Cyngor defnyddiol wrth ymweld â'n gwarchodfeydd natur ni

Three volunteers walking towards camera along a boardwalk in a wetland

© NWWT

Cyngor defnyddiol wrth ymweld â'n gwarchodfeydd natur ni

Mae pob un o’n 35 o warchodfeydd natur yn unigryw

Mae ein gwarchodfeydd natur ni’n gartref i blanhigion ac anifeiliaid cyffredin a phrin sydd ddim efallai’n bodoli yn unman arall yng Ngogledd Cymru. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid yma’n agored i niwed oherwydd y tarfu lleiaf hyd yn oed. Gall fod yn anodd deall effaith enfawr ‘rhyw darfu bach’ o’r fath, ond mae’n lleihau cyfradd goroesi cymaint o rywogaethau yn sylweddol.

Hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl eich bod chi'n achosi difrod, efallai bod eich gweithredoedd yn gwneud hynny.

Common lizard

© Vaughn Matthews

Mae sawl rhywogaeth yn agored i niwed o hyd yn oed y lefelau lleiaf o darfu, gan gynnwys y fadfall.

Gall tarfu a achosir gan bobl (gan gynnwys cŵn) gael effaith negyddol sylweddol ar lwyddiant magu llawer o rywogaethau, drwy arwain at adael nyth, mwy o ysglyfaethu a cholli egni sylweddol.

Gall effaith gronnol ychydig bach o straen ar y tro gael effaith ddinistriol (cudd yn aml) ar fywyd gwyllt.

Diogelu ein Llefydd Arbennig

Mae’r cyhoedd yn ymweld yn rheolaidd â’n holl warchodfeydd natur ni, gan gynnwys cerddwyr, pobl sy’n hoff o fywyd gwyllt, teuluoedd, plant a grwpiau ysgol ... ac mae croeso i bawb!

Drwy ymweld ag un o’n gwarchodfeydd ni, rydych chi eisoes yn dangos eich gwerthfawrogiad o’r llefydd arbennig yma – helpwch ni i’w diogelu nhw nawr ac ar gyfer y dyfodol.

O bryd i'w gilydd, gall materion fel tarfu ar rywogaethau arbennig neu reoli da byw olygu bod rhaid i ni wahardd ymwelwyr a'u hanifeiliaid anwes o ran o warchodfa. Cadwch lygad am yr holl arwyddion yn ein gwarchodfeydd ni a chadwch at y gorchmynion!

Rydyn ni’n deall eich bod chi eisiau osgoi tarfu ar fywyd gwyllt ac rydyn ni’n eich cefnogi chi. Felly sut gallwch chi helpu?

Cofiwch ystyried ymwelwyr eraill

  • Cadwch at y Cod Cefn Gwlad
  • Helpwch i Atal Ymlediad rhywogaethau estron ymledol drwy ddilyn y tri cham bioddiogelwch syml - Gwirio Glanhau Sychu - bob tro y byddwch chi allan yng nghefn gwlad.
  • Ewch â'ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw olion ar ôl ymweld
  • Peidiwch â chynnau tanau na barbeciws
  • Dydi pawb ddim yn hoff o gŵn – mae gan rai ffobia mawr wrth eu gweld, neu maen nhw’n teimlo’n hynod anghyfforddus os bydd ci yn mynd atyn nhw; gall pobl eraill gael eu taro drosodd, eu brathu neu eu niweidio'n ddifrifol. Cadwch eich ci yn agos atoch chi.

Cadwch eich ci ar dennyn

Osgowch ddefnyddio tennyn sy’n ymestyn neu dennyn hir i leihau gofid. Os yw eich ci yn crwydro oddi ar y llwybr, bydd yn tarfu ar fywyd gwyllt.

