Mae byd natur ar garreg y drws yn llesol i bobl, ac mae hefyd yn llesol iawn i fusnesaucyflwynydd teledu ac awdur
Bioamrywiaeth a Busnes
@NWWT
Am y dirwedd fyw yma
Oherwydd ei hanes unigryw, mae Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn hafan bwysig i fywyd gwyllt. Gan ei bod yn stad ddiwydiannol, mae’n gyfle gwych i geisio integreiddio anghenion yr economi, yr amgylchedd a chymdeithas yn briodol mewn ffordd sydd wir o fudd i bawb.
Ein gweledigaeth yw gwneud y dirwedd ar y stad ddiwydiannol ac o’i hamgylch yn fwy addas i fywyd gwyllt fyw ynddi, yn fwy hygyrch i bobl, ac yn fwy atyniadol i fusnesau gan hefyd wella iechyd a lles y cyflogeion a’r cymunedau gerllaw. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio gyda busnesau lleol, partneriaid, gweithwyr a’r gymuned leol er mwyn bod yn gynhwysol a sicrhau budd i bawb.
Y newyddion diweddaraf
Dilynwch y digwyddiadau Tirwedd Byw trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr Wild Weekly, gweld y wefan a diweddariadau ar Facebook a Twitter.

Os hoffech chi helpu bywyd gwyllt yn Nhirwedd Fyw Stad Ddiwydiannol Wrecsam, neu os hoffech chi gefnogi’r prosiect fel noddwr corfforaethol, cysylltwch â:
Henry Cook, Swyddog Prosiect Tirwedd Fyw (Wrecsam)
henry.cook@northwaleswildlifetrust.org.uk
07940008799
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru,
Aberduna,
Maeshafn,
Mold,
Debighshire,
CH7 5LD.
Y prosiect diweddaraf o dan y cynllun hwn yw’r Prosiect Bioamrywiaeth a Busnes. Ariannwyd y prosiect hwn drwy Lywodraeth Cymru a’r Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cynllun Rheoli Cynaliadwy sydd yn cael ei ariannu gan Gyllid Ewropeaidd er Datblygu Cefn Gwlad a hefyd gan Lywodraeth Cymru.
