Tylluanod gwynion

Barn Owl

Barn Owl _Andy Rouse 2020VISION

Ble mae gweld tylluanod gwynion

Tylluanod gwynion

Mae’r dylluan wen yn aderyn nodedig. Yn enwog am hela heb siw na miw, mae’n plymio i lawr ar ei hysglyfaeth yn ddirybudd, gydag ymyl meddal ar hyd tu allan ei phlu’n amsugno sŵn ei hedfan. Heb i sŵn adenydd yn curo darfu arni, maen nhw’n gallu gwrando am siffrwd mamaliaid bychain yn y glaswellt. Os nad ydych chi wedi gweld tylluan wen o’r blaen, mae’r gaeaf yn amser da iawn o’r flwyddyn i chwilio, oherwydd mae’n ymestyn ei horiau hela i gynnwys oriau’r dydd yn aml iawn, i ddod o hyd i’r bwyd ychwanegol sy’n ofynnol ar gyfer misoedd y gaeaf.

Cors Goch, ar Ynys Môn, yw un o’n gwarchodfeydd gorau i’w gweld nhw wrth iddyn nhw hela fel mae’n tywyllu

Chwilio am dylluanod gwynion

Mae tylluanod gwynion i’w gweld ledled Gogledd Cymru, yn enwedig lle mae ffermwyr a pherchnogion tir yn rheoli ymylon y glaswelltir, draeniau a therfynau caeau er lles llygod y gwair a sawl ysglyfaeth arall, ac yn gosod blychau nythu yn eu lle. Gallwch eu gweld yn y dirwedd ehangach wrth iddyn nhw hela ar hyd ffosydd, traciau a ffyrdd, yn enwedig yn y gwyll cyntaf un. Cors Goch, ar Ynys Môn, yw un o’n gwarchodfeydd gorau i’w gweld nhw’n hedfan fel mae’n tywyllu.

Sut mae gwneud hyn

Mae tylluanod gwynion yn bwydo’n llwyr bron ar famaliaid bach ac mae hanner eu deiet yn cynnwys llygod y gwair, felly glaswelltir garw yw’r llecyn gorau i chi weld yr helwyr tawel yma; sef hoff gynefin llygod y gwair. Fel llawer o dylluanod, mae tylluanod gwynion yn ei chael yn fwy anodd hela mewn gwynt mawr, felly gyda’r nosau llonydd braf yw’r amser gorau i geisio eu gweld. Edrychwch ar hyd yr ochr gysgodol mewn caeau, yng ngwaun y gwrychoedd, am y cyfleoedd gorau i’w gweld. Os oes tylluan wen yn hela gerllaw, efallai y bydd posib i chi ei denu’n nes drwy wneud sŵn gwichian drwy gusanu cefn eich llaw – efallai y daw’r dylluan draw i weld beth sy’n gwneud y sŵn. A chofiwch wrando hefyd – nid hwtian mae tylluanod gwynion; ond sgrechian.

Os nad ydych chi’n gallu cyrraedd y llefydd hyn

Dwy dylluan arall sy’n hela yn ystod y dydd i chi gadw llygad amdanyn nhw yw’r dylluan glustiog, sy’n hoff iawn o rostir a gorlifdiroedd arfordirol, a’r dylluan fach, sy’n hoff iawn o hela o hen goed ar hyd hen wrychoedd.

Mwy o brofiadau bywyd gwyllt

O weld blodau gwyllt lliwgar i ganfod adar ysglyfaethus rhyfeddol, fe allwn ni eich helpu chi i fod yn nes at fywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru.