ApĂȘl Bryn Ifan
Mae Bryn Ifan yn gyfle prin i adfer byd natur a darparu buddion ehangach iâr economi a chymunedau lleol.
Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol
Gan weithio mewn partneriaeth Ăą ffermwyr a chymunedau lleol, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bwriadu adfer byd natur ym Mryn Ifan â 450 o erwau ger Clynnog Fawr â er budd pobl a bywyd gwyllt.
Mae caffael a'r rheolaeth barhaus ar Fryn Ifan wedi'i gyllido, a bydd yn cael ei gyllido, drwy ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys rhodd hael gan Aviva, a fydd yn galluogi i ni adfer coedwig law Geltaidd i lethrau Bwlch Mawr. Mae ein hapĂȘl lwyddiannus wedi codi mwy na ÂŁ75,000 ond bydd arnom angen eich cefnogaeth barhaus chi i godi arian i helpu byd natur i adfer yn y llecyn arbennig yma.
Yng Nghymru, mae bywyd gwyllt wedi bod yn prinhau ac erbyn hyn mae 17% o rywogaethau mewn perygl o ddifodiant. Gydaân gilydd, gallwn adfer cynefinoedd ar gyfer glöynnod byw prin, adar, rhedyn a blodau a hefyd cefnogi ffermio cynaliadwy ac adfywiol.
Does dim posib i ni wneud hyn heb eich
help chi â plĂźs cyfrannwch heddiw
Bryn Ifan - heddiw ...
Diolch i ofal cydymdeimladol y perchnogion blaenorol, mae Bryn Ifan mewn cyflwr da ac mae rhai rhywogaethau prin iâw canfod yma eisoes. Fodd bynnag, mae angen adfer llethr Bwlch Mawr yn goetir, ac mae gan y caeau isaf botensial mawr i ddenu amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt.
... ac yfory
O dan ein gofal ni, mae dyfodol Bryn Ifan yn ddisglair. Byddwn yn cefnogi ffermio adfywiol a fydd yn helpu byd natur; yn gwella gwlybdir o bwysigrwydd rhyngwladol ac yn plannu coetir brodorol ar ffridd yr ucheldir lle byddai wedi tyfu'n naturiol flynyddoedd yn Îl.
Byddwn hefyd yn rhannuâr manteision ymhlith y gymuned ehangach drwy weithioân agos gyda pherchnogion tir lleol, porwyr a chontractwyr â gan gynnwys partneriaeth sydd o fudd iâr ddwy ochr gyda fferm Henbant Permaculture drws nesaf.