
Abercorris Nature Reserve

Abercorris Nature Reserve

Pied flycatcher (Ficedula hypoleuca) male perched, Wales, UK - Mark Hamblin/2020VISION
Know before you go
Pris mynediad
NaManylion parcio
Parciwch unai yn y gilfan (SH 749085) ar y ffordd gefn sy'n rhedeg yn baralel i’r A487Anifeiliaid pori
NaLlwybrau cerdded
Ar lwybr cyhoeddus, serth mewn mannau
Mynediad
Mae’r safle’n rhan o ddyffryn serth, heb lwybrau pendant i’w gweld, ar wahân i’r llwybr troed cyhoeddus sy’n croesi’r warchodfa. Byddwch yn ofalus ar lan yr afon gyflym.
Dogs
When to visit
Amseroedd agor
Ar agor bob amserAmser gorau i ymweld
Trwy gydol y flwyddynAm dan y warchodfa
Dyffryn afon coediog
Mae coed derw, ynn a chyll yn creu canopi o ddail trwchus yn y dyffryn serth yma, gan ddarparu cysgod ar gyfer llawer o adar yn nythu ac infertebrata. Mae Afon Deri’n rhedeg drwy’r safle, gan greu coridor naturiol a thrac sain yn gefndir i’ch ymweliad. Mae’r aer llaith o amgylch yr afon yn creu amgylchedd i fwsoglau a rhedyn ffynnu, gan ddod â’u lliwiau gwyrdd llachar i lawr cymharol dywyll y goedwig. Mae cynefinoedd y warchodfa’n gwrthgyferbynnu’n hyfryd â’r ardal fawr o goetir conwydd sy’n rhedeg drwy’r dyffryn hwn: mae amrywiaeth ehangach o goed a phresenoldeb yr afon yn cynnig cyfleoedd i ystod fwy amrywiol o rywogaethau ffynnu o’u hamgylch.
Cyfarwyddiadau
Mae Abercorris yn gorwedd y naill ochr a’r llall i’r Afon Deri, ychydig oddi ar yr A487: ryw hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth. Rhwng Corris Uchaf a Chorris Isaf, parciwch yn y gilfan (SH 749085) ar y ffordd gefn sy’n rhedeg yn baralel i’r A487.