Disgynnydd Gwaith Powdwr a chefnogwr yr Ymddiriedolaethau Natur

Disgynnydd Gwaith Powdwr a chefnogwr yr Ymddiriedolaethau Natur

Diane Lea © Mike Flaherty

Mae Diane Lea yn rhannu stori ffrwydrol ei thaid - a pham ei bod wedi dewis cefnogi ei waddol yng Ngwaith Powdwr gyda’i gwaddol ei hun.

"Aeth fy nhaid, Charles Francis Cooke, a'i frawd Ralph i fusnes gyda'i gilydd yn 1922 pan wnaethant brynu safle ffatri ffrwydron y Weinyddiaeth Arfau ym Mhenrhyndeudraeth – sy’n cael ei hadnabod heddiw fel Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Gadawodd swydd beirianyddol gyda chyflog da yn Norwich i sefydlu'r busnes ar y cyd a rhoddodd y ddau eu cynilion yn y fenter – yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf wrth i’r busnes sefydlu, dim ond £1 yr wythnos o gyflog oedd fy nhaid yn ei gymryd. Roedd yn byw drws nesaf i'r ffatri ac roedd ar y safle bob dydd o'r wythnos; gan fynd â fy mam yno hefyd weithiau – bu'r teulu'n berchen ar y busnes tan 1958".

Fe sylweddolais i fy mod i eisiau helpu i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth
yn gallu parhau i wneud ei gwaith anhygoel.
Diane Lea

"Fe wnaeth Charles Cooke, fel peiriannydd, gynllunio ac adeiladu'r system gludo uwch ben ar gyfer deunyddiau crai, fel bod posib eu symud yn haws o amgylch y safle bryniog, gan sicrhau llawer llai o godi trwm i'r gweithlu. Dyluniodd ac adeiladodd dwnnel hefyd i gael mynediad haws o un ochr i'r safle i'r llall, gan alluogi i'r ddau leoliad fod ar wahân o hyd am resymau diogelwch. Flynyddoedd yn ddiweddarach, pan gynigiwyd fy swydd gyntaf un i mi fel clerc cyfrifon yng Ngorsaf Pŵer Niwclear Trawsfynydd, llwyddais i brofi'r cyfuniad o olygfeydd ysblennydd a pherygl sylfaenol drosof i fy hun!"

"Wrth i fy mywyd yn y gwaith ddatblygu, symudais o amgylch y wlad yn gweithio ym maes rheolaeth gyffredinol yn y GIG ac fel Prif Weithredwr elusen iechyd a gofal cymdeithasol. Yno, roedd trafod contractau, ceisiadau grant a chodi arian cyffredinol i gyd yn rhan o fy rôl, a gwelais pa mor werthfawr oedd ein cefnogwyr a'n rhoddwyr i'n galluogi i gyflawni ein hamcanion. Yn y pen draw, yn 2008, prynodd fy mam a minnau eiddo gyda'n gilydd yn Llan Ffestiniog – a oedd unwaith, mewn cyd-ddigwyddiad od, wedi bod yn eiddo i’r teulu Casson, a gafodd y drwydded gyntaf un (yn 1875) ar gyfer ffatri ffrwydron ym Mhenrhyndeudraeth".

An arial photo of the estuary at Gwaith Powdwr. The river flows between open areas of green fields, with shallow patchy sand bars, and semi-flooded fields at it's borders. A road bridge crosses the river upstream, connecting both sides in a sweeping curve. Hills and wooded land enclose the estuary on one side, the sea on the other.

Gwaith Powdwr Nature Reserve © Pat Waring

Gwaith Powdwr

Gwarchodfa natur ôl-ddiwydiannol ragorol gyda hanes ffrwydrol.

Gwaith Powdwr

"Yn fuan ar ôl dychwelyd i'r ardal, mynychais ddigwyddiad artistig arbennig a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Natur yng Ngwaith Powdwr – profiad a oedd yn ysbrydoledig, yn procio'r meddwl ac yn bleserus iawn. Dyna pryd sylweddolais i’r rôl bwysig roedd yr Ymddiriedolaeth yn ei chyflawni – nid yn unig wrth reoli'r amgylchedd ar y safle ond wrth annog plant ac oedolion i ddefnyddio eu dychymyg a gofalu am y bywyd gwyllt a'r tir i genedlaethau'r dyfodol eu profi. Wrth feddwl yn ôl am fy mywyd yn y gwaith, fe sylweddolais i fy mod i eisiau helpu i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn gallu parhau i wneud ei gwaith anhygoel – heb ddefnyddio gormod o'i hadnoddau gwerthfawr ei hun ar geisio codi arian o ffynhonnell arall".

"Gyda hyn mewn golwg, pan wnes i fy Ewyllys yn ddiweddar, roeddwn i eisiau cynnwys yr Ymddiriedolaeth Natur fel buddiolwr. Wedi'r cyfan, mae codi arian teuluol ar gyfer yr ardal leol yn draddodiad gwych – ar ddiwedd y 1930au, fy mam, Audrey, oedd Brenhines y Carnifal ym Mhenrhyndeudraeth a defnyddiwyd yr arian a godwyd gan y cyngor yn y dathliadau i dalu am gae chwarae newydd ar gyfer y pentref, ac fe gafodd hi’r anrhydedd o’i agor a phlannu coeden yno i goffáu'r digwyddiad! Rwy'n gwybod bod rhaid cefnogi'r holl waith mae'r Ymddiriedolaeth yn ei wneud yn ariannol – a pha mor werthfawr y gallai gwaddol fod o’i ychwanegu at fy aelodaeth bresennol. Cytunais hefyd i ysgrifennu'r darn yma ar gyfer y cylchgrawn rydych chi’n ei ddarllen nawr er mwyn helpu i egluro pam y penderfynais y dylai fy ngwaddol fy hun ddod yn rhan o waddol fy nheulu yng Ngwaith Powdwr - ac, wrth gwrs, i'ch annog chi hefyd i ystyried gwneud eich marc".

Diane Lea

Beth fydd eich gwaddol?

Ar ôl i chi ddarparu ar gyfer eich anwyliaid, mae cofio am Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eich ewyllys yn gallu helpu i gadw eich atgofion am ein bywyd gwyllt yn fyw am genedlaethau i ddod.  Mae arnom ni angen y gefnogaeth yma er mwyn sicrhau bod plant Gogledd Cymru’n gallu parhau i fwynhau eu bywyd gwyllt a’u llefydd gwyllt wrth iddyn nhw dyfu i fyny a chael eu teuluoedd eu hunain.

Mae pob rhodd ym mhob Ewyllys, boed yn fach neu’n fawr, yn gwneud gwahaniaeth.

Gadewch rodd yn eich ewyllys