Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys - am ddim

Grandmother and granddaughter

Image © iStock

CYNNWYS RHODD YN EICH EWYLLYS

Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys - am ddim

Sut gallwch chi helpu

I geisio helpu pobl i gamu o un ochr y bwlch i’r ochr arall, rydyn ni wedi llunio sawl partneriaeth sy’n galluogi i’n cefnogwyr ni ysgrifennu eu Hewyllys am ddim – heb unrhyw rwymedigaethau o gwbl. Ym mhob achos, rydyn ni’n talu cyfradd ddewisol am ysgrifennu nifer cyfyngedig o Ewyllysiau syml – os yw materion yn gymhlethach, bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol.

Fe allwch chi gwrdd â chyfreithiwr lleol, a gall llawer ohonynt gynnig apwyntiadau o bell, neu ysgrifennu eich Ewyllys ar-lein - edrychwch isod am fanylion neu cysylltwch â Mike Flaherty i drefnu trafodaeth gyfrinachol.

Cyfarfod cyfreithiwr

The National Free Wills Network

Bydd gennych chi ddewis o gwmnïau cyfreithwyr lleol i gwrdd â nhw - llenwch ffurflen fer iawn i ofyn am becyn gwybodaeth.

Cwblhau'r ffurflen
Mynd ar-lein

makeawillonline.co.uk

Drafftiwch Ewyllys mewn cyn lleied â 15 munud a chael cyfreithiwr ei gwirio o fewn ychydig o ddyddiau er mwyn diogelu eich dymuniadau yn eich Ewyllys rhag cael eu sialensio.   

Gwnewch ewyllys ar-lein

Hyd yn oed os ydych yn dewis i wneud eich ewyllys am ddim ar-lein, gyda gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau neu chyfreithiwr, sylwer mai dim ond ewyllysiau syml sy’n cael eu cynnig gan unrhyw rai o’r gwasanaethau hyn. Os oes gennych chi stad gymhleth, byddem bob amser yn argymell ymweld â chyfreithiwr wyneb yn wyneb. Gallech ddefnyddio’r Rhwydwaith Ewyllysiau Am Ddim Cenedlaethol fel y nodir uchod a thalu am unrhyw wasanaethau ychwanegol, neu ddod o hyd i gyfreithiwr drwy gyfrwng The Law Society.

Efallai fe fyddech, wrth gwrs, yn dewis talu am eich Ewyllys gyda’ch cyfreithiwr eich hyn.

Mae rhoddion mewn Ewyllysiau’n allweddol i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol – gan wneud yn siŵr ei fod yn llawn bywyd gwyllt a bod pobl yng Ngogledd Cymru’n deall pam mae hyn mor bwysig. Mae’n braf gwybod y byddai tua 35% o bobl yn y DU yn ystyried gadael rhodd i elusen. Fodd bynnag, er gwaetha’r bwriadau da hyn, mae ymchwil yn awgrymu mai dim ond tua 6% o bobl sydd wedi gadael rhodd i achosion da.           

Rydyn ni’n gwybod y gwahaniaeth y gallai cau’r bwlch hwnnw rhwng 6% a 35% ei wneud i fywyd gwyllt yn lleol. Mae ewyllysiau eisoes yn gwneud pethau gwych – yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi ein helpu ni i reoli gwarchodfeydd natur, gwarchod rhywogaethau unigol, achub safleoedd bywyd gwyllt a helpu plant ysgol i wneud gerddi bywyd gwyllt hardd – ond mae’n amlwg bod llawer mwy y gellid ei wneud.