Dyddiadur swyddog prosiect WaREN – Ymledwyr Ecosystem

Dyddiadur swyddog prosiect WaREN – Ymledwyr Ecosystem

© Tomos Jones - NWWT

Helo, Jess a Gareth ydyn ni, Swyddogion Prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN). Yn y blog yma byddwn yn adlewyrchu ar ein hymgyrch rhywogaethau ymledol, Ymledwyr Ecosystem, yn siarad am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, ac yn dweud yr hyn yr hoffem ei wneud y flwyddyn nesaf.

I ddechrau, beth yw'r ymgyrch Ymledwyr Ecosystem? Ymledwyr Ecosystem yw ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol, sef rhywogaethau estron sy’n effeithio’n negyddol ar ein hamgylchedd, a’u heffeithiau. Mae'n debyg eich bod chi'n meddwl nad yw hynny'n swnio'n anodd iawn, ond mewn gwirionedd, gall fod yn anodd iawn cael pobl i ymwneud â phwnc nad ydyn nhw'n gwybod fawr ddim amdano ac efallai'n meddwl nad yw'n bwysig iawn.

Mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Ymledwyr Ecosystem!

Lansiwyd ein hymgyrch ym mis Mai yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol hardd Cymru. Er gwaetha’r glaw cawsom ddigonedd o bobl yn sgwrsio â ni am rywogaethau ymledol a daeth mwy na 30 o bobl i’n sgwrs ‘Diwrnod y Triffids’. Yn dilyn lansiad yr ymgyrch, rydyn ni wedi bod yn rhedeg o amgylch y wlad yn lledaenu’r gair am rywogaethau ymledol a sut gallwch chi helpu i atal eu lledaeniad drwy ddigwyddiadau pop-yp. Rydyn ni hefyd wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau mwy gan gynnwys ‘Gŵyl Ein Dyfodol’ ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Rydyn ni hefyd wedi hyrwyddo’r ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol, lle rydyn ni wedi cynnal cwisiau rhywogaethau ymledol hwyliog (yn ein barn ni!). Drwy gydol yr ymgyrch fe wnaethon ni lansio cwis newydd bob wythnos ar gyfer ein ‘Gwener Cwis’ wythnosol. Gallwch ddod o hyd i bob un o'n cwisiau yma, beth am roi cynnig arnyn nhw! Daeth ein hymgyrch Ymledwyr Ecosystem i ben yn swyddogol yn yr Eisteddfod. Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych ac yn ystod y 7 diwrnod fe fuom yn sgwrsio gyda bron i 1500 o bobl. Cawsom gemau a gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan, gan gynnwys ein helfa rhywogaethau ymledol anhygoel a gweithgaredd DNA amgylcheddol (eDNA) lle gallech ennill pecyn o ‘top-trumps’ rhywogaethau ymledol!

Roedd y gweithgareddau'n wych ac yn wirioneddol ddiddorol, a hefyd yn darparu gwybodaeth am rywogaethau ymledol a sut i'w rheoli

Roedden ni wrth ein bodd yn mynd allan i redeg yr ymgyrch, roedd yn wych sgwrsio gyda gwahanol bobl a chlywed am eu profiadau gyda rhywogaethau ymledol a’u gwybodaeth (neu ddiffyg gwybodaeth) amdanynt! Buom yn siarad â mwy na 3000 o bobl mewn 16 o ddigwyddiadau, ymrwymodd 484 o bobl i'n haddewid ac ymwelodd mwy nag 8500 o bobl ar Facebook yn unig â'n tudalen we Ymledwyr Ecosystem! Yn ystod yr ymgyrch cynyddodd yr ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol yng Nghymru 6%. Er ein bod ni’n gwybod nad ni yw’r unig rai sy’n codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol yng Nghymru, rydyn ni’n dal i hoffi meddwl mai ni sy’n gyfrifol am y cynnydd yma!

Cynyddodd yr ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol 6%

Mae'n debyg eich bod chi'n meddwl bod hyn i gyd yn swnio'n wych, wel... er ei fod yn grêt, fe gawsom ni rai rhwystrau, er eu bod nhw y tu hwnt i'n rheolaeth ni yn aml! Os ydych chi'n byw yng Nghymru mae'n bur debyg y gallwch chi ddyfalu beth oedd y brif her wnaethon ni ei hwynebu. Ie, cywir, y tywydd! Roedd ambell ddigwyddiad a ddylai fod wedi cael ei ganslo gan y glaw mae'n debyg, ond fe wnaethon ni ddyfalbarhau (a bu bron i ni golli'r babell fawr unwaith neu ddwy)! Gan fod y tywydd yng Nghymru yn anodd ei ragweld yn aml (a bod yn garedig) fe gawson ni rai pop-yps gyda phresenoldeb isel – dydyn ni ddim yn cymryd hyn yn bersonol wrth gwrs.

Rydyn ni’n gobeithio cynnal yr ymgyrch eto’r flwyddyn nesaf ac rydyn ni eisoes yn meddwl am syniadau newydd a gwahanol ... meddyliwch am rywogaethau ymledol yn cwrdd â thatŵs dros dro! Roedd ein stondin ni yn yr Eisteddfod eleni yn eithaf gwych eisoes (er ei bod wedi cymryd tua 7 awr i ni sefydlu'r strwythur), ond y flwyddyn nesaf rydyn ni’n dod yn ôl yn fwy, yn well a gyda mwy o rywogaethau ymledol! Cadwch lygad am unrhyw rywogaethau ymledol a lansiad ein hymgyrch Ymledwyr Ecosystem 2023!! Edrych mlaen yn fawr at eich gweld chi i gyd y flwyddyn nesaf.

Mwy o wybodaeth am yr ymgyrch Ymledwyr Ecosystem! 

Welsh Government Logo