Cynnwrf cwcwn meirch Asiaidd

Cynnwrf cwcwn meirch Asiaidd

Mae’n wythnos y gacynen feirch Asiaidd (4ydd-10fed o Fedi 2023)

Gareth ydw i, Swyddog Prosiect gyda Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN). Yn y blog yma, byddaf yn eich helpu chi i adnabod cacwn meirch Asiaidd, yn eich helpu i ddeall yn well pa greaduriaid sy’n wenyn meirch cyfeillgar, cacwn meirch, gwyfynod, pryfed hofran neu gacwn y coed o gymharu â chacwn meirch Asiaidd, egluro eu heffeithiau fel enghraifft o rywogaeth ymledol, a rhoi gwybod i chi beth allwch chi ei wneud i'w hatal rhag sefydlu yng Nghymru!

Mae'r gacynen feirch Asiaidd (Vespa velutina) yn gacynen feirch ysglyfaethus sy'n frodorol i Asia. Mae cacwn meirch Asiaidd yn Rhywogaeth Rhybudd ac mae angen rhoi gwybod am eu gweld cyn gynted â phosibl er mwyn eu hatal rhag sefydlu ym Mhrydain Fawr.

Cadarnhaodd yr Uned Wenyn Genedlaethol bod cacynen feirch Asiaidd wedi cael ei gweld am y tro cyntaf ym Mhrydain Fawr ym mis Medi 2016 yn ardal Tetbury yn Swydd Gaerloyw. Mae 32 o nythod cacwn meirch Asiaidd wedi cael eu gweld mewn 27 lleoliad, yn bennaf ar hyd Arfordir De Lloegr (ar 1af Medi 2023). I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a welwyd, ewch i wefan yr  Uned Wenyn Genedlaethol.

Os gwelwch chi gacynen feirch Asiaidd, peidiwch â cheisio ei dal na dinistrio ei nyth. Rhowch wybod am ei gweld drwy ddefnyddio’r ap Asian Hornet Watch ar Android ac iPhone neu gallwch roi gwybod am ei gweld ar-lein yma.

Asian hornet worker on branch

Asian hornet worker © National Bee Unit

Beth yw'r pryder?

Mae cacwn meirch Asiaidd yn ysglyfaethu ar bryfed, gan gynnwys pryfed peillio, a phryfed cop, a byddant hefyd yn bwyta carcasau mamaliaid bach. Maen nhw’n fygythiad sylweddol i boblogaethau o wenyn a rhywogaethau brodorol eraill. Mae’n rhywogaeth estron ymledol ‘newydd’ bosibl, ac os bydd yn llwyddo i sefydlu gallai niweidio ein poblogaethau brodorol o wenyn a’n hecosystemau. Mae eisoes wedi sefydlu yn Ffrainc a Gwlad Belg.

Cydnabyddir yn eang y bydd newid yn yr hinsawdd yn ffafrio llawer o rywogaethau ymledol, fel y gacynen feirch Asiaidd. Er enghraifft:

  • bydd amodau hinsoddol yn newid (e.e. gaeafau cynhesach) naill ai’n caniatáu i rywogaethau estron newydd sefydlu neu’n galluogi’r rhywogaethau ymledol sydd gennym ni ar hyn o bryd i ymledu ymhellach i’r Gogledd,
  • mae rhywogaethau ymledol hefyd yn tueddu i fod â goddefgarwch amgylcheddol ehangach. Mae hyn yn golygu y gallai newid yn yr hinsawdd ddarparu’r amodau perffaith i rywogaethau ymledol gael y gorau ar rywogaethau brodorol.

Gall cacwn meirch Asiaidd reoli tymheredd eu nythod ar tua 30°C drwy boeri dŵr o'u mandiblau a thrwy ddirgrynu eu hadenydd i oeri'r nythfa. Mae'r addasiadau hyn yn cadw'r nyth yn actif ac yn galluogi iddynt hela yn ystod tymereddau uchel neu isel eithafol.

Felly mae’n hanfodol codi ymwybyddiaeth o gacwn meirch Asiaidd fel bod unrhyw un yn gallu eu hadnabod a rhoi gwybod am eu gweld. Dyma un o ddibenion ein hymgyrch Ymledwyr Ecosystem, y mae’r gacynen feirch Asiaidd wedi cael ei defnyddio ar ei chyfer fel cymeriad trawiadol i dynnu sylw’r cyhoedd at rywogaethau ymledol.

Pam nawr?

Eleni mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal wythnos y gacynen feirch Asiaidd o’r 4ydd o Fedi tan y 10fed o Fedi 2023, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r gacynen feirch Asiaidd.

Mae’n siŵr eich bod chi’n pendroni pam rydyn ni’n ysgrifennu blog ar ddechrau mis Medi pan rydych chi wedi gweld llawer o wenyn mêl, gwenyn unigol, cacwn, cacwn meirch a gwenyn meirch drwy gydol y Gwanwyn a’r Haf….

