Yr Wythnos Forol Genedlaethol

Spider Crab

Spider Crab © Cathy Lewis

Yr Wythnos Forol Genedlaethol

22 Gorffennaf – 7 Awst 2023

Plymiwch i mewn!

 

Helpwch ni i ddathlu mewn steil trwy lawrlwytho ein pecyn morol '60 Miri Morol', sy'n llawn dop o weithgareddau cyffrous sy'n addas i'r teulu cyfan! Mae gennym ddigon i'ch cadw'n brysur o'r lan neu o gartref, gan gynnwys taflenni defnyddiol ar gyfer canfod rhywogaethau a ffyrdd o gymryd rhan yn ein gwaith!

 

60 Seaside Shore-nanigans

60 Seaside Shore-nanigans © NWWT

60 Miri Morol

 

Helpwch ni i ddathlu mewn steil trwy lawrlwytho ein pecyn morol '60 Miri Morol', sy'n llawn dop o weithgareddau cyffrous sy'n addas i'r teulu cyfan! Mae gennym ddigon i'ch cadw'n brysur o'r lan neu o gartref, gan gynnwys taflenni defnyddiol ar gyfer canfod rhywogaethau a ffyrdd o gymryd rhan yn ein gwaith!

 

Cofrestrwch i lawrlwytho AM DDIM!
at Pwllheli

ID'ing Shark Eggcases © NWWT

Cymryd rhan yn Nigwyddiadau’r Wythnos Forol Genedlaethol!

 

Ffansi bod yn archarwr y môr yn ystod yr Wythnos Forol Genedlaethol eleni? Os ydych chi'n awyddus i archwilio’r lan yn hela plisg siarc, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wyliwr llamhidyddion brwd, mae gennym ni ddarpariaeth ar eich cyfer chi!

 

Archebwch le yn ein digwyddiadau yma!
Healthy seagrass meadow

Morwellt Achub Cefnfor

 

Planhigyn blodeuol sy'n byw o dan ein dyfroedd yw morwellt. Mae ganddo lawer o fanteision anhygoel, gan gynnwys helpu’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, cynnal miloedd o rywogaethau a diogelu ein harfordiroedd rhag erydiad.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn bartner cyflenwi prosiect Morwellt Achub Cefnfor, sy’n anelu at adfer dolydd morwellt yng Ngogledd Cymru.

 

Darganfod mwy am Morwellt Achub Cefnfor
Eggcase

Small Spotted Catshark Eggcase © NWWT

Helfeydd plisg wyau siarcod a môr-gathod!

 

Ydych chi wedi clywed am bwrs y fôr-forwyn erioed? Plisg wyau siarcod a môr-gathod yw’r darganfyddiadau anhygoel hyn mewn gwirionedd.

Mae pob plisgyn ŵy yn dal un siarc bach sydd, unwaith y bydd yn deor, yn nofio i ffwrdd ... mae'r plisg wyau gwag yn cael eu golchi ar ein glannau ni, yn barod i ni eu casglu!

 

Dysgwch sut i adnabod y gwahanol blisg siarc gan ddefnyddio'r canllaw defnyddio…
Intertidal Zone

Intertidal Zone © NWWT

Archwilio Pyllau Rhynglanwol

 

Archwiliwch ar hyd y parth rhynglanwol am bob math o greaduriaid cyffrous! Defnyddiwch y taflenni adnabod i dicio pa rywogaethau rydych chi wedi'u canfod yn byw yn eich pyllau creigiog lleol.

Ydych chi wedi sylwi ar dentaclau coch tywyll yr anemoni gleiniog? Neu grafangau glas y cranc nofio melfed?

Cofiwch ei bod yn bwysig iawn cadw at y cod pyllau creigiog tra rydych chi ar y traeth, a gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw anifeiliaid yn cael eu symud na'u hanafu.

 

Lawrlwythwch eich Taflen Adnabod Creaduriaid y Pyllau Creigiog!

Ddim wrth yr arfordir? Peidiwch â phoeni!

Nid dim ond i’r rhai sydd â mynediad i'r arfordir yn unig mae’r Wythnos Forol Genedlaethol!

Gall pawb gymryd rhan, dim ots ble rydych chi'n byw!

Chwiliwch am eich hoff rywogaethau morol isod a dysgwch bopeth sy'n eu gwneud mor anhygoel!

Blue Shark

Blue Shark © - Dan Bolt www.underwaterpics.co.uk

Mwy o wybodaeth am eich hoff rywogaethau morol!

 

 

Chwiliwch yma