Stori 'Ein Glannau Gwyllt'...

Stori 'Ein Glannau Gwyllt'...

Mae Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect am bron i ddwy flynedd nawr. Dyma gofnod hyfryd yr athrawes Sara Griffiths am eu blwyddyn gyntaf gyda ni, o’r profiadau maen nhw wedi’u cael i’r newidiadau y mae hi wedi’u gweld yn y bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan.

Pe baech chi’n gofyn i unrhyw un o fy nisgyblion i feddwl am ei hoff atgof o flwyddyn 11, rydw i’n sicr y byddai anturiaethau Ein Glannau Gwyllt yn uchel iawn ar y rhestr, os nad ym mhob un o’r atebion.         

Rydyn ni’n byw mewn rhan hyfryd o’r byd ac ar adeg pan mae dŵr y môr yn codi a’r cefnforoedd yn llawn plastig, mae’n hanfodol ein bod ni’n addysgu ein plant am yr amgylchedd ac, yn bwysicach na dim, yn annog ein pobl ifanc, gofalwyr y blaned, i boeni amdani. Diolch i adnoddau, arbenigedd ac amser prosiect Ein Glannau Gwyllt, mae fy nisgyblion i wedi cael cyfleoedd unigryw na fyddem wedi gallu eu fforddio gyda chyllid yr ysgol yn unig ac, oherwydd brwdfrydedd, gwybodaeth a chreadigrwydd yr arweinwyr, mae fy ngrŵp i wedi elwa cymaint mwy nag oeddwn i wedi’i freuddwydio ar y dechrau. Pe baech chi’n gofyn i unrhyw un o fy nisgyblion i feddwl am ei hoff atgof o flwyddyn 11, rydw i’n sicr y byddai anturiaethau Ein Glannau Gwyllt yn uchel iawn ar y rhestr, os nad ym mhob un o’r atebion.                 

O wylio morloi bach ym Mae Angel i glirio llwybrau ar y Morfa a dawnsio yn y fforest yng Ngerddi Botaneg Bangor, mae’r grŵp yma o bobl ifanc wedi cael cyfle i gysylltu, gwarchod a bod yn greadigol gyda’r arfordir yng Nghymru.

Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle i’r disgyblion ddeall canlyniadau eu gweithredoedd, gan weld sut gallant greu newid, ac mae wedi darparu cyd-destun gwych ar gyfer eu dysgu.

Mae prosiect Ein Glannau Gwyllt wedi bod yn llawer mwy na dim ond diwrnod bob pythefnos i ni. Mae ethos y prosiect wedi cael ei ymgorffori yn ysbryd ein dosbarth ni gyda dyfyniadau a chwestiynau cysylltiedig â dysg Ein Glannau Gwyllt yn amlwg ar draws gweddill y cwricwlwm.                     

Mae sgiliau gwaith tîm, hyder a dycnwch y grŵp yma wedi datblygu’n sylweddol fel rhan o’u profiadau gyda’r prosiect. Mae’r disgyblion wedi cael cyfle i ymuno â fforymau lleol; mae tri yn mynd yn rheolaidd ac mae un disgybl wedi cael cyfle i ymweld â’r senedd fel cynrychiolydd i Our Bright Future. Gweithiodd y dosbarth fel tîm i gynllunio a gweithredu sesiwn casglu sbwriel yng ngwarchodfa natur leol Pwll Brickfield. Maen nhw wedi sefydlu cynllun ailgylchu bagiau creision ledled yr ysgol gyda Terracycle, yn cynnwys ysgolion eraill yn awr ac aelodau’r gymuned, ac yn ddiweddar cynrychiolodd grŵp bach o’r dosbarth EGG mewn dathliad yng Ngwarchodfa Natur Parc Bruton yn y Rhyl. Y disgyblion yn rhoi o’u hamser eu hunain, y tu allan i’r ysgol, wedi’u hysbrydoli gan brosiect Ein Glannau Gwyllt.

Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle i’r disgyblion ddeall canlyniadau eu gweithredoedd, gan weld sut gallant greu newid, ac mae wedi darparu cyd-destun gwych ar gyfer eu dysgu. Yn y gwersi Celf, fe gawsom ni gyfle i wneud mosaig i ddathlu hanes Pwll Brickfield, lleoliad y mae’r grŵp o ddisgyblion yn ceisio ei gadw’n daclus rhag sbwriel yn awr. Ar gyfer ein hachrediad Saesneg, fe wnaethon ni astudio’r nofel ‘Sky Hawk’ am siwrnai fudo gwalch y pysgod. Roedd cyffro’r grŵp wedyn o weld gwalch y pysgod, ei gymar a chyw yn nythu yn y Brenig yn gwbl amhrisiadwy. 

Maen nhw wedi dod i ddeall eu hamgylchedd lleol yn llawer gwell ac wedi dod i deimlo’n angerddol am ei warchod.   

Mae fy ngrŵp i o bobl ifanc wedi ymweld â gwarchodfeydd natur, gweld gweilch y pysgod, morloi, gwiwerod coch a llamhidyddion. Maen nhw wedi clirio llwybrau ac adeiladu bocsys nythu. Maen nhw wedi gweithio gydag aelodau’r gymuned a chael gwybodaeth gan y rhai sydd â phrofiad ac angerdd. Maen nhw wedi gorwedd ar dir noeth yn torheulo yn yr haul a chysgodi rhag y glaw mewn dillad dal dŵr ar draethau ac ar gopaon mynyddoedd. Maen nhw wedi gweld yr arfordir o’r bryniau, y glannau ac allan ar y môr. Maen nhw wedi blasu garlleg gwyllt, yr halen yn nŵr y môr, y chwys o waith caled a … hufen iâ. Maen nhw wedi teimlo’r tonnau’n torri, creaduriaid mewn pyllau creigiog,  glaswellt o dan eu traed noeth, y gwynt yn eu gwallt a chysgod o goed. Maen nhw wedi eistedd ar eu pen eu hunain, gweithio mewn parau a dawnsio gyda byd natur. Maen nhw wedi gwrando ar raeadrau, nentydd byrlymus, cân yr adar, straeon, a’i gilydd. Maen nhw wedi dod i ddeall eu hamgylchedd lleol yn llawer gwell ac wedi dod i deimlo’n angerddol am ei warchod.   

Maen nhw wedi edrych, maen nhw wedi gwrando ac maen nhw wedi chwerthin ... llawer. 

Diolch i Ein Glannau Gwyllt am y cyfle gwych yma.