Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni'.

Surveyors Shoresearch Nefyn Nov2024

Surveyors Shoresearch Nefyn Nov2024 © NWWT

Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni'.

Lleoliad:
Traeth Nefyn, Pwllheli
Cyfle i ddysgu popeth am yr arolygon bywyd gwyllt rydyn ni'n eu cynnal rhwng y llanwau a chymryd rhan yn y prosiect gwyddoniaeth y dinesydd pwysig yma. Mwy o ddyddiadau arolygu ar ein gwefan ni.

Manylion y digwyddiad

Pwynt cyfarfod

Cyfarfod y tu allan i'r caffi ar draeth Nefyn (LL53 6EE / jobs.develops.bandaged)

Dyddiad

Time
3:00pm - 4:30pm
A static map of Arolwg rhynglanwol 'rhoi cynnig arni'.

Ynglŷn â'r digwyddiad

Bob mis rydyn ni’n cynnal arolygon Shoresearch gyda gwirfoddolwyr mewn tair ardal ledled Gogledd Cymru. Mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ac yn dysgu popeth am y byd natur y gallwch chi ddod o hyd iddo yn rhynglanwol ac wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau maen nhw’n casglu gwybodaeth sylfaenol hanfodol sy'n allweddol ar gyfer cadwraeth forol. Dyma'ch cyfle chi i ddysgu mwy a gweld ydi hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ymuno ag ef.

Ar agor i bobl o bob lefel - byddwn yn addysgu popeth sydd angen i chi ei wybod!

Methu dod y tro yma ond eisiau ymuno? Mae mwy o ddyddiadau'r arolwg i’w gweld yma.Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Bwcio

Pris / rhodd

Mae croeso i roddion

Gwybodaeth archebu ychwanegol

Rhaid cofrestru

Gwybod cyn i chi fynd

Cŵn

image/svg+xml
Ni chaniateir cŵn
image/svg+xml

Beth i'w ddod

Gwisgwch ddillad sy’n dal dŵr ac esgidiau sy'n addas ar gyfer ardaloedd llithrig, creigiog, gwlyb a hallt.

Nodwch y man cyfarfod penodol a rhif ffôn symudol y trefnydd rhag ofn y bydd arnoch ei angen ar y diwrnod.

Mae toiledau yn agos at y traeth. Sylwch nad oes gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus aml ar gael o Bwllheli ar ddydd Sul.

image/svg+xmlP

Gwybodaeth am barcio

Mae lle parcio am ddim ar y traeth, ond mae'r safle ar fryn serth. Mae posib dod o hyd i fwy o le parcio i'r gorllewin o ffordd y traeth.
image/svg+xmli

Facilities

Toiledau

Cysylltwch â ni