Dweud Na wrth gompost mawn

Compost

Markus Spiske, Unsplash

Mae angen rhoi terfyn ar unwaith ar werthiant mawn

Mae mawn sy’n cael ei ddefnyddio yn ein compost yn cael ei gloddio o lefydd gwyllt, gan niweidio rhai o’r mawndiroedd olaf sydd ar ôl yn y DU a thramor. Mae’r broses hon hefyd yn rhyddhau carbon i’r atmosffer, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.

Ddeng mlynedd yn ôl, gosododd Llywodraeth y DU darged gwirfoddol i’r sector garddwriaeth roi’r gorau i werthu compost mawn i arddwyr erbyn 2020. Rydyn ni wedi bod yn pwyso am waharddiad ar ei ddefnydd ers peth amser ac, o ddiwedd 2024 ymlaen, bydd compost mawn sy’n cael ei werthu mewn bagiau ar gyfer defnydd gardd yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr.

Mae ein llyfryn newydd ni, Garddio gwyrddach: Perffeithio garddio di-fawn, yn cynnwys mwy o wybodaeth am fawndiroedd gwerthfawr, a sut i brynu neu wneud eich compost heb fawn eich hun ac wedyn bydd eich planhigion yn ffynnu yn yr amgylchedd yma sy’n gyfeillgar i fyd natur.

Lawrlwythwch ein canllaw AM DDIM i fod yn ddi-fawn

 

Mae mawndiroedd yn gynefinoedd bywyd gwyllt allweddol ac mae’n gwbl hanfodol eu bod yn aros yn eu lle er mwyn ein helpu ni i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gall y Llywodraeth sicrhau bod y storfeydd carbon pwysig hyn yn gweithredu fel y’u bwriadwyd drwy wahardd gwerthu mawn yn awr.
Craig Bennett
Prif Weithredwr, Yr Ymddiriedolaethau Natur

Test your knowledge!

peat free illustration

Go peat-free at home

Read our top tips
peat landscape

Peter Cairns/2020VISION

Why we need our peatlands

Our UK peatlands store an amazing 3.2 billion tonnes of carbon

Find out more
compost

Join the gardeners going peat-free

Make the pledge