Arch Bwerau Bywyd Gwyllt

Arch Bwerau Bywyd Gwyllt

© Dale Sutton/2020vision © Dale Sutton/2020vision

Dydi bywyd gwyllt yn rhyfeddol? Mae Gogledd Cymru yn llawn byd natur sy’n defnyddio arch bwerau i anadlu, bwyta, yfed, nofio, hedfan, cuddio, achub y blaned a mynd ar wyliau hyd yn oed!

Oeddech chi’n gwybod?

  • Mae gan weilch y pysgod amrant tryloyw sy'n amddiffyn eu llygaid o dan y dŵr.
  • Gall brogaod cyffredin anadlu ac yfed drwy eu croen.
  • Gall pathewod dreulio bron i naw mis o'r flwyddyn yn cysgu.
  • Gall glöyn byw y fantell dramor fudo am gyfanswm anhygoel o 5,000 o filltiroedd.
  • Gall môr-gyllyll cyffredin newid lliw a gwead yn gyflym iawn i gyd-fynd â’u cefndir.
  • Mae hebogau tramor yn gallu hedfan ar gyflymder anhygoel o hyd at 200 milltir yr awr.
  • Mae morwellt yn gyfrifol am 15% o gyfanswm amsugno carbon y cefnforoedd.
  • Mae wystrys y coed yn gigysyddion sy'n rhyddhau tocsin pwerus i lonyddu llyngyr microsgopig sy’n mynd heibio.
  • Gall mwsoglau sffagnwm amsugno mwy nag wyth gwaith eu pwysau eu hunain mewn dŵr.
  • Mae coed yw yn byw am amser eithriadol o hir. Amcangyfrifir bod un goeden yn Llangernyw mor hen â 5,000 o flynyddoedd oed.

Fel rhywun sy’n hoff iawn o natur, mae gennych chi arch bŵer hefyd! Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, fe allwch chi helpu i ddiogelu bywyd gwyllt a llefydd gwyllt lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy adael rhodd yn eich Ewyllys i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Fideo © Mike FlahertyYmddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru | Hebogau tramor © Bertie Gregory/2020VISION

Mae ewyllysiau’n gwneud pethau pwerus eisoes - yn ystod y blynyddoedd diwethaf, maen nhw wedi ein helpu ni i reoli gwarchodfeydd natur, plannu coed, diogelu rhywogaethau unigol, achub safleoedd bywyd gwyllt a helpu plant ysgol i greu gerddi bywyd gwyllt hardd - ond mae'n amlwg bod cymaint mwy y gellid ei wneud.

“Rydw i’n gwybod sut mae’n rhaid cefnogi’r holl waith mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud yn ariannol - a pha mor werthfawr y gall ewyllys fod wrth ei ychwanegu at fy aelodaeth bresennol” Diane

 

Mwy o wybodaeth ar ein tudalennau am ewyllysiau ar y wefan

 

Gallwch chi adael rhodd yn eich Ewyllys yn hawdd drwy siarad â'ch cyfreithiwr. Fel arall, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi ymrwymo i nifer o bartneriaethau sy'n galluogi ein cefnogwyr i ysgrifennu eu Hewyllys am ddim gartref, ar-lein neu gyda chyfreithiwr lleol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â mi i drefnu trafodaeth yn gwbl gyfrinachol neu ewch i'n tudalennau ni ar y we sy’n rhoi sylw i ewyllysiau.