Wel, yr adeg yma o’r flwyddyn, mae cacwn meirch Asiaidd yn dechrau ‘hela’ o flaen mynedfeydd cychod gwenyn neu wenynfeydd. Mae'r ymddygiad hwn yn dechrau pan fydd deiet y gacynen feirch Asiaidd yn newid o ddeiet sy'n seiliedig ar siwgr i ddeiet sy'n seiliedig ar brotein. Mae'r newid hwn mewn deiet yn dechrau ym mis Awst / Medi pan fydd y gweithwyr yn dechrau bwydo nifer fawr o larfâu yn y nyth. Dyma pryd mae cacwn meirch Asiaidd yn dechrau canolbwyntio ar safleoedd ysglyfaeth sydd â digonedd o adnoddau e.e. cychod gwenyn mêl neu wenynfeydd. Byddant yn dychwelyd i'r un safle dro ar ôl tro nes bod yr adnoddau wedi gorffen h.y. y gwenyn i gyd wedi diflannu. Mae dwy brif effaith i’r 'hela’ yma:

  1. 'Parlys chwilio am fwyd' - diffyg gweithgarwch hedfan mewn cychod gwenyn oherwydd cacwn meirch yn hofran
  2. 'Anallu i ddychwelyd gartref' – Y gwenyn yn methu dychwelyd gartref oherwydd ysglyfaethu gan gacwn meirch

Gall effeithiau’r ‘hela’ yma fod yn fawr ar oroesiad y cwch gwenyn, ond mae’r ymddygiad ‘hela’ yma (a ddangosir yn y llun isod) yn eich galluogi chi i adnabod cacwn meirch Asiaidd posibl a rhoi gwybod amdanynt cyn gynted â phosibl.

Asian hornet 'Hawking' Bee hive

© National Bee Unit 

Mae nythod cacwn meirch Asiaidd yn dod i'r golwg ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref wrth i'r dail ddechrau cwympo o goed a llwyni. Mae rhoi gwybod am y nythod hyn yn helpu’r Uned Wenyn Genedlaethol i ddod o hyd i gacwn meirch Asiaidd ac mae’n rhoi’r cyfle gorau i ni atal ymddangosiad breninesau newydd y cacwn meirch Asiaidd.

Sut ydw i'n gwybod os ydw i wedi gweld un?

Mae'n hawdd adnabod cacwn meirch Asiaidd unwaith y byddwch chi'n gwybod beth rydych chi'n chwilio amdano. Mae'r llun isod yn dangos bod y gacynen feirch Asiaidd yn gyfan gwbl ddu bron, gyda chorff melfedaidd. Mae'r abdomen yn ddu ac eithrio'r un streipen oren lydan iawn ar y pedwerydd segment ac ychydig o fandiau melyn mân. Mae'r coesau'n edrych fel eu bod wedi cael eu trochi mewn paent melyn a'r wyneb yn oren.

Asian Hornet Queen with ID

©GB NNSS

Os ydych chi'n amau ​​eich bod chi wedi gweld cacynen feirch Asiaidd yn ystod y nos, mae'n debyg eich bod chi wedi camgymryd oherwydd dydi cacwn meirch Asiaidd ddim yn hedfan yn ystod y nos.

Y peth anoddaf am geisio adnabod y gelyn yma (y gacynen feirch Asiaidd) ydi ei bod yn edrych mor debyg i lawer o rywogaethau brodorol cyfeillgar eraill yma ym Mhrydain.

Dyma 5 rhywogaeth debyg:

European hornet taken by Jerzy Strezelecki (Wikimedia)

European hornet © Jerzy Strzelecki, Lodz (Poland)

Y Gacynen Feirch Ewropeaidd

Y gacynen feirch Ewropeaidd (Vespa crabro) yw ein rhywogaeth frodorol ni o gacynen feirch. Mae'n fwy na'r gacynen feirch Asiaidd ac mae ganddi gorff brown gyda streipiau melyn a du ar ei habdomen. Mae ei phen yn felyn o'r tu blaen ac yn gochlyd wrth edrych arno o’r top. Mae'r rhain yn gyfeillion, maen nhw’n ddof yn gyffredinol ac yn chwarae rhan hanfodol wrth ysglyfaethu ar rywogaethau o blâu a pheillio blodau drwy drosglwyddo paill.

Un ffaith ddiddorol am gacwn meirch Ewropeaidd yw mai'r frenhines yw'r unig un sy’n goroesi gaeaf y DU ac yn dod i'r golwg wrth i'r tywydd ddechrau cynhesu yn gynnar yn y gwanwyn.

