Volunteer of the Year awards

Nine volunteers post in a line for a picture in front of a landscape view

Volunteers © NWWT

Gwobrau Gwirfoddolwyr 2023

Hwrê i'n gwirfoddolwyr ni!

Bob blwyddyn rydyn ni’n talu teyrnged i wirfoddolwyr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol tuag at ein gwaith ni. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n holl wirfoddolwyr ni – byddai’n braf iawn gallu tynnu sylw at bawb yn unigol!

Mae'r Bathodyn Aur wedi cael ei ddyfarnu i ddau wirfoddolwr eithriadol - Bryn Jones a Graham Platt

Mae Bathodyn Aur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i aelod sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur.

Bryn Jones managing fern growth

Bryn Jones © NWWT

Bryn Jones

Mae Bryn wedi bod yn gwirfoddoli gydag YNGC ers dros ddegawd ac mae’n dderbynnydd teilwng iawn o’r Bathodyn Aur. Mae’n un o’n prif wirfoddolwyr ni yng ngwarchodfa Gwaith Powdwr a’n gwarchodfeydd natur eraill ni yn ardal Porthmadog. Mae'n aelod poblogaidd iawn ac uchel ei barch o'r grŵp a, boed law neu hindda, mae bob amser yn fodlon mynd i'r afael ag unrhyw waith rydyn ni’n gofyn iddo ei wneud. Ers 2014, mae Bryn wedi gwirfoddoli cyfanswm anhygoel o 3,000 o oriau o’i amser.

Mae Bryn yn unigolyn medrus iawn ac yn ogystal â mynychu dyddiau gwaith, mae’n adeiladu bocsys adar ac ystlumod o ddyluniadau amrywiol sydd wedyn yn cael eu gosod ar draws llawer o warchodfeydd natur yr Ymddiriedolaeth a’u defnyddio mewn prosiectau cymunedol. Yn ogystal â hyn, mae Bryn yn parhau i reoli’r cynllun monitro bocsys nythu yng Ngwaith Powdwr – gan osod, atgyweirio ac arolygu’r bocsys adar ar draws y warchodfa natur. Am flynyddoedd lawer, gyda help ei wraig Sue, bu hefyd yn rhedeg y cynllun monitro bocsys nythu yn ein Gwarchodfa Natur ni yng Nghoed Crafnant, gan wneud gwaith gwerthfawr iawn i helpu i ddiogelu a monitro’r boblogaeth o’r gwybedog brith mudol sy’n nythu yno bob blwyddyn.

Mae’r wobr yma’n cydnabod ac yn dathlu cyfraniad enfawr Bryn at ein gwaith cadwraeth ni yng Ngwynedd ac rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar iddo am ei holl waith caled. Hir y parhaed!

Graham Platt standing behind a reserve sign in a forest, surrounded by fallen autumn leaves

Graham Platt © NWWT

Graham Platt

Mae Graham wedi bod yn wirfoddolwr hynod bwysig yn ein gwarchodfeydd natur ni yng ngogledd ddwyrain Cymru ers sawl blwyddyn. Gwirfoddolodd Graham am y tro cyntaf gyda Graham Berry a Mike Klymko ac, yn fwy diweddar, mae wedi cefnogi Paul Furnborough a Jordan Vigus-Hurst wrth iddyn nhw dyfu i’w swyddi newydd fel swyddogion gwarchodfeydd. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth, sgil ac, uwchlaw popeth arall, parodrwydd i weithio'n galed. Mae cefndir peirianneg Graham wedi golygu ei fod yn amhrisiadwy mewn meysydd o’n gwaith ni nad oes gan Paul na Jordan brofiad ynddynt.

Fel gwirfoddolwr allweddol, mae Graham yn aml yn arwain grwpiau bychain o wirfoddolwyr ac mae wedi gweithio ar lefel un i un gyda Paul a Jordan ar dasgau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys atgyweirio’r guddfan adar yn ein Gwarchodfa Natur ni yng Nghors Maen Llwyd a gwneud gosodiadau pwrpasol ar gyfer meinciau a seilwaith arall. Mae Graham wedi gwirfoddoli mwy na 1,000 o oriau o’i amser ac mae’n parhau i wirfoddoli’n rheolaidd – ddwywaith yr wythnos fel arfer. Mae bob amser wrth law i rannu ei wybodaeth gyda gwirfoddolwyr eraill ac mae bob amser yn barod i ddysgu sgiliau newydd.

Mae’r wobr yma’n cydnabod ac yn dathlu cyfraniad enfawr Graham at ein gwaith cadwraeth ni yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae ein Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn wedi cael ei dyfarnu i dderbynnydd teilwng – Max Vaughan

Mae Gwirfoddolwr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wirfoddolwr sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2022-23.

Max Vaughan using tools to manage overgrowth

Max Vaughan © NWWT

Dechreuodd Max wirfoddoli gydag YNGC am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2020. Bron bob dydd Mercher a dydd Iau ers hynny, boed law neu hindda, mae i’w weld allan yn gweithio yn un o’n gwarchodfeydd natur ni yng Nghonwy ac ar Ynys Môn. Yn 2022-23 fe wirfoddolodd gyfanswm anhygoel o 500 o oriau o’i amser i’n helpu ni i reoli’r gwarchodfeydd natur arbennig iawn yma.

