Corsydd Môn i Bawb, Am Byth!

Corsydd Môn i Bawb, Am Byth!

Cors Goch Nature Reserve © Damian Hughes

Mae cyllid cychwynnol o fwy na £500,000 wedi cael ei sicrhau gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) i wella cyflwr Corsydd Ynys Môn ac i helpu i sicrhau eu bod yn goroesi ar gyfer bywyd gwyllt a phobl yn y dyfodol.

Mae cyllid cychwynnol o fwy na £500,000 wedi cael ei sicrhau gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (YNGC) i wella cyflwr Corsydd Ynys Môn ac i helpu i sicrhau eu bod yn goroesi ar gyfer bywyd gwyllt a phobl yn y dyfodol.

Bydd arian grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Sefydliad Esmée Fairbairn, yn ogystal â Dŵr Cymru / Welsh Water, yn helpu i ddatblygu cynlluniau i warchod ein corsydd gwerthfawr. Mae’r rhain yn cynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sy’n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghors Erddreiniog rhwng Capel Coch a Brynteg, Cors Bodeilio ger Talwrn; a GNG Cors Goch, ger Llanbedrgoch, sy’n cael ei rheoli gan YNGC, yn ogystal â’r cynefinoedd cors o amgylch yr ardaloedd hyn.

Mae corsydd – gwlybdiroedd alcalïaidd sy’n cronni mawn – yn storio llawer iawn o garbon, yn gweithredu fel cronfeydd carbon naturiol ac yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau prin fel y tegeirian llydanwyrdd bach, tegeirian y clêr, yr ele feddyginiaethol a mursen y de. Mae gwarchod a gwella'r tirweddau unigryw hyn yn helpu i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Anglesey fens wetland

Cors Goch Nature Reserve © Damian Hughes

Mae’r cyllid datblygu dwy flynedd yma ar gyfer prosiect Corsydd Môn wedi cael ei ddyfarnu i bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru Welsh Water, Cyngor Sir Ynys Môn a Menter Môn ac mae’n cael ei chefnogi gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac NFU Cymru.

Bydd datblygu’r prosiect yma ar raddfa’r dirwedd yn cynnwys creu coridorau a chynefinoedd bywyd gwyllt, mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol, lleihau llygredd a chynyddu ymwybyddiaeth o’r corsydd a mynediad iddynt er budd cymunedau lleol, gyda’r nod o greu tirwedd lle mae bywyd gwyllt a phobl yn ffynnu mewn amgylchedd glân, iach a chynaliadwy.

Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda thirddeiliaid a chymunedau i greu newid parhaol drwy ymgysylltu gweithredol, pawb yn meddwl yn wahanol a chydweithredu gan geisio budd a chyfleoedd ar gyfer lles cymunedol, a sicrhau bod pawb ar eu hennill o ran effeithlonrwydd amaethyddol a’r amgylchedd.

Bydd gwaith yn cael ei wneud nawr i adeiladu tystiolaeth a chefnogaeth gymunedol i sicrhau cyllid ar gyfer y cyfnod cyflawni o 5 mlynedd

A group of people on Anglesey fens

Clare Pillman (CEO, NRW) - 2nd from right, Frances Cattanach (CEO, NWWT) centre and Rhun ap Iorwerth (Leader of Plaid Cymru) 3rd from left at Cors Goch Nature Reserve © NWWT

Dywedodd Frances Cattanach, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Rydyn ni’n hynod falch o fod wedi sicrhau’r cyllid yma gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Esmée Fairbairn a Dŵr Cymru. Rydyn ni’n gyffrous iawn am y cyfleoedd y bydd y prosiect yma’n eu cynnig i’n helpu ni i achub Corsydd Môn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl leol i wneud i hyn ddigwydd.”

“Mae byd natur yn chwarae rhan ganolog wrth fynd i’r afael â phroblemau lleol a byd-eang, yn enwedig colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a bydd y prosiect yma’n cyfrannu’n aruthrol at ein huchelgais ni o 30% o dir a môr Gogledd Cymru yn cael eu cysylltu a’u gwarchod ar gyfer adferiad byd natur erbyn 2030.”

Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Llefydd CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

“Mae sicrhau’r cyllid datblygu ar gyfer y prosiect yma’n newyddion gwych gan ei fod yn galluogi i ni ddechrau gwaith partneriaeth i warchod y safleoedd arbennig yma a darparu budd i’r gymuned”.

“Mae’r prosiect yma nid yn unig yn cyflawni nodau amgylcheddol ond hefyd yn cyfrannu at wytnwch cymunedol, cyfleoedd cyflogaeth a’n gwaith ehangach ni i greu llefydd lle mae byd natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl yn rhyngweithio ac yn elwa o’r safleoedd hyn, a fyddai wedi bod yn adnodd pwysig i gymunedau lleol yn y gorffennol.

“Bydd yn gwella cyflwr ac ansawdd Corsydd Môn er budd rhywogaethau, cynefinoedd ac ansawdd dŵr, gan gyfrannu at gymryd camau brys ynghylch yr argyfyngau hinsawdd a natur drwy sicrhau bod y Corsydd yn darparu storfa garbon hirdymor, gan wella iechyd y boblogaeth leol a gwarchod byd natur.”

Dywedodd Alwyn Roberts, Rheolwr Prosiect DCWW ar gyfer Tîm Dalgylch Dŵr Yfed:

"Mae Cors Erddreiniog yn syrthio o fewn dalgylch Dŵr Yfed Cefni. Mae ymgysylltu a chyflawni'r prosiect hwn mewn partneriaeth â rheolwyr tir lleol a ffermwyr yn cyd-fynd ag egwyddorion craidd ein dull TarddLe o reoli dalgylchoedd. Mae'r prosiect yn cynnig cyfle gwych i ni weithio gydag ENGO a rhanddeiliaid eraill mewn dull cydgysylltiedig a thargedol i helpu i wella ansawdd, cysondeb a gwytnwch ffynonellau dŵr crai yn y dyfodol.”

Rydyn ni'n recriwtio!

Mae'r prosiect yn recriwtio tîm bach ar hyn o bryd i gyflawni cam datblygu 2 flynedd y prosiect, a fydd yn cynnwys ymgysylltu cymunedol dwys. I wneud cais ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/jobs

partner logos