Yn rhai o’n gwarchodfeydd ni, efallai y byddwn yn creu ardaloedd lle mae’n bosibl gadael i’ch ci ymarfer oddi ar ei dennyn. Cadwch lygad am yr arwyddion yma, a pheidiwch â gadael i’ch ci redeg yn rhydd oni bai eich bod yn gweld yr arwyddion.

dog walking event

Dog walking event Minera Quarry Nature Reserve ©Alistair Cameron 

Byddwch yn ymwybodol o anifeiliaid pori a bywyd gwyllt tymhorol

Skylark with young

Ehedydd, aderyn sy'n nythu ar y ddaear mewn glaswelltiroedd ac sy'n agored i niwed oherwydd tarfu.

  • Mae glaswelltiroedd, gwlybdiroedd a choetiroedd i gyd yn gartref i fywyd gwyllt a all fod yn nythu neu'n gorffwys ar y ddaear neu'n agos ati drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae rhai o'n safleoedd ni a’r tir cyfagos yn gartref i wartheg, merlod a defaid. Gall beiciau, pobl a chŵn darfu ar dda byw, gan arwain at straen, anafiadau difrifol ac (yn amlach nag ydyn ni’n sylweddoli) marwolaeth anifeiliaid sy’n pori.
  • Cofiwch, gall eich gweithredoedd chi effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl eraill.
  • Mae llawer o'n gwarchodfeydd natur ni’n cael eu rheoli gyda help anifeiliaid sy'n pori ar rai adegau o'r flwyddyn. Cadwch bellter da oddi wrth dda byw a gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael giatiau fel rydych yn dod o hyd iddynt.
  • Os bydd gwartheg yn dod atoch chi mewn ffordd fygythiol, rhyddhewch eich ci er eich diogelwch chi a'ch ci.
cows

Belted Galloways at Eithinog Nature Reserve © Chris Wynne

Snipe

Snipe © Margaret Holland

Mae’r gïach cyffredin yn un o’r llu o rywogaethau o adar sydd i’w cael yn bwydo ar gynefinoedd gwlybdir yn ystod misoedd y gaeaf

Glanhewch ar ôl eich ci bob amser

Oeddech chi'n gwybod bod baw cŵn yn achosi problemau enfawr i fywyd gwyllt?               

  • Mae'r cynnydd mewn maethynnau’n effeithio ar dyfiant planhigion, gan fygwth rhywogaethau pwysig a'r cynefinoedd ehangach maen nhw’n byw ynddynt.
  • Gall baw ci lygru porfa ac achosi afiechydon mewn da byw. Mae'r afiechydon hyn yn achosi erthylu mewn gwartheg ac afiechydon niwrolegol mewn defaid – ac, yn aml, marwolaeth.
  • Mae baw ci hefyd yn achosi perygl difrifol i bobl. Pan fydd staff a gwirfoddolwyr yn torri llwybrau i'w cadw'n glir i ymwelwyr, gallant gael baw ci drostyn nhw i gyd, gan gynnwys yn eu llygaid.
  • Fel ymwelydd cyfrifol sy'n poeni am y warchodfa hon, rhowch eich gwastraff yn y bin addas agosaf neu ewch ag ef adref gyda chi i'w waredu. 
brushcutting

Brushcutting at Gwaith Powdwr © Katy Haynes

Peidiwch â gadael i'ch ci fynd i mewn i byllau, afonydd neu gyrff dŵr eraill

  • Mae'r ymddygiad yma’n achosi tarfu enfawr mewn ac o amgylch ardaloedd o ddŵr agored.
  • Mae'n cynyddu'r risg o drosglwyddo planhigion ymledol a niweidiol, yn ogystal ag afiechydon fel Ranafeirws, o un ardal i un arall.
  • Mae pryfleiddiaid sydd i’w cael mewn cynhyrchion chwain a throgod ar gyfer cŵn yn wenwynig iawn i bob pryf ac infertebrata dyfrol. Gall un dos ladd miliynau!
  • Mae rhai pyllau'n dueddol o ddioddef o algâu gwyrddlas gwenwynig, a all fod yn angheuol i gŵn os cânt eu llyncu.
A smooth newt creeps through some short grass

Smooth newt © Philip Precey