Gweilch Llyn Brenig – y penawdau o 2019 …

Gweilch Llyn Brenig – y penawdau o 2019 …

Osprey (c) Peter Cairns/2020Vision

Darllenwch grynodeb o siwrnai ryfeddol yr adar arbennig yma – o gyrraedd i fudo ...

Ar ôl cael eu hela unwaith nes diflannu o Brydain, dim ond yn 1954 y dychwelodd gweilch y pysgod i fagu yn yr Alban, ac i Ogledd Cymru yn 2004 (ar nyth Glaslyn, Porthmadog). Fodd bynnag, yn ystod 2013 a 2014, cododd Dŵr Cymru Welsh Water bum llwyfan nythu yn Llyn Brenig ac, yn 2017, treuliodd y gweilch Blue24 (benyw) a HR7 (gwryw) yr haf yno gyda’i gilydd. Yn 2018, daethant yn ôl a llwyddo i fagu un cyw benyw: BlueZ9 (neu, yn llawer mwy bachog, ‘Luned’).

Ospreys on nest

Ospreys on nest © Gary Jones Wildlife Photography

Yn 2019, roedd ein harbenigwyr preswyl ar weilch y pysgod, Kim a Giuseppe Boccato, ar ben eu digon (ac yn llawn rhyddhad) o groesawu Blue24 a HR7 yn ôl ar 23 Mawrth – ac roeddent wrth law yn fuan i siarad gyda’r ymwelwyr am gymeriad yr adar a rhannu straeon a newyddion cadwraeth. Roedd Blue24 yn gori ar wyau erbyn 19 Ebrill gyda HR7 yn dod â physgod iddi ac yn gofalu am yr wyau o dro i dro hefyd tan 26 Mai, pan ddeorodd y cyw, er mawr bleser i bawb! Bu llawer o bysgota a bwydo wedyn, a chipolwg o dro i dro ar y cyw, a oedd yn tyfu’n gyflym iawn, yn codi’i ben allan o’r nyth i ddifyrru’r gwylwyr. 

Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd yn amlwg bod yr aderyn ifanc, o’r enw ‘Roli’ (BlueKA5), yn gyw bach cryf – yn debyg i’w fam yn ôl pob tebyg! Erbyn 3 Gorffennaf, roedd ar ymyl y nyth yn ysgwyd ei adenydd ac, ar 14 Gorffennaf (Diwrnod Annibyniaeth!), fe wnaethom ei wylio’n hedfan y nyth – ac yn fuan wedyn cafwyd cyfle i weld yr olygfa hyfryd o’r teulu cyfan yn hedfan gyda’i gilydd am y tro cyntaf. Ond mae Roli’n lwcus iawn bod ganddo rieni gofalgar – ’wnaeth o ddim llwyddo i ddal pysgodyn tan 29 Gorffennaf!

Erbyn mis Awst, roedd y teulu i gyd yn mwynhau rhyddid yr awyr, yn hedfan hyd y lle gyda’i gilydd ac yn dychwelyd i’r nyth yn achlysurol yn unig. Wedyn – mudo. Gadawodd Blue24 ar 26 Awst, gyda Dad a’r cyw yn aros am bythefnos arall bron – gan adael Llyn Brenig yn y diwedd ar 7 Medi. Er ein bod ar goll braidd erbyn hyn, rydym yn edrych ymlaen at groesawu Blue24 a HR7 yn ôl fis Mawrth nesaf – a mwy o gywion gobeithio yn 2020.

 

Os ydych chi wedi mwynhau ein diweddariadau rheolaidd (darllenwch y blog llawn yma), beth am ystyried dod yn aelod o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru? Byddech yn helpu i roi dyfodol i fywyd gwyllt lleol: ei warchod, ei adfer lle mae wedi’i golli ac, yn gyffredinol, cael ein bywyd gwyllt rhyfeddol i ffynnu unwaith eto. 

Blog Gweilch y Pysgod