
Cors Goch school visit on boardwalk © NWWT
Diwrnod 'Ffentastig' Llanbedrgoch
Manylion y digwyddiad
Ynglŷn â'r digwyddiad
Dathliad am ddim i’w fynychu o Gorsydd Môn gyda gweithgareddau i bob oed.
Ymunwch â ni am ddiwrnod am ddim, sy'n addas i deuluoedd, yn dathlu tirweddau, straeon a diwylliant Corsydd Môn yn Y Ganolfan, Llanbedrgoch.
Bydd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys crefftau treftadaeth traddodiadol, gweithdai celf, taith gerdded dywys i Gors Bodeilio, a'r cyfle i archwilio deunyddiau archif a gwaith celf sy'n gysylltiedig â'r safleoedd.
Bydd grwpiau lleol a phartneriaid y prosiect yno i rannu syniadau, gweithgareddau a chyfleoedd i gymryd rhan yn eich cymuned a'r byd naturiol. Bydd gweithdai ffilm a ffotograffiaeth hefyd yn cofnodi’r diwrnod.
Bydd cinio a diodydd am ddim ar gael. Os ydych chi'n byw yma ers tro neu'n newydd i'r ardal, dewch draw i gysylltu ag eraill, dysgu mwy am y cynefinoedd gwlybdir unigryw yma, ac archwilio sut gallwn ni warchod eu dyfodol gyda'n gilydd.
Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg sgyrsiol, mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.