Yw’r 'COP' yn hanner gwag neu’n 'COP' hanner llawn?

Yw’r 'COP' yn hanner gwag neu’n 'COP' hanner llawn?

© Kirsty Brown - NWWT

Efallai eich bod wedi clywed am y COP15 diweddaraf a’r Fframwaith Bioamrywiaeth Kunming-Montreal Fyd eang (GBP), sydd yn rhoi gobaith i natur. Ond beth yn union ydi o a beth mae yn olygu i rhywogaethau ymledol?

Mae'n ymddangos bod gobaith i fioamrywiaeth ar ôl COP15. Mae Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) Kunming-Montreal yn cydnabod bod ‘bioamrywiaeth yn sylfaenol i les dynol a phlaned iach’.

"Bioamrywiaeth yn cefnogi pob system o fywyd ar y ddaear"

Nod Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal yw adfer o leiaf 30% o ecosystemau’r tir, y dŵr mewndirol, yr arfordir a’r môr sydd wedi’u diraddio erbyn 2030. Bydd hyn yn gwella bioamrywiaeth, swyddogaethau a gwasanaethau ecosystemau, integriti ecolegol a chysylltedd. Mae’r DU yn un o’r ardaloedd sydd wedi colli’r gyfran fwyaf o’i byd natur yn y byd. Bydd y fframwaith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar rai o'n polisïau ni ein hunain, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau byd-eang newydd i ddiogelu byd natur. Mae mwy o wybodaeth am sut mae COP15 yn rhoi gobaith i fyd natur ar gyfer y dyfodol ar gael yma.

"targed o 30erbyn30 o ddiogelu 30% o dir a mor ar gyfer byd natur erbyn 2030"

Er mwyn cyflawni hyn, rhaid ystyried bygythiadau i fioamrywiaeth. Mae'r IPBES (Gwyddoniaeth Rynglywodraethol - Llwyfan Polisi ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau) wedi nodi'r pum prif ysgogydd i golli bioamrywiaeth yn fyd-eang, ac un ohonynt yw rhywogaethau ymledol (sy’n cael eu galw hefyd yn rhywogaethau estron ymledol).

5 direct drivers of biodiversity loss

Direct drivers of change in nature with the largest global impact (IPBES Global Assessment) ©NWWT

Ond beth mae yn olygu i rhywogaethau ymledol?

Mae Targed 6 yn y Fframwaith yn canolbwyntio’n benodol ar rywogaethau ymledol ac yn anelu at y canlynol:

  • dileu, lleihau, lleddfu a / neu liniaru effeithiau rhywogaethau estron ymledol ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau drwy nodi a rheoli llwybrau cyflwyno rhywogaethau estron,
  • atal cyflwyno a sefydlu rhywogaethau estron ymledol blaenoriaeth,
  • lleihau ar ganran o 50% o leiaf gyfraddau cyflwyno a sefydlu rhywogaethau estron ymledol hysbys neu bosibl
  • erbyn 2030, dileu neu reoli rhywogaethau estron ymledol, yn enwedig mewn safleoedd blaenoriaeth, fel ar ynysoedd.

Mae WaREN yn cyfrannu at gyflawni Targed 6 yma yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol, a hwyluso gwaith ar lawr gwlad drwy gefnogi Grwpiau Gweithredu Lleol (GGLl). Mae Targed 6 y Fframwaith yn fyd-eang ond mae gennym ni rôl bwysig yma yng Nghymru; rhaid i ni fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol!

Os bydd uchelgeisiau COP15 yn cael eu cyflawni, mae gobaith i fioamrywiaeth, mater i bob un ohonom ni yw a yw hyn yn llygedyn o obaith Yw’r COP yn hanner gwag neu’n COP hanner llawn?