Butterflies

Speckled wood butterfly

Speckled wood butterfly - Vicky Nall

Glöynnod Byw Gwych

Cefnogi ein gwaith

Mae Glöynnod Byw angen ein help ni

Mae glöynnod byw yn llawer llai cyffredin nawr nag oedden nhw saith deg mlynedd yn ôl a does dim angen chwilio’n galed am yr ateb pam. Ers y 1940'au, rydyn ni wedi colli 97% o’n dolydd llawn blodau gwyllt a hefyd llawer o rostir, coetiroedd hynafol a chorsydd mawn.

Mae hyd yn oed glöynnod byw cyffredin ar eu colled wrth i wrychoedd ac ymylon caeau llawn blodau gwyllt a glaswelltau gael eu torri gan arad. Felly beth allwn ni ei wneud i helpu?

Beth mae glöynnod byw yn ei hoffi?

Mae glöynnod byw yn ymweld â gerddi i yfed neithdar o flodau. Mae glöynnod byw yn brysur iawn ac mae neithdar yn darparu’r tanwydd maen nhw ei angen i aros yn yr awyr.

Mae llawer o blanhigion neithdar da’n rhai bythol sydd i’w gweld mewn borderi bach neu ddolydd ac yn hawdd eu tyfu. Hefyd mae glöynnod byw yn hoffi torheulo ar gerrig neu raean cynnes i gynhesu eu hadenydd.

Blodau i löynnod byw

Dylech osgoi cyltifarau magu mawr gyda blodau dwbl mawr sydd ddim yn cynnwys llawer o baill a neithdar, os o gwbl. 

Mae amrywiaethau un blodyn yn well. 

Plannwch ddetholiad da o wahanol blanhigion neithdar mewn llecynnau heulog.

Edrychwch ar ein rhestr o blanhigion ar gyfer pryfed peillio i gael syniadau ar gyfer eich gardd.

Pryd maen nhw angen ein help?

Rhaid gwneud yn siŵr bod blodau ar gael o ddechrau’r gwanwyn tan ddiwedd yr hydref.

Mae blodau cynnar yn wych i löynnod byw sy’n rhoi’r gorau i aeafgysgu, ac ar ddiwedd yr haf ac yn yr hydref maen nhw angen creu storfa yn barod ar gyfer y gaeaf.    

Darparwch gartrefi dros y gaeaf fel gwrychoedd, eiddew neu blanhigion dringo bytholwyrdd eraill ar ffensys neu waliau i löynnod byw aeafgysgu ynddyn nhw.

Gaeafgysgu

Mae’r glöynnod byw gwyn a glas a’r gweirlöynnod yn treulio’r gaeaf fel chwiler.

Mae’r fantell dramor a’r fantell goch yn mudo i Ewrop fel rheol. 

Mae melyn y rhafnwydd, mantell paun a’r trilliw bach yn gaeafgysgu mewn llwyni ac adeiladau fel oedolion.

Planhigion ar gyfer yr holl beillwyr drwy’r tymhorau

Dewiswch gymysgedd o blanhigion, llwyni a choed blodeuo tymhorol i sicrhau ffynhonnell o fwyd drwy gydol y flwyddyn yn eich gardd. Edrychwch ar ein tudalennau am ddolydd am syniadau ar gyfer blodau gwyllt.

Gaeaf

Grug y gaeaf, mahonia, saffrwm, eirlysiau, collen ystwyth, Viburnum tinus, bocs pêr 

Gwanwyn

Cynfas biws, alyswm, blodyn y fagwyr bythol piwswyn Bowles, drain duon, clychau’r gog, mwyar duon, glesyn y coed, meillion, cyfardwf, briallu Mair brodorol, saffrwm, blodyn llefrith, dant y llew, calon waedlyd, clafrllys y maes, sgorpionllys, llwyni cwrens blodeuog, grug, swllt dyn tlawd, llysiau’r ysgyfaint, llygad-llo mawr, briallu brodorol, helyg yr afr, helyg llwyd, roced pêr, fioledau, blodyn y fagwyr

Haf

Aliwm, aster (cyltifarau novi-angliae ac Aster amellus a’i gyltifarau; nid yw’r ddwy rywogaeth yma’n ymledol), troed-y-golomen, tafod yr ych, llysiau’r gwrid y tir âr, lelog Califfornia, clychlys, mintys y gath, cennin syfi, glas yr ŷd, ysgall pengrwn, pig y crëyr, esgalonia, melyn yr hwyr, bysedd y cŵn, grug, pedwar-ban-byd, gwyddfid, ysgol Jacob, clust yr oen, lafant, lobelia, bysedd-y-blaidd, penrhudd, gold, mintys, capan cornicyll, Phacelia tanacetifolia, fflocs, pabi, cor-rosyn, rhosmari, saets, clafrllys, rhywogaethau salfia, celyn y môr, penigan barfog, blodyn haul, teim, ferfain, gwifwrnwydden, gwiberlys, milddail

Hydref

Mintys y gath, blodyn pigwrn, cosmos, byddon chwerw, amrhydlwyd, grug, eiddew, y bengaled, maglys rhuddlas, blodyn Mihangel, Sedum spectabile ‘Rhewlys’, eurinllys, cribau’r pannwr, asgell

Planhigion bwyd larfa

Mae’n bwysig darparu bwyd ar gyfer y lindys yn ogystal â’r glöynnod byw yn eu llawn dwf

Dyma rai awgrymiadau

Pys-y-ceirw – glesyn cyffredin,

Rhafnwydd neu freuwydd - melyn y rhafnwydd,  

Suran neu suran yr ŷd – copor bach, 

Blodyn llefrith, garlleg y berth, swllt dyn tlawd a roced pêr - gwyn blaen oren, gwyn gwythïen werdd,

Celyn ac eiddew – glesyn y celyn,

Hopys – mantell garpiog,

Capan cornicyll – gwyn mawr a bach,

Glaswelltau brodorol; maeswellt, troed y ceiliog, gweunwellt, peiswellt, maswellt penwyn, rhonwellt, breichwellt y coed - gweirlöyn y ddôl, gweirlöyn y perthi, gweirlöyn y cloddiau, gweirlöyn y glaw, gwibiwr bach, gweirlöyn brych

Danadl poethion - trilliw bach, mantell paun, mantell garpiog, mantell goch,

Ysgall a danadl - mantell dramor

Ydi fy lawnt i’n bwysig i löynnod byw?

  • Mae llawer o löynnod byw fel gweirlöyn y ddôl a gweirlöyn y perthi yn dodwy eu wyau ar laswellt felly gadewch i ardal dyfu’n dal dros yr haf.
  • Peidiwch â thorri’r ardaloedd hyn yn llai na 15cm dros y gaeaf oherwydd bydd y lindys yn gaeafgysgu mewn twmpathau glaswelltog.
  • Gadewch rai ardaloedd heb eu torri os gallwch chi.

Gardd fechan?

Peidiwch â phoeni – gallwch dyfu rhai o’r planhigion yma mewn potyn neu focs ffenest – bydd y glöynnod byw wrth eu bodd! Gwnewch yn siŵr bod digon o haul fel bod glöynnod byw yn gallu mwynhau’r cynhesrwydd.

Tyfu eich dôl fechan

Grow your own mini meadow garden_Activity Sheet_Cymraeg