Mae Max yn weithiwr brwdfrydig a medrus, yn gymwys i ddefnyddio peiriant torri llwyni a llif gadwyn, ac mae hyn yn galluogi'r Ymddiriedolaeth i wneud gwaith rheoli ac adfer cynefinoedd mwy gwerthfawr. Yn ogystal â gweithio yng ngogledd orllewin Cymru, mae Max bob amser yn awyddus i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli eraill, gan gynnwys gwaith adfer rhostir yn ein Gwarchodfa Natur ni yng Nghors Maen Llwyd a’n Prosiect Rheoli Creigafal.

Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfraniad sylweddol y mae Max yn ei wneud at ein gwaith ni ac mae’n enillydd teilwng iawn o’n gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2022-23.

Mae ein gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn cael ei dyfarnu i Zak Spaull

Mae Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i wirfoddolwr ifanc sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2022-23.

Voluntter Jak Spaull smiling for the camera

Zak Spaull © NWWT

Yn 2019, cymerodd Zak, 13 oed, ran ym mhrosiect ‘Ein Glannau Gwyllt’ YNGC. Bryd hynny gofynnwyd iddo beth, yn ei farn ef, oedd angen i bobl ifanc ei wneud os ydynt eisiau helpu byd natur i adfer. Dywedodd bryd hynny yr hoffai weld mwy o bobl ifanc yn gwneud rhywbeth ymarferol i helpu’r amgylchedd a nawr, 4 blynedd yn ddiweddarach, mae’n sicr yn arwain drwy esiampl! Mae Zak, sydd bellach yn 17 oed, yn mynychu gweithgorau cadwraeth ar ddyddiau Mercher ac Iau yn ein gwarchodfeydd natur ni yng ngogledd orllewin Cymru. Yn 2022-23 fe wirfoddolodd fwy na 200 o oriau o’i amser ac mae wedi dod yn wirfoddolwr sy’n cael ei werthfawrogi a’i barchu’n fawr.

Mae Zak yn egin naturiaethwr sydd â gwybodaeth anhygoel y mae bob amser yn awyddus i'w rhannu. Gyda'i lygaid craff, mae'n mwynhau'r cyffro o sylwi ar rywogaethau diddorol ac mae wedi addysgu staff a gwirfoddolwyr fel ei gilydd am yr angen am edrych a gwrando'n fwy astud. Mae wedi ailddechrau’r arolygon o löynnod byw yn ein Gwarchodfa Natur ni ar y Gogarth ac mae’n cyfrannu at waith arolygu a monitro pwysig ar safleoedd eraill. Mae hefyd yn ymuno â staff ar rai o’n teithiau cerdded tywys ac yn ein digwyddiadau – gan unwaith eto rannu ei wybodaeth ac annog pobl eraill i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol.

Mae Zak yn unigolyn gwirioneddol ysbrydoledig ac yn fodel rôl go iawn ar gyfer ein gwirfoddolwyr iau ni. Mae’n enillydd haeddiannol iawn o Wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn YNGC ar gyfer 2022-23.

 

Dyfarnwyd y wobr i Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn i'n Mentoriaid Hyrwyddwyr Achub Cefnfor

Mae Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn wobr sy’n cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i grŵp o wirfoddolwyr sydd, ym marn y Cyngor, wedi gwneud cyfraniad eithriadol at lwyddiant a chynnydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn 2022-23.

5 people stand in shallow water in snorkelling gear, posing for the camera

Ocean Rescue Champions Mentors © NWWT

Y Mentoriaid Hyrwyddwyr Achub Cefnfor yw Amber Jepson, Anna Williams, Catrin Cahill ac Isobel Lomax. Dyma bedair o ferched ifanc sydd wedi bod yn gwirfoddoli eu hamser i helpu staff YNGC i arwain sesiynau ar gyfer ein grŵp Hyrwyddwyr Achub Cefnfor o bobl ifanc 11 i 15 oed. Gan symud ymlaen o fod yn Hyrwyddwyr Achub Cefnfor eu hunain yn ystod y flwyddyn flaenorol, maen nhw wedi bod yn dysgu sut i ddod yn fentoriaid a modelau rôl ar gyfer y grŵp yma o bobl ifanc. Maen nhw wedi mynychu sesiynau misol gyda’r grŵp, yn ogystal â sesiynau hyfforddi ychwanegol, i sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r hyder i ymgymryd â’u cyfrifoldebau mentora. A hwythau mor ifanc, maen nhw wedi mynd yr ail filltir i wirfoddoli eu hamser, gan rannu eu gwybodaeth a’u hangerdd am y byd morol gydag eraill – gan ddangos eu caredigrwydd, eu hamynedd a’u haeddfedrwydd mewn cymaint o ffyrdd. Maen nhw wedi ein helpu ni yn ystod cyfnodau preswyl ac ar stondin YNGC yn yr Eisteddfod dros yr haf, gan sicrhau canlyniadau rhagorol yn eu gyrfaoedd academaidd hefyd (TGAU i dair ohonyn nhw a Gradd Israddedig i un).

Da iawn a diolch yn fawr iawn i Amber, Anna, Catrin ac Isobel.

Da iawn a diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr ni – ni fyddem wedi gallu cyflawni cymaint heb eich help chi.