Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 16eg-22ain Mai 2022
Beth yw’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol?
Mae’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn ddigwyddiad blynyddol cenedlaethol sy’n cael ei arwain gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol PF a’r nod yw codi ymwybyddiaeth o effeithiau rhywogaethau ymledol a dathlu gweithredu i atal eu lledaeniad. Mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru yn hynod falch o gyflwyno themâu’r wythnos a dweud popeth wrthych chi am sut gallwch chi gymryd rhan!
Themâu ar gyfer yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol
Mae'r wythnos yn cynnwys themâu allweddol i helpu i nodi'r effeithiau y mae rhywogaethau ymledol yn eu cael ar amrywiaeth o gynefinoedd a sut gallwn ni helpu i atal eu lledaeniad.
Dyma’r themâu allweddol ar gyfer pob diwrnod:
- Dydd Llun 16eg - cyflwyniad i rywogaethau ymledol a'u heffeithiau ar yr amgylchedd daearol (cefn gwlad)
- Dydd Mawrth 17eg – effeithiau ar yr amgylchedd dŵr croyw
- Dydd Mercher 18fed - effeithiau ar yr amgylchedd morol
- Dydd Iau 19eg - effeithiau ar bobl a'r amgylchedd trefol
- Dydd Gwener 20fed - bioddiogelwch: beth mae hyn yn ei olygu, a beth all pobl a sefydliadau ei wneud i wella eu bioddiogelwch?
- Dydd Sadwrn 21ain a dydd Sul 22ain – digwyddiadau a gweithgareddau i gymryd rhan ynddynt
Sut i gymryd rhan yn yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol
Ymuno â gweithgaredd. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnal llawer o ddigwyddiadau ledled Cymru ar gyfer yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol; am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein calendr digwyddiadau.
Rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol. Dilynwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar Twitter, Facebook ac Instagram i ddysgu am rywogaethau ymledol. Gallwch hefyd edrych ar @InvasiveSp ar Twitter a chofiwch ddefnyddio #INNSweek wrth bostio ar gyfryngau cymdeithasol!
Ond yn fwy na dim cofiwch gael hwyl yn dysgu am rywogaethau ymledol, bioddiogelwch a sut gallwch chi helpu i warchod yr amgylchedd.