Sut Bydd Rhoddion Mewn Ewyllysiau Yn Helpu

Bench with a view

Image © Ross Hoddinott/2020VISION

Sut Bydd Rhoddion Mewn Ewyllysiau Yn Helpu

Mwynhewch yr olygfa hon am byth

 

 

Beth fydd eich gwaddol

Sut Bydd Rhoddion Mewn Ewyllysiau Yn Helpu

Mae Rhoddion mewn Ewyllysiau yn hanfodol i waith parhaus Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Ewch am dro rithwir o amgylch y map rhyngweithiol isod i weld dim ond rhywfaint o'r effaith mae rhoddion o’r fath wedi'i chael ar fywyd gwyllt a llefydd gwyllt Gogledd Cymru. Yn 2024, mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn parhau i gefnogi nifer o brosiectau, gan gynnwys gwarchodaeth hanfodol i fôr-wenoliaid a gweilch y pysgod yng Nghemlyn a Llyn Brenig, a gosod meinciau newydd yn rhai o’n gwarchodfeydd natur hardd ni.

Beth fydd eich gwaddol?

Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod.  Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.

Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.

Gadewch rodd yn eich ewyllys

An Osprey, a large bird of prey with mainly white chest and white and brown mottled feathers, on a perch. Wings spread above it, and a tag reading KS8 on it's right leg. In the background some large trees, and a lake.

Osprey KS8 ©BrenigOspreyProject/KimBocatto

Sut Bydd Rhoddion Mewn Ewyllysiau Yn Helpu

Adar Brenig

Derbyniasom y swm anhygoel o £350,000 gan ymddiriedolaeth elusennol sefydlwyd yn Ewyllys Idris Jones.  Fe fydd y rhodd yma yn gwella y cyflwr amgylcheddol o Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd er lles bywyd gwyllt a chynyddu ymwybyddiaeth ar pam fod yr ardal mor bwysig ymysg y miloedd o bobl sydd yn ymweld â’r ardal pob blwyddyn – gwir gwaddol oes.

Tern and chick

Arctic tern shelters it's chick © Cemlyn wardens

SUT BYDD RHODDION MEWN EWYLLYSIAU YN HELPU

Adar môr Cemlyn

Mae ewyllys ddiweddar o £21,000 yn ein helpu ni i warchod adar môr sy’n nythu yng Nghemlyn ar arfordir gogleddol gwyllt Ynys Môn. Mae’r safle’n gartref i’r unig boblogaeth nythu o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru.

Two Little Ducks

Two Little Ducks © Andrew Parkinson/2020VISION

SUT BYDD RHODDION MEWN EWYLLYSIAU YN HELPU

Dwy hwyaden fechan

22% o’n hincwm gwirfoddol yn ystod y pedair blnedd diwethaf wedi dod o roddion mewn Ewyllysiau. Mae hwn yn parhau I’n gallougi ni I ddiogelu bywyd a llefydd gwyllt lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.