Gwarchodfa Natur Mariandyrys

Mariandyrys Nature Reserve

Mariandyrys Nature Reserve © Damian Hughes

Linnet

Linnet © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

A view across the reserve of Mariandyrys, showing vibrant green fields and trees with a small white house, and a white windmill sticking up out of the landscape, both shining in the bright sunlight. Behind the fields is a mid blue sea scattered with little white sailing boats. On the right hand side Puffin Island and the Great Orme take up most of the water, and are slightly hazy through so much distance and bright sunshine.

Mariandyrys Nature Reserve

Stonechat

Stonechat © Adam Jones

Early Purple Orchid - (c) Guy Edwardes/2020VISION

Early Purple Orchid - (c) Guy Edwardes/2020VISION

Brown argus

Brown argus © Amy Lewis

Gwarchodfa Natur Mariandyrys

Cyfle i grwydro drwy flodau gwyllt wrth syllu allan am y môr neu draw am fynyddoedd Eryri.

Location

Llangoed
Ynys Môn
LL58 8PH - Cod post gyffredinol ar gyfer tai o gwmpas y warchodfa

OS Map Reference

SH603811
OS Explorer Map 263
A static map of Gwarchodfa Natur Mariandyrys

Know before you go

Maint
11 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Parciwch ar ochr y ffordd wrth fynedfa'r warchodfa (SH603811). Cadwch fynediad yn glir

Anifeiliaid pori

Gwartheg, drwy gydol y flwyddyn.

Llwybrau cerdded

Er bod posib mwynhau’r rhan fwyaf o warchodfa Mariandyrys heb ormod o risg, byddwch yn ofalus ar lwybrau troed anwastad, dringfeydd serth ac allgreigiau creigiog llithrig.   

Mynediad

Gall gridiau gwartheg a chamfeydd wrth fynedfa'r warchodfa gyfyngu mynediad ond fel arall mae'r warchodfa'n fan agored gyda llwybrau serth mewn mannau

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Yr haf

Am dan y warchodfa

Blodau gwyllt a golygfeydd gwyllt

Mae’r warchodfa wych yma ar allgraig galchfaen sy’n ei chodi’n uwch na’r ardal o’i hamgylch ac yn cynnig golygfeydd trawiadol, pell drwy gydol y flwyddyn. Cafodd rhannau o’r ardal eu chwarelu am y calchfaen hwn yn y gorffennol ac mae nodweddion y graig sylfaen yn dal i ddylanwadu ar y llystyfiant heddiw. Yn y gwanwyn a’r haf, mae’r safle’n dod yn fyw gyda blodau gwyllt sy’n ffynnu yn y pridd llawn calch, ac mae’r twmpathau o ddaear noeth yn rhoi cipolwg ar boblogaethau prysur o forgrug melyn y ddôl islaw. Mae eithin melyn toreithiog yn amgylchynu’r safle ac yn darparu cartref i glochdar y cerrig a’r llinos. Mae’r aer yn llawn bwrlwm wrth i wenyn a glöynnod byw fanteisio i’r eithaf ar y sioe o flodau.

Dexters dros amrywiaeth

Mae’r warchodfa’n cael ei rheoli gyda’r nod o gynnal ei chlytwaith o gynefinoedd o laswelltir a rhostir. Mae gwartheg Dexter yn pori’r safle ac mae’r eithin yn cael ei dorri ar gylchdro i greu strwythur oedran amrywiol. Mae’r ddau gam gweithredu yma’n rheoli ymlediad y prysgwydd, a fyddai’n tagu perlysiau a blodau gwannach y glaswelltir fel arall.

Cyfarwyddiadau

Mae Mariandyrys yn ne ddwyrain Ynys Môn. Dilynwch y B5109 tua’r dwyrain allan o Fiwmares i gyfeiriad Llangoed. Wrth i chi adael pentref Llangoed, trowch i’r chwith i gyfeiriad Glanrafron. Dilynwch y ffordd i fyny’r allt drwy’r pentref: mae’r trac i’r warchodfa ar y chwith wrth i chi fynd rownd cornel i’r dde yn nhop yr allt (SH 603 811). Parciwch yma ar ochr y ffordd a cherdded at fynedfa’r warchodfa.

Contact us

Chris Wynne
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)