Gwarchodfa Natur Cors-y-Sarnau

Sundew

Sundew Credit Chris Wynne

Cors y Sarnau Nature Reserve_Damian Hughes

Cors y Sarnau Nature Reserve © Damian Hughes

Grasshopper warbler singing from a bramble

© Richard Steel/2020VISION

Sundew

Sundew © Donald Sutherland

Cors y Sarnau Nature Reserve

Cors y Sarnau Nature Reserve

Common lizard

© Vaughn Matthews

Bog Asphodel

Bog Asphodel © Philip Precey

Gwarchodfa Natur Cors-y-Sarnau

Cyfle arbennig i weld llwyddiant ecolegol ar waith. Wrth i chi grwydro drwy’r gwlybdir heddychlon yma, ceisiwch olrhain ei siwrnai o’r llyn i’r coetir.

Location

Bala
Gwynedd
LL23 7HF

OS Map Reference

OS Explorer Map OL18
SH973393
A static map of Gwarchodfa Natur Cors-y-Sarnau

Know before you go

Maint
15 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Parciwch ym mhentref y Sarnau

Anifeiliaid pori

Gwartheg a defaid, gwanwyn a hydref.

Llwybrau cerdded

Mae ardaloedd o gorsydd mawn a ffosydd dwfn oddi ar y llwybr wedi’i farcio y mae caniatâd i chi fynd arno ac mae’n well peidio ag ymweld â’r warchodfa ar eich pen eich hun.

Mynediad

Mae’r tir yn anwastad a dyfrlawn drwy gydol y flwyddyn. Dylech wisgo welingtyns.

Dogs

Caniateir cŵn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ac yr haf

Am dan y warchodfa

Dŵr agored i goetir    

Yn llyn bas ar un adeg, erbyn heddiw mae Cors y Sarnau’n fawndir pwysig yn genedlaethol, yn gyforiog o fywyd gwyllt. Mae o leiaf pedair rhywogaeth o deloriaid sy’n bwydo ar bryfed yn nythu yn y prysgwydd trwchus ac ar gyrion y coetir. Yn ymuno â’r rhain mae telor y gwair, gan nythu yn y twmpathau hesg tal. Mae’r holl deloriaid yma’n ymwelwyr haf â’r DU, gan ddewis magu yn y warchodfa wlyb yma a’i chyfoeth o bryfed cyn dychwelyd i Affrica a de Ewrop am y gaeaf. Mae’r safle hefyd yn gartref i ymlusgiaid fel nadroedd y gwair a madfallod (cadwch lygad amdanyn nhw ar ddiwrnod cynnes), llugaeron, tegeirianau, chwys yr haul pryfysol, gweision y neidr, y cyffylog a’r gïach. Un nodwedd arbennig yn y warchodfa yw eich bod yn gallu gweld ei datblygiad dros amser yn olyniaeth y gwahanol gymunedau o blanhigion sydd wedi ymsefydlu yn y llyn yn ystod y milenia, gan ddod yn goetir gwlyb a ffen helyg yn y diwedd. 

Gweithio ar gyfer gwlypdiroedd

Mae’r warchodfa’n cael ei rheoli i warchod nifer y cynefinoedd prin o dir gwlyb sy’n dangos y newid o gymunedau planhigion o ddŵr agored i gors, ffen a mign a choetir gwlyb uwch ben mawn. Mae’r cynefinoedd hyn yn cael eu cynnal a’u cadw drwy gadw lefelau dŵr ar yr arwyneb: rhoi argaeau ar ffosydd, cadw coed a llwyni sy’n ehangu draw a thorri a phori’r gors a’r ardaloedd o laswelltir. Yn 2014 cafodd y warchodfa ei hymestyn drwy brynu Coed Tŷ Uchaf, bloc o blanhigfa gonwydd gerllaw’r safle. Cafodd y conwydd eu torri yn 2016 – mae gwaith i adfer cynefinoedd cynhenid ar droed yn dda yma nawr!

Oeddech chi'n gwybod?

Nid pridd yw mawn! Mwsogl cors (sffagnwm) wedi cronni ydi o, wedi casglu dros y milenia mewn amodau asidig, dyfrlawn. Mae mawn yn cloi’r carbon deuocsid a fyddai’n cael ei ryddhau i’r atmosffer fel arall, ac felly mae corsydd mawn yn allweddol bwysig i ni i gyd er mwyn trechu newid hinsawdd.

Cyfarwyddiadau

Parciwch ym mhentref y Sarnau, oddeutu  4 milltir i’r gogledd ddwyrain o’r Bala ar yr  A494. Cerddwch yn ôl i’r brif ffordd a chroesi’n ofalus iawn (mae hon yn ffordd brysur iawn), wedyn troi i’r chwith a cherdded ar hyd yr ymyl glaswellt am 150m. Trowch i’r dde wrth yr arwydd am lwybr troed cyhoeddus i mewn i’r warchodfa.

Contact us

Jordan Hurst
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Cors y Sarnau nature reserve_Guide and Map