Swyddogion Prosiect: Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) - 1x Canolbarth Cymru ac 1x De Cymru

Swyddogion Prosiect: Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) - 1x Canolbarth Cymru ac 1x De Cymru

Diwrnod cau:
Cyflog: £12,500
Math y cytundeb: Cyfnod penodol / Oriau gweithio: Rhan amser
Lleoliad:
WTSWW office at Parc Slip Nature Reserve (TBC), The role can be based at a WTSWW office (to be discussed with the successful candidate).
The Nature Centre, Fountain Rd, Aberkenfig, Tondu,
Bridgend, CF32 0EH
Remote working
Ydych chi'n angerddol am rywogaethau ymledol a bioamrywiaeth? Ydych chi'n hyderus mewn digwyddiadau cyhoeddus? Rydym wedi datblygu dwy swydd newydd gyda thîm prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) gan helpu i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol ledled Cymru a’u rheoli.

Manylion cyswllt

I wneud cais, e-bostiwch eich llythyr eglurhaol a CV ar ffurf PDF at Gareth.Holland-Jones@NorthWalesWildlifeTrust.org.uk erbyn hanner nos ar nos Fercher 8fed Mai 2024 fan bellaf.

Tystlythyr swydd: WaREN Project Officer (1x Mid Wales and 1x South Wales)

Mae WaREN wrthi'n datblygu fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol ledled Cymru. Rydym yn datblygu cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid sy’n gweithredu ar rywogaethau ymledol, a hefyd yn cynyddu’r ymgysylltu â’r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol drwy gyfathrebu’r wyddoniaeth yn effeithiol a rhannu arfer gorau. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ardaloedd newydd lle gall gael effaith gadarnhaol ar gymunedau. Mae hyn yn cynnwys gwella’r amodau ar gyfer rhywogaethau brodorol, a phryfed peillio, fel eu bod yn gallu ffynnu, drwy gael gwared ar rywogaethau estron ymledol.  Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Rydym yn recriwtio ar gyfer dau swyddog prosiect rhan amser, un i weithio yn ardal Canolbarth Cymru gyda ffocws ar ardaloedd Y Trallwng a Llanidloes ac un i weithio yn ardal De Cymru gyda ffocws ar ardaloedd Abertawe, Caerdydd a Merthyr Tudful.

Byddech yn gyflogedig gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae WaREN yn brosiect partneriaeth sy’n cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac sy’n gweithio ar draws Cymru gyfan.

Mae hon yn swydd sydd wedi’i lleoli gartref ond bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddefnyddio ei gludiant ei hun i deithio o fewn ardaloedd Canolbarth Cymru neu Dde Cymru, yn dibynnu ar y swydd y gwneir cais amdani.

Swydd ran amser dros dro yw hon o 0.5FTE (17.5 awr yr wythnos) tan 30ain Medi 2025.

I wneud cais, e-bostiwch eich llythyr eglurhaol a CV ar ffurf PDF at Gareth.Holland-Jones@NorthWalesWildlifeTrust.org.uk erbyn hanner nos ar nos fan bellaf. Cynhelir y cyfweliadau ar ddydd Gwener y 17fed o Fai.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, lawrlwythwch y disgrifiad swydd isod.

Dyddiad cau: Fercher 8fed Mai 2024 (rhaid derbyn ceisiadau erbyn 24:00)

Cyfweliadau i'w cynnal: ddydd Gwener y 17fed o Fai ar-lein

 

WCVA logo

© WCVA