CADWAETH BYWYD GWYLLT

Pontcysyllte Aqueduct on the River Dee

©NWWT

CADWREATH BYWYD GWYLLT

Prosiect Rheoli INNS y Ddyfrdwy Uchaf a Chanol y Ddyfrdwy

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) wedi bod yn rheoli Rhywogaethau Estron Ymledol (INNS) yn Nalgylch Afon Dyfrdwy drwy Brosiect Rhywogaethau Estron Ymledol y Ddyfrdwy a Phrosiect Lles Ein Hafonydd ers degawd. Diolch i ymdrechion blynyddol parhaus staff, contractwyr a gwirfoddolwyr YNGC, mae’r ffromlys chwarennog wedi gostwng yn sylweddol i lefelau isel yn Nalgylch Uchaf y Ddyfrdwy.

OND rydyn ni eisiau gwneud mwy!!

Nod Prosiect Rheoli INNS y Ddyfrdwy Uchaf a Chanol y Ddyfrdwy (UMDIM) yw arolygu a rheoli tua 45km o Afon Dyfrdwy ar gyfer ffromlys chwarennog, canclwm Japan, a phidyn-y-gog Americanaidd rhwng Corwen a Newbridge, Gogledd Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag YNGC, contractwyr, Grwpiau Gweithredu Lleol, a gwirfoddolwyr.

Mae arnom ni eich angen CHI!!

Gallwch chi helpu Prosiect UMDIM i gyflawni ei nodau.

Beth am fod yn Hyrwyddwr Bywyd Gwyllt Afonydd

Edrychwch ar ein tudalen newyddion am y dyddiau hyfforddi diweddaraf am ddim mewn INNS ac ymwybyddiaeth bioddiogelwch, Diogelwch Afonydd, a defnydd diogel wedi’i achredu o blaladdwyr.

Tynnu planhigyn!

Edrychwch ar ein blog ni ar sut gallwch chi helpu i reoli ffromlys chwarennog yn eich ardal leol chi.

Biosecurity for walkers

Biosecurity boot cleaning station at Tŷ Mawr County Park, lower carpark ©NWWT

Am fwy o wybodaeth am y prosiect a sut i gymryd rhan, cysylltwch gyda:

Gemma Rose Swyddog Prosiect Rhywogaethau Estron Ymledol

gemma.rose@northwaleswildlifetrust.org.uk 

Nature Networks Fund logo