Another Surprise! 12/8/21 Brenig osprey Project

Another Surprise! 12/8/21 Brenig osprey Project

©Helen Carter-Emsell NWWT

12th August 2021 Update
Osprey at Brenig

©Brenig Osprey Project

Just when we thought things were quietening down, the Brenig birds had another surprise for us!

Last week, one of our staff undertaking routine checks discovered what looks very much like the start of an osprey nest – not for breeding in this season, of course. This would normally be good news – a lovely story on which to end the year – but, regrettably, they had chosen a very unfortunate location: the cable drum that operates the main sluice gate to the site. This equipment is critical safety infrastructure and has to be regularly maintained and used. We wanted to explain the situation in case anyone spotted it for themselves, and we hope everyone understands the actions that are being taken.

It is hugely regrettable that doing nothing cannot, in this case be an option – lives depend on the sluice being safe and operable. Having sought expert advice and obtained the necessary licences, we had no choice but to dismantle this early-stage nest before more material could be added to it. Sadly, this is one of those situations where there was no good solution available – but the birds will be completely unharmed and, to avoid any disturbance to them, it was carried out at a time when they were not in the area. We will, of course, be taking measures to ensure that they don’t attempt to use this as a nesting site during the next breeding season – by which point they will, in any case, be able to re-access a re-erected nest platform in the original location. (Watch this space over the winter for news of progress, as well as other updates.) We couldn’t have predicted that they might have attempted a winch-top nest, but it has been a welcome reminder that the natural world is never predictable!

In the meantime, we very much welcome the news that our two-year-old, Roli, has been back in North Wales this summer. Wouldn’t it be lovely to see more of him next year? And perhaps there’s a wandering female around who might think so, too …

Team BOP

>>

Roedden ni’n meddwl bod pethau'n dechrau tawelu, ond roedd gan adar Brenig sypreis arall i ni!

Yr wythnos ddiwethaf, ffeindiodd aelod o'n staff oedd allan yn cyflawni archwiliadau cyffredin rhywbeth sy'n edrych yn debyg iawn i ddechrau nyth gweilch y pysgod – nid i fridio ynddi eleni wrth gwrs. Byddai hyn yn newyddion da fel arfer – yn stori hyfryd i ddirwyn y flwyddyn i ben – ond yn anffodus, roedden nhw wedi dewis lleoliad lletchwith dros ben: y drwm ceblau sy'n gweithredu prif lifddor y safle. Mae’r cyfarpar hyn yn rhan o'r seilwaith diogelwch hanfodol ac y mae angen ei gynnal a'i ddefnyddio'n rheolaidd. Roeddem ni'n awyddus i esbonio'r sefyllfa rhag ofn bod rhywun arall wedi gweld y nyth, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb yn deall y camau y bu angen eu cymryd.

Yn anffodus, nid yw gwneud dim yn opsiwn yn yr achos yma – mae bywydau'n dibynnu ar gadw'r llifddor yn ddiogel ac yn weithredol. Ar ôl cael cyngor arbenigol a'r trwyddedau angenrheidiol, doedd dim dewis arall ar gael i ni ond datgymalu'r nyth oedd ar gyfnod cynnar yn ei datblygiad cyn y gellid ychwanegu rhagor o ddeunyddiau ati. Roedd hi’n un o'r sefyllfaoedd yna lle nad oes ateb da ar gael – ond ni fydd yn niweidio'r adar o gwbl ac, er mwyn osgoi unrhyw aflonyddwch iddynt, fe'i cynhaliwyd ar adeg pan nad oeddent yn yr ardal. Wrth gwrs, byddwn ni'n cymryd camau i sicrhau nad ydyn nhw'n ceisio defnyddio'r lleoliad hwn fel safle nythu yn ystod y tymor nesaf – ac erbyn hynny bydd modd iddynt gyrraedd y platfform nythu newydd yn ei leoliad gwreiddiol. (Cadwch lygad yn y fan yma am ddatblygiadau yn hynny o beth, a newyddion arall dros y gaeaf.) Ni allem fod wedi rhagweld y byddent wedi ceisio creu nyth ar ben y winsh, ond mae hi wedi ein hatgoffa ni pa mor annarogan y gall byd natur fod!

Yn y cyfamser, rydyn ni'n falch o glywed y newyddion bod Roli, ein gwalch dyflwydd oed, wedi bod nôl yn y gogledd dros yr haf. Oni fyddai'n braf gweld rhagor ohono'r flwyddyn nesaf? Ac efallai bod yna walch benywaidd crwydrol a fyddai'n meddwl hynny hefyd …

Tîm BOP