Giant horntail Dr Malcolm Storey

Giant horntail © Dr Malcolm Storey

Cacynen Goed Gawraidd

Mae cacynen durio’r coed (Urocerus gigas) yn fath rhyfeddol o lifbryf. Mae'n denau ac yn hirgul ei hymddangosiad o gymharu â'r gacynen feirch Asiaidd. Mae gan gacynen durio’r coed abdomen melyn a du nodedig. Mae'r antena a'r coesau yn felyn. Mae'r rhain yn ffrindiau ac yn ddiniwed i bawb (oni bai eich bod chi'n bren).

Un ffaith ddiddorol am gacwn y coed ydi’r peth sy'n edrych fel pigyn - nid pigyn ydi o, ond wyddodydd i ddodwy wyau mewn pren.

Hornet moth © Ben Sale

Hornet moth © Ben Sale

Ffug gacynen

Mae’r gwyfyn cacynaidd (Sesia apiformis) yn wyfyn cliradain syfrdanol. Mae'n edrych yn debyg i wenyn, neu gacwn meirch, gan ei fod yn rhan o grŵp o'r enw hymenoptera sy'n defnyddio dynwared fel ffurf ar amddiffyniad. Mae gan y gwyfyn cacynaidd gorff blewog, nid oes ganddo 'ganol' pendant ac mae ganddo lygaid bach a dau bâr o adenydd wedi'u hamlinellu'n nodedig. Mae'r rhain yn ffrindiau ac yn hedfan yn ddiniwed o gwmpas planhigion sy'n peillio.

Un ffaith ddiddorol am wyfynod cacynaidd yw eu bod nhw’n gaeafu am ddwy flynedd, cyn ymddangos.

Hornet mimic hoverfly © Joan Burkmar

Hornet mimic hoverfly © Joan Burkmar

Pryf hofran sy’n dynwared cacwn meirch

Mae’r pryf hofran sy'n dynwared cacwn meirch (Volucella zonaria) yn bryf bendigedig arall sy'n dynwared lliw rhywogaeth arall. Mae gan bryfed hofran sy'n dynwared cacwn meirch lygaid mawr a chrwn sydd i'w gweld wrth edrych arnyn nhw o’r top. Mae'r coesau'n ddu a'r antena'n fyr ac yn stympiog. Mae'r pryfed hofran yma’n gyfeillgar ac yn beillwyr planhigion gwyllt a gardd.

Un ffaith ddiddorol am bryfed hofran sy'n dynwared cacwn meirch ydi eu bod yn gallu byw yn hapus yn nythod gwenyn meirch cymdeithasol heb gael eu pigo.

Common Wasp ©Mike Snelle

Common Wasp ©Mike Snelle

Gwenynen Feirch

Os yw'n felyn a du, ac yn llai blewog na gwenynen, gallai fod yn wenynen feirch (Vespula vulgaris), ffrindiau yw'r rhain ac nid gelynion. Er y gall gwenyn meirch fod yn ymosodol yn ystod misoedd yr haf, maent yn chwarae rhan hanfodol yn yr amgylchedd. Er enghraifft, maen nhw'n ysglyfaethwr sy'n rheoli amrywiaeth o rywogaethau o blâu fel pryfed gwyrdd a llawer o lindys i amddiffyn gerddi a chnydau. Ond mae gwenyn meirch hefyd yn beillwyr hanfodol wrth iddyn nhw drosglwyddo paill wrth ymweld â blodau i yfed neithdar.

Un ffaith ddiddorol am wenyn meirch ydi eu bod yn newid eu deiet yn ystod yr haf o ddeiet sy'n seiliedig ar siwgr i ddeiet sy'n seiliedig ar gig pan fyddant yn bwydo eu rhai bach. Cymerwch ran!

Cymerwch ran!

Nawr eich bod chi’n gallu adnabod cacwn meirch Asiaidd, cymerwch ran a rhoi gwybod os byddwch yn eu gweld!

Mae cofnodi'r rhywogaeth yma’n hanfodol bwysig i atal unrhyw boblogaethau o gacwn meirch Asiaidd rhag sefydlu.

Os ydych chi'n amau eich bod chi wedi dod o hyd i gacynen feirch Asiaidd neu ei nyth, peidiwch â cheisio mynd at, dal na dinistrio'r unigolyn neu'r nyth. Os yw'n ddiogel, ceisiwch dynnu llun, a gwnewch nodyn o'ch lleoliad. Hyd yn oed os na allwch chi dynnu llun, rhowch wybod am ei gweld ar wefan GB NNSS drwy ffurflen ar-lein neu gan ddefnyddio’r ap Asian Hornet Watch.

Mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn hanfodol i atal y Rhywogaeth Rhybudd yma rhag sefydlu a thrwy roi gwybod rydych chi’n gwarchod rhywogaethau brodorol gwerthfawr!!

Os hoffech chi gael gwybod mwy neu os oes arnoch chi angen help i adnabod cacynen feirch Asiaidd bosib; anfonwch unrhyw gwestiynau i gareth.holland-jones@northwaleswidlifetrust.org.uk.