Ymunwch â ni

Dormouse

©Animal Picture Society

Gwarchodwch y bywyd gwyllt rydych chi'n ei garu

Dod yn aelod

Gwarchod y bywyd gwyllt rydych chi’n ei garu

Gwnewch 2024 yn flwyddyn grêt i chi ac i’r bywyd gwyllt dan fygythiad rydych chi’n ei garu yng Ngogledd Cymru. Ymunwch heddiw o £3.00 y mis a dod yn arwr bywyd gwyllt …  

Cymrwch ran yn y gweithgarwch, ymwelwch â 35 o warchodfeydd gwych a mwynhau mynedfa i dros 140 o weithgareddau -  tra’n teimlo’n gynes braf gan wybod y bo chi yn cyfrannu’n unol i warchod y bywyd gwyllt bregus ar draws Ogledd Cymru.

Dod yn aelod heddiw

Mae darparu rhaglenni cadwraeth i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r tirweddau llawn bywyd gwyllt rydyn ni’n eu mwynhau heddiw’n dasg enfawr. Rydyn ni’n dibynnu llawer iawn ar aelodau i greu’r cyllid sydd ei angen i wneud hyn. Ni allwn ddiogelu cynefinoedd gwerthfawr a bywyd gwyllt bregus Gogledd Cymru heb gefnogaeth y rhai sy’n byw ac yn gweithio o’u hamgylch.

Fe rydym yn dallt y bod ymaelodi â ni yn ymroddiad mawr a dwi’n siŵr y bod gennych gwestiwn neu ddau i’w gofyn – felly teimlwn y basa chi’n hoffi ein adnabod ni’n well, gwthiwch y linc ar waelod y dudalen yma, os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth.

Wild Places to explore

Wild Places to Explore - English Version

Ymunwch Heddiw a derbyn Llefydd Gwyllt i’w Darganfod yn anrheg am ddim. (RRP £7.50)

Y canllaw newydd i rai o’r llefydd mwyaf arbennig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru. Mae’r llyfr yn cynnwys y 35 o warchodfeydd natur sydd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’r gwarchodfeydd hyn ymhlith yr esiamplau gorau o gynefinoedd lled-naturiol yn yr ardal, gan ddarparu gwarchodaeth i rywogaethau prin a llefydd i bobl fwynhau bywyd gwyllt.

Hefyd mae’r llyfr yn ceisio eich helpu chi i gael y gorau o’ch ymweliad â gwarchodfeydd YNGC a’i llecynnau pwysig i fywyd gwyllt ar hyd yr arfordir. 

Welsh Membership pack

©NWWT

Byddwch yn cael y canlynol...

 Canllawiau i'ch gwarchodfeydd natur leol   • Tri rhifyn o gylchgrawn Natur Gogledd Cymru
• E-gylchlythyr natur wythnosol   • Mynediad i fwy na 140 o ddigwyddiadau 

• Mae cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Natur hefyd yn cael gostyngiad o 15% yn Cotswold Outdoor

Dod yn aelod heddiw
Gwyllt pack 100

Gwyllt Pack © NWWT

Aelodaeth teulu

Hefyd mae aelodau’r teulu’n derbyn pecyn croeso gwych i blant a phedwar rhifyn o gylchgrawn Gwyllt!  - yn llawn gwybodaeth, cystadlaethau, posau a phrosiectau!

 

Ymuno fel teulu heddiw
A view of the lagoon at the Spinnies Aberogwen reserve. A fallen tree log sticks out into the lagoon at the bottom of the photo.

The Spinnies Aberogwen Lagoon/Môr-lyn Spinnies Aberogwen @ NWWT Staff

Aelodaeth Rhodd

Prynwch aelodaeth Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i rywun arall fel anrheg.

Prynwch fel anrheg

Ein gweledigaeth ni yw byd naturiol ffyniannus, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol, a phobl wedi’u hysbrydoli a’u grymuso i weithredu dros fyd natur. Ein pwrpas ni yw dod â bywyd gwyllt yn ôl, grymuso pobl i weithredu dros fyd natur, a chreu cymdeithas lle mae byd natur o bwys.

Dyma be sydd gan Iolo Williams Is-lywydd yr Ymddiriedolaethau Natur ddweud am ymuno â Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

@nwwt

Nid oedd gen i syniad fod gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru cyn gymaint o warchodfeydd natur, rwyf wedi mwynhau ymweld â nhw ac maen wych i wybod bod fy aelodaeth yn helpu i’w amddiffyn hwy.
Hazel Roberts, Llanfairfechan
“Dwi’n hoffi bod yn aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru oherwydd maent yn rhedeg teithiau tywys a digwyddiadau eraill y gallai ymuno ynddynt. Er enghraifft yr wythnos diwethaf mi wnes i fwynhau gweithdy plethu clwydi helyg y redwyd ganddynt hefyd.”
Anne-Marie, Anglesey

Ydych chi eisiau ymuno ar-lein? Mae croeso i chi argraffu ein ffurflen Debyd Uniongyrchol a’i phostio atom ni!