Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru yn Parhau!!

Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru yn Parhau!!

© Wye Valley AONB

Mae Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn parhau. Bydd y blog hwn yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn sy'n newydd gyda WaREN, sut y byddwn yn ei gyflawni a sut y gallwch chi gymryd rhan.

Helo, Gareth sydd yma, Rheolwr prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN).

Prosiect Rhwydwaith Ecolegol Cymru Gydnerth (WaREN) yn anelu at hyrwyddo bioamrywiaeth a gwytnwch ecolegol. rydym cyflawni hyn drwy ddatblygu dull cydweithredol a ffordd gynaliadwy o fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol ledled Cymru. Mae WaREN yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein partneriaid prosiect; edrychwch ar ein tudalen we i gweld ein holl bartneriaid.

Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod WaREN wedi derbyn cyllid i barhau tan fis Rhagfyr 2025 gan WCVA

Bydd WaREN yn parhau i ymgysylltu â phobl ar fater Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) drwy ein hymgyrch Ymledwyr Ecosystem a thrwy ymuno a chynnal digwyddiadau ledled Cymru. Byddwn yn dosbarthu ein cardiau rhywogaethau ymledol, llyfrau lliwio, pecynnau adnoddau rhywogaethau ymledol ac yn defnyddio ein gêm ryngweithiol i godi ymwybyddiaeth o INNS ledled Cymru.

Yn ogystal, y tro yma bydd WaREN yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer plannu ac adfer cynefinoedd naturiol a allai fod wedi cael eu difrodi neu eu dinistrio gan Rywogaethau Estron Ymledol (INNS). Bydd WaREN yn gweithio i ymgysylltu a chefnogi pobl i'w helpu i ddeall pwysigrwydd bioamrywiaeth a sut gallant helpu i'w diogelu.

Byddwn yn rheoli safleoedd sydd â rhywogaethau ymledol fel rhan o raglen ehangach i reoli coetiroedd a gwella dŵr cymunedol a mannau gwyrdd drwy reoli INNS. Yn ogystal â hyn, bydd WaREN yn cefnogi seilwaith drwy gefnogi prosiectau neu Grwpiau Gweithredu Lleol drwy ein gwybodaeth am INNS a rheolaeth ymarferol ar INNS.

Bydd WaREN yn gweithio gyda Grwpiau Gweithredu Lleol a phrosiectau eraill i ddod ag ardaloedd sy'n cael eu hesgeuluso neu sydd mewn cyflwr gwael yn ôl i ddefnydd gan y gymuned fel bod pawb yn gallu eu mwynhau. Y nod yw gwneud Cymru yn lle gwell i bobl a bywyd gwyllt, drwy warchod a hyrwyddo bioamrywiaeth.

Meysydd targed y prosiect yw:

  • Yng Ngogledd Cymru; Wrecsam a Llangefni,
  • Yng Nghanolbarth Cymru; y Trallwng a Llanidloes,
  • Yn Ne Cymru, Merthyr Tudful, Abertawe, a Chaerdydd.

Os ydych chi’n gwybod am unrhyw brosiectau neu Grwpiau Gweithredu Lleol / Grwpiau Gwirfoddoli a allai elwa o'r gefnogaeth sydd wedi’i hawgrymu uchod, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu trafod y prosiect a'r gefnogaeth y gallwn ni ei darparu.

Darperir y cyllid gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi o Arwyddocâd Cenedlaethol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

 

WCVA logo

© WCVA