Moroedd Byw

false - Matt Slater Cornwall Wildlife Trust

Cadwraeth Morol

Moroedd Byw

Mae’r môr o amgylch Gogledd Cymru’n arbennig mewn sawl ffordd...

Gydag ychydig gannoedd o gilometrau o arfordir yn ymestyn o Aber Afon Dyfrdwy i Aberdyfi, mae’r môr o amgylch Gogledd Cymru yn arbennig mewn sawl ffordd ac yn gartref i lawer o fywyd gwyllt rhyfedd a rhyfeddol.

Ond mae moroedd Cymru mewn trafferthion! Mae llawer o’n rhywogaethau morol yn prinhau ac mae cynnydd parhaus yn y sbwriel sy’n mynd i mewn i’n moroedd, mae bygythiad o ddatblygu seilwaith anghynaladwy ac ar ben hyn oll rydym bellach yn gweld effeithiau cynyddol newid hinsawdd fyd-eang.

Fel hyrwyddwyr naturiol ar gyfer bywyd gwyllt arfordirol a morol rydym yn gweithio tuag at ein gweledigaeth o Foroedd Byw. Moroedd Byw yw ein gweledigaeth ar gyfer cadwraeth forol yng Ngogledd Cymru lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, o'r dyfnderoedd i'r basnau arfordirol.

A coastal landscape, with the sea gently lapping at smooth rocks as the sun sets behind scattered clouds

Mark Hamblin/2020VISION

Arddangosfa Moroedd Byw yn Storiel

 

Darganfyddwch ryfeddodau ein moroedd, traethau ac arfordiroedd lleol yn ein harddangosfa forol Moroedd Byw yn Amgueddfa Storiel Bangor! Bydd ar agor am dros 3 mis felly ymwelwch gymaint o weithiau ag y dymunwch! Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau dan arweiniad 'Cwrdd â'r Tîm' felly galwch draw am sgwrs gyda ni!

 

Darganfyddwch fwy o wybodaeth yma!
60 Seaside Shore-nanigans

60 Seaside Shore-nanigans © NWWT

60 Miri Morol

 

Helpwch ni i ddathlu ein penblwydd 60 mewn steil trwy lawrlwytho ein pecyn morol '60 Miri Morol', sy'n llawn dop o weithgareddau cyffrous sy'n addas i'r teulu cyfan! Mae gennym ddigon i'ch cadw'n brysur o'r lan neu o gartref, gan gynnwys taflenni defnyddiol ar gyfer canfod rhywogaethau a ffyrdd o gymryd rhan yn ein gwaith!

 

Cofrestrwch i lawrlwytho AM DDIM!

Beth ydym ni yn ei wneud....

Snorkeller over seagrass

Credit: Ocean Rescue Champions 2022

Morwellt: Achub Cefnfor

Dysgwch am ein dolydd tanddwr a sut y gallwch chi gymryd rhan mewn adfer morwellt yng Ngogledd Cymru!

Darganfyddwch mwy
A small group of people sat or crouched among a rocky shoreline, they are using gridded squares and taking notes on clipboards. Behind them the distinctive shape of the Great Orme and hills of Conwy are visible across the sea. The sky is a mixture of pale blues, yellows and oranges from a recent sunrise, with lots of streaks of white cloud.

Shoresearch volunteer Penmaenmawr - NWWT

Shoresearch

Byddwch yn wyddonydd drwy gymryd rhan yn ein Harolygon Traeth Creigiog Shoresearch!

Darganfyddwch mwy
Small-spotted catshark

Small-spotted catshark ©Alex Mustard/2020VISION

Prosiect SIARC

Darganfyddwch fwy am siarcod Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan mewn ymchwiliad gwyddonol!

Darganfyddwch mwy

Cymerwch ran!

A group of 7 people hauling a washed up fishing net off a beach. In the background many more people can be seen litter picking during a very large beach clean at plastoff 2022

Fishing Net Beach Clean © NWWT Lin Cummins

Gwirfoddoli

Darganfyddwch sut i wirfoddoli gyda'n Tîm Moroedd Byw!

Darganfyddwch mwy
Picnic with a porpoise

Picnic with a porpoise

Digwyddiadau

Ymunwch â ni i archwilio bywyd gwyllt bendigedig Gogledd Cymru!

Darganfyddwch beth sydd 'mlaen

Cyfle i ddarganfod y bywyd gwyllt yn ein moroedd ni