o fywyd – sy’n cynnig gwledd yn ystod yr haf!

Location

Bae Penrhyn
Sir Conwy
LL31 9JT

OS Map Reference

SH818798
OS Explorer Map OL17
A static map of Gwarchodfa Natur Bryn Pydew

Know before you go

Maint
5 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae gilfan parcio a mynedfa i'r warchodfa tua milltir ymhellach ymlaen o Ffordd Bryn Pydew

Anifeiliaid pori

Na

Llwybrau cerdded

Llwybrau trwy goedwig, serth mewn mannau

Mynediad

Mae’r palmentydd a’r allgreigiau calchfaen yn llefydd gwych i archwilio. Fodd bynnag, maent yn llawn tyllau a gallant fod yn llithrig pan yn wlyb. Gwyliwch rhag troi eich ffêr.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ac yr haf

Am dan y warchodfa

Calchfaen hyfryd  

Ar ddiwrnod prysur o haf, mae bwrlwm y bywyd yng Ngwarchodfa Natur Bryn Pydew yn ail-greu llafur diwydiannol hen swyddogaeth y safle fel chwarel galchfaen. Mae palmentydd calchfaen am yn ail â rhedyn gwyrdd ir yn arwain i lawr i laswelltir llawn blodau (gan gynnwys digonedd o degeirianau) a phrysgwydd eithin, sydd wedyn yn ildio’u lle i goetir ynn ac yw. Mae’r amrywiaeth yma o gynefinoedd mewn ardal ddaearyddol mor fechan yn gartref i gyfoeth o blanhigion sydd, yn eu tro, yn sicrhau bod y safle’n gartref i amrywiaeth enfawr o infertebrata: mae mwy nag 20 o rywogaethau o löynnod byw a 500+ o rywogaethau o wyfynod wedi’u cofnodi yma. Ar nosweithiau cynnes, tywyll yng nghanol yr haf, efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld golau gwyrdd y pryfed tân yn disgleirio. Mae eu larfa’n bwydo ar y malwod niferus sydd yma!

Rhywogaethau anfrodorol anghynnes

Mae’r ardaloedd o galchfaen agored yn cael eu  cadw’n glir o rywogaethau anfrodorol fel creigafal a derw bytholwyrdd. Heb eu harchwilio, byddent yn gwneud difrod i’r palmant ei hun ac yn rheoli’r casgliad o blanhigion. Mae’r glaswelltir yn cael  ei dorri a’i glirio yn yr hydref i ddynwared gweithgarwch anifeiliaid pori, gan ei gadw mewn cyflwr da ar gyfer blodau gwyllt y flwyddyn ganlynol.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae palmant calchfaen yn ffurfio drwy gyfuniad o erydiad a hindreuliad cemegol. Fel nodweddion daearegol arbennig, mae ganddynt eu terminoleg eu hunain: clintiau yw’r blociau o galchfaen sy’n ffurfio’r palmant; mae pantiau a cheudodau o’r enw karren yn gorchuddio eu harwyneb. Greiciau yw’r craciau dwfn sy’n gwahanu’r clintiau – gallant fod ymhell dros fetr o ddyfnder. 

Cyfarwyddiadau

Mae’r safle yma yng nghanol y bryniau rhwng Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a Chyffordd Llandudno. Wrth ddod am Landudno ar hyd yr A470, trowch i’r dde am Esgyryn yn y cylchfan cyntaf ac wedyn troi i’r dde bob tro ar Ffordd Esgyryn, Ffordd Pydew a Ffordd Bryn Pydew. Mae’r maes parcio ar ffurf cilfan a’r fynedfa i’r warchodfa tua milltir ymhellach ymlaen (SH 818 798).

Contact us

Luke Jones
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

SAC SSSI
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Bryn Pydew

©NWWT

Map a llyfryn gwarchodfa

Llawr-lwytho
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.

Family walking though bluebells © Tom Marshall

Volunteer sawing

Katrina Martin / 2